Alert Section

Ailalluogi


Rhaglen o asesiadau a chymorth byrdymor wedi’u llunio i’ch helpu i adennill neu gadw’ch annibyniaeth yw ailalluogi. Mae ailalluogi’n datblygu’r hyn y gallwch ei wneud ac yn eich cynorthwyo i adennill eich sgiliau, eich hyder a’ch annibyniaeth i aros yn eich cartref eich hun. Mae ailalluogi’n wasanaeth a gynigir am ddim am gyfnod byr.

Gall bara wythnos yn unig neu hyd at uchafswm o ddau wythnos, yn dibynnu ar eich anghenion. Mae ailalluogi’n anelu at gynyddu’ch annibyniaeth hirdymor, eich dewisiadau a gwella ansawdd eich bywyd.


Sut mae Ailalluogi’n gweithio?

Mae’r gwasanaeth ailalluogi yn eich helpu i wneud pethau drosoch eich hun, yn hytrach na gwneud pethau i chi. Y nod gyffredinol yw eich helpu i ddygymod â byw yn eich cartref eto.

Mae’r math o gymorth a ddarperir yn cael ei addasu’n arbennig yn unol â’n hasesiad o’ch anghenion unigol. Er enghraifft:

  • Help â gofal personol
  • Cymorth ymarferol i baratoi prydau bwyd
  • Atgoffa i gymryd meddyginiaeth neu reoli meddyginiaeth
  • Darparu offer neu dechnoleg gynorthwyol gyda help i ddeall sut i’w defnyddio
  • Dysgu ymarferion i’ch helpu i symud eto ac i roi nerth a hyder i chi - gyda chymorth ac anogaeth i wneud yr ymarferion
  • Darganfod atebion ymarferol i broblemau sydd efallai’n cyfyngu ar eich annibyniaeth.

Ar gyfer pwy mae’r gwasanaeth Ailalluogi?

Gall ailalluogi helpu nifer o wahanol bobl gan gynnwys pobl hŷn, pobl ag anableddau corfforol neu namau synhwyraidd a phobl ag anawsterau iechyd meddwl neu anableddau dysgu.

Bydd angen i chi fyw yn eich cartref eich hun, neu allu byw yn y gymuned gyda rhywfaint o gymorth, yn Sir y Fflint a bod dros 18 oed.

Mae’n bosibl y bydd oedolion sy’n chwilio am wasanaeth gofal cymdeithasol yn cael gwasanaeth Ailalluogi cyn y bydd unrhyw wasanaeth gofal hirdymor yn cael ei gynllunio.  Bydd asesiad yn cael ei gynnal i ganfod y dull gweithio gorau i chi.


Beth sy’n digwydd os bydd angen gofal parhaus arnaf?

Dim ond cymorth byrdymor sy’n cael ei ddarparu gan y gwasanaeth Ailalluogi.  Ar ôl i chi ddechrau byw mor annibynnol ag sy’n bosibl, daw’r rhaglen Ailalluogi i ben.  Os oes gennych anghenion gofal parhaus, cewch eu trafod er mwyn llunio pecyn gofal os yw hynny’n briodol.

Mae’n bosibl y bydd angen cynnal Asesiad Ariannol ar gyfer unrhyw drefniant gofal hirdymor ac mae’n bosibl y bydd raid i chi dalu amdano.


Sut i wneud cais am wasanaeth Ailalluogi

Cysylltwch â Un Pwynt Mynediad ar 03000 858858 a dywedwch wrthynt beth yw’ch anawsterau ac fe gynhaliwn asesiad o’ch anghenion.  Gallwch wneud hyn eich hun neu gallwch ofyn i rywun arall ei wneud ar eich rhan.

Taflenni ffeithiol eraill a allai fod yn ddefnyddiol: 

Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys copïau o’r taflenni uchod, cysylltwch â:

Un Pwynt Mynediad
Preswylfa
Ffordd Hendy
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 1PZ
Ffon: 03000 858858
Ebost: spoa@flintshire.gov.uk

Rhif ffôn mewn argyfwng y tu allan i oriau yw: 0345 053 3116