Alert Section

Therapi Galwedigaethol


Mae gwasanaeth Therapi Galwedigaethol Sir y Fflint ar gael i unrhyw un dros 18 oed sydd â chyflyrau iechyd parhaol sylweddol sy'n eu heffeithio eu hunain a'u teuluoedd wrth fyw eu bywydau bob dydd yn eu cartrefi a'u cymunedau.

Fel proffesiwn, credwn fod 'galwedigaeth' yn hanfodol i iechyd a lles pobl. Felly mae helpu pobl i wneud eu gwaith a gweithgareddau arwyddocaol yn sail i arfer therapi galwedigaethol (Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol, 2017).

Yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Chod Ymddygiad Therapi Galwedigaethol (2016), nod y gwasanaeth yw helpu pobl i oresgyn eu rhwystrau ac adeiladu ar eu cryfderau, gan ddarparu'r lefelau angenrheidiol o wybodaeth a chyngor i'w cefnogi i gyflawni eu canlyniadau.

Pan fydd angen cymorth arbenigol, gall y tîm ddarparu cynlluniau arweiniol Symud a Thrin, adroddiadau tai a llwybrau mynediad at offer ac addasiadau os mai dyma yw'r ateb gorau.

Maent yn gweithio mewn partneriaeth â phobl yn y gymuned a gweithwyr proffesiynol eraill trwy gynnig eu harbenigedd er mwyn cyfrannu at ddarganfod atebion sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

 

Sut allwn ni helpu

Yn y Gwasanaethau Cymdeithasol mae Therapyddion Galwedigaethol a Swyddogion Anabledd yn gweithio fel rhan o’r tîm Derbyn Therapi Galwedigaethol Cyswllt Cyntaf, Gwasanaethau Bro ac Ail-alluogi, ac mae therapydd galwedigaethol yng Ngwasanaethau Tai. (Mae taflen arall ar gael argyfer 'Gwasanaethau Therapi Galwedigaethol i Blant’).  Gellir cysylltu â’r Therapydd Galwedigaethol a Arweinir gan Ymgynghorydd ar 03000 858858 neu anfonwch e-bost at SSDUTY@flintshire.gov.uk am fwy o gyngor a gwybodaeth.

Atgyfeiriadau
Gallwch chi neu rywun ar eich rhan, gysylltu â’n Tîm Cyswllt Cyntaf os ydy cham gefnogaeth, er mwyn trafod beth yr hoffech ei gyflawni.  Byddant yn eich cefnogi drwy gael sgwrs er mwyn darganfod beth sy'n bwysig i chi, nodi eich cryfderau a thrafod beth sy'n eich rhwystro rhag cyflawni eich nodau hefyd.  Mae’n bosib y byddant yn gallu rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i chi er mwyneich galluogi chi a / neu'ch teulu neu'ch cymuned i ddod o hyd i ddatrysiad eichhun ar y pwynt hwn.

Os na fydd hyn yn bosib, byddai atgyfeiriad, y cyfeirir ato fel ymholiad, yn caelei gofnodi a'i rannu gyda'r tîm perthnasol.

Brysbennu
Mae atgyfeiriadau a dderbynnir yn cael eu sgrinio gan Reolwyr Tîm o fewn tridiwrnod gwaith a bydd cyngor ynglŷn â chyfeirio ymlaen yn cael ei roi os nad ydynt yn briodol.  Mae’n bosib y bydd y rheolwr yn gofyn am wybodaeth bellacher mwyn cefnogi’r penderfyniad hwn.  Bydd unrhyw gamau gweithredu y gellir eu cefnogi yn syth yn cael eu gwneud, fel darparu gwybodaeth neu gyngor i leihau risgiau.

Ni all y tîm ddarparu ymateb i argyfwng felly os oes gennych angen brys, cysylltwch â'ch Meddyg Teulu, NHS Direct neu 999 fel bo’n briodol.

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd atgyfeiriadau yn cael eu hychwanegu at ein rhestr aros er mwyn eu dyrannu pan fydd y gallu gan y tîm.

Dyraniadau
Mae’r cyfnod aros ar gyfer y rhan fwyaf o achosion yn amrywio o ddyddiau hy dat dri mis yn gyffredinol wedi brysbennu, yn ddibynnol ar yr asesiad angenrheidiol.  Mae’r tîm i gyd yn gweithio mor galed ag y gallant er mwyn cwblhau eu gwaith gan sicrhau fod teuluoedd yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a'u cefnogi.

Os oes gennych unrhyw bryderon yn ystod y cyfnod aros hwn neu os hoffech ofyn unrhyw gwestiynau, cysylltwch â 03000 858858 i adael neges neu anfonwch e-bost at ac fe fyddwn yn ceisio cysylltu’n ôl â chi cyn gynted âphosib.

Asesiadau
Efallai y byddech yn elwa o asesiad, lle bydd Swyddog Anabledd neu Therapydd Galwedigaethol yn ymweld â chi er mwyn trafod eich canlyniadau wyneb yn wyneb.  Sgwrs yw asesiad mewn gwirionedd, sy’n cychwyn drwy sefydlu beth sy’n bwysig i chi a beth hoffech chi ei gyflawni.  Byddwn yn falch ogynnwys eich teulu neu'ch gofalwyr fel bo'n briodol.

Mae’n rhoi cyfle i adlewyrchu ar beth sy'n gweithio'n dda a pha bethau syddddim yn mynd mor dda.  Bydd yr holl opsiynau yn cael eu hystyried a’u trafod cyn creu cynllun.

Mae’n bosib y bydd hyn yn golygu mwy nag un ymweliad ac y bydd rhaid i bobl eraill gynorthwyo i gasglu’r holl wybodaeth a gwneud i bethau weithio.  Bydd ywybodaeth yma’n cael ei gofnodi ar ein system electronig PARIS a byddwch ynd erbyn copi yn ogystal ag unrhyw ffurflenni eraill y byddwn yn eu cwblhau.

Rydym wedi ein hyfforddi ac mae gennym brofiad o weithio gyda phobl ag anableddau fel y gallwn eich cynorthwyo i gyflawni’ch canlyniadau wrth ystyriedeich amgylchiadau a’ch amgylchedd personol.  Yn ogystal â thrafod eich sefyllfa, mae’n bosib y byddwn am wylio sut rydych yn gwneud pethau er mwyn ffurfio rhan o'r asesiad.

Ymyriadau
Ar y pwynt hwn, mae’n bosib y byddwn yn gallu rhoi cyngor a chymorth i chi, eich teulu neu eich cymuned i ddod o hyd i ddatrysiadau er mwyn hyrwyddo'ch annibyniaeth a’ch lles.  Mae gennym gysylltiadau agos â’r gwasanaethau gwirfoddol a grwpiau cymunedol y gallech gysylltu â nhw.  Mae gennym hefyd wybodaeth ar fathau o offer y gallwch eu prynu neu newidiadau y gallech eu gwneud i'ch cartref neu i’ch ffordd o fyw er mwyn gwneud bywyd yn haws i chi.

Mae’n bosib y bydd asesiad gan ein Therapyddion Galwedigaethol Ail-alluogi a Ffisiotherapyddion yn cael ei argymell, yn enwedig wedi i chi fod yn yr ysbytyneu ar ôl newid yn eich gallu, er mwyn dangos ffordd newydd i chi o reoli pethau a’ch helpu i gael pethau yn ôl i’r arfer.

Yn ogystal â darparu gwybodaeth a chymorth i chi, gall y tîm therapi galwedigaethol wneud cais am offer ac addasiadau.  Gweler ein taflenni ar Addasiadau ac Offer am fwy o wybodaeth ar y meysydd hyn.

Er mwyn sicrhau fod y rhain yn cael eu defnyddio’n deg er mwyn cefnogi pawb sydd mewn angen, yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, bydd angen i’r Therapydd Galwedigaethol sicrhau fod y rhain ynhanfodol ar gyfer eich canlyniadau ac na allent gael eu darparu mewn unrhyw ffordd arall.  Mae panel rheoli yn cwrdd bob wythnos er mwyn sicrhau fod ceisiadau a wneir yn gymesur ac yn cael eu hystyried yn llawn er mwyn sicrhau fod adnoddau'n cael eu defnyddio'n deg.

Nodwch fodd bynnag, pan fydd teuluoedd yn denantiaid i’r cyngor, cymdeithasau tai neu landlordiaid preifat, rhaid i’r landlordiaid gytuno i un rhyw addasiadau (gwaith adeiladu neu ffitio offer sefydlog), hyd yn oed os yw'r Therapydd Galwedigaethol yn eu cefnogi.

Er mwyn trafod atgyfeiriad cysylltwch â:
Gwasanaethau Cymdeithasol, Preswylfa, Ffordd Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1PZ.
Ffôn: 03000 858858
E-bost: spoa@flintshire.gov.uk

Chwynion 
Os aiff pethau o chwith - rydym yn ymwybodol y gall fod achlysuron pan fydd gan ddefnyddiwr cwyn gŵyn er gwaethaf ein hymdrechion gorau. Gellir gwneud unrhyw gŵyn am wasanaethau i'ch Therapydd Galwedigaethol neu Swyddog Anabledd neu'r Rheolwr Tîm.

Os ydych am wneud cwyn ffurfiol dylid gwneud hyn i Swyddog Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol.

Addasiadau i Gefnogi Annibyniaeth

Nod addasiadau i gartrefi pobl yw eu cefnogi i aros mor annibynnol ag sy'n bosib ac i gyflawni eu 'gwaith' dyddiol, megis edrych ar ôl eu hunain, symud o gwmpas eu cartrefi ac allan yn y gymuned er mwyn gwneud y pethau sydd obwys iddynt.

Mae cynllun ‘Hwyluso’ Llywodraeth Cymru yn ffordd o roi gwybod i bobl am y gefnogaeth sydd ei angen arnynt p’un ai a ydynt yn byw yn eu cartref eu hunain neu’n rhentu’n breifat neu trwy’r cyngor neu gymdeithas dai.

Maent yn dosbarthu’r addasiadau fel rhai bach, megis gosod canllawiau gafael a chanllawiau grisiau; canolig megis lifftiau grisiau ac ystafelloedd ymolchi mynediad gwastad; a mwy gallai gynnwys rheoliadau cynllunio ac adeiladu er mwyn eu cyflawni.

Gellir cael rhai addasiadau bach, megis canllawiau gafael, yn uniongyrchol trwy gysylltu â’ch landlord drwy’r cynllun hwn (gwybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru)


Asesiad
Mae Therapyddion Galwedigaethol a Swyddogion Anabledd sydd wedi eu cyflogi gan Wasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint yn fedrus wrth ymgymryd ag asesiadau a gwneud argymhellion am y math o newidiadau a fyddai’n eich cefnogi chi, eich teulu neu ofalwyr i gymryd rhan mewn bywyd pob dydd.

Mewn rhai achosion, gall argymhellion fod ar gyfer canllawiau gafael syml sy’n rhoi tawelwch meddwl a hyder i bobl, a gallai fod yn rhywbeth mae pobl yn fodlon ei ariannu eu hunain ar ôl cael y cyngor a’r wybodaeth gywir.

Yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, fel rhano’r asesiad, trafodir agweddau eraill a allai arwain at gyflawni canlyniadau, gan gynnwys newidiadau posib i ffordd o fyw, defnyddio technegau ac/neu gyfarpar gwahanol neu pan fyddai angen gwaith sylweddol, ystyriedy buddion o symud i rywle mwy addas. 

Grantiau ar gael
Ar gyfer addasiadau ar raddfa fawr, mae Grant Cyfleusterau i'r Anabl sydd fel arfer ar gyfer y rhai hynny sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain neu’n rhentu yn y sector preifat.

Mae’n grant drwy brawf modd ar gyfer gwaith dros £1000 yn bennaf (Ffoniwch 01352 703434 am ragor o wybodaeth) ac mae angen argymhelliad gan Therapydd Galwedigaethol.

Mae Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl yn gallu bod hyd at £36,000 yn ddibynnol ar y cais sy’n cael ei wneud ac ar gyfer unrhyw gais dros y swm hwn, gellir gwneud cais am fenthyciad yn ôl disgresiwn.  Mewn achos plant, nid oes angen prawf modd ar gyfer Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl ond byddai angen bodloni’r meini prawf yn dilyn asesiad.  Ni all gefnogi gwaith a wnaed eisoes gan y rhai sydd ag anabledd.

Mae’r rhai hynny sy’n byw mewn cymdeithasau tai yn gallu gwneud cais am grantiau, trwy eu cymdeithas dai (Grantiau Addasiadau Ffisegol) ac angen argymhelliad therapi galwedigaethol unwaith eto sydd weithiau’n effeithio taliadau rhent i gynnwys costau cynnal a chadw.  Mae cyllideb wedi ei neilltuoar gyfer ymgymryd â’r gwaith hwn o fewn eiddo’r cyngor.

Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio, beth bynnag yw argymhellion y therapi galwedigaethol, penderfyniad y landlord yw gwneud yr addasiadau a byddant yn ystyried y ceisiadau yn unol â'r defnydd gorau o’u stoc dai ar gyfer yr holldrigolion.

Gwaith preifat
I’r rhai hynny sy’n dymuno gwneud gwaith preifat, cysylltwch â Gofal a Thrwsio, elusen ar gyfer yr henoed a phobl anabl (01352 758700), mae ganddynt ddewis o gontractwyr cymeradwy a’u tîm eu hunain sy'n gallu cynnig cefnogaeth.

Hyd yn oed yn yr amgylchiadau hyn, mae'n bosib cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol am ganllawiau ac asesiad er mwyn sicrhau bod cam gymeriadau costus yn cael eu hosgoi.

Cynnal a chadw a gwasanaethu
Mae’n bwysig nodi bod rhywfaint o’r offer sy’n cael ei osod trwy’r grantiau hyn angen gwaith gwasanaethu a chynnal a chadw rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio’n iawn.  Os ydych yn byw yn eich eiddo eich hunan, mae’n debygol y byddwch yn cymryd cyfrifoldeb dros hyn unwaith i’r warant ddod i ben, felly trafodwch hyn cyn gwneud y gwaith er mwyn gallu rhoi cynllun yn eile.  3O fewn llety’r cyngor neu gymdeithas dai, bydd angen i chi fod yn ymwybodol o’r systemau sydd yn eu lle.  Cysylltwch â’ch tîm tai os oes gennych chi unrhyw gwestiwn.

Am gymorth neu gyngor os ydych yn ystyried addasiad:

Os nad yw pethau’n mynd yn iawn - rydym yn ymwybodol er gwaethaf ein hymdrechion gorau efallai y byddachlysuron pan fydd gan ddefnyddiwr gwasanaeth gŵyn.  Gellir gwneud unrhyw gŵyn ynghylch y gwasanaethau drwy eich Therapydd Galwedigaethol neu Swyddog Anableddau neu Reolwr Tîm.

Os ydych yn dymuno gwneud cwyn ffurfiol, dylech gysylltu â Y Swyddog Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol 

Cyfarpar i gefnogi bod yn annibynnol

Gellir defnyddio cyfarpar i gefnogi pobl yn eu bywydau bob dydd i barhau i wneud pethau sydd yn bwysig iddynt hwy.  Yn aml iawn mae ar gael ar-lein, mewn siopau anabledd lleol a siopau cadwyn genedlaethol yn ogystal â sefydliadau arbenigol.  Gellir gweld rhestr o leoliadau ar ddiwedd yr wybodaeth hon, er nid yw’n rhestr gyflawn.

Yn aml iawn gall bobl gael mynediad at y datrysiad cywir eu hunain drwy gysylltu â'n gwasanaethau i gael cyngor diduedd a gwybodaeth.  Mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl, eu teuluoedd a ffrindiau i ddod o hyd i ddatrysiadau lle bynnag bo’n bosibl gyda chyflwyniad o'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014.

Mae hyn yn caniatáu i’n gwasanaethau ganolbwyntio ar y rheiny sydd ein hangen fwyaf.  Os oes gan rywun anghenion parhaus a hyd yn oed gyda’r wybodaeth hon, a dal ddim yn teimlo’n hyderus i fynd ar ôl hyn, gallwn gynnig asesiad cymesur, ac mewn rhai achosion, treialu cyfarpar i sicrhau ei fod yn debygol o weithio i chi cyn i chi brynu unrhyw beth.  Mae hwn yn cynnig cyfle i chi feddwl am beth sy'n bwysig i chi ac i drafod syniadau ar sut y gellir ei gyflawni.

Ar gyfer y rheiny sydd ag anghenion mwy arbenigol, cyflawnir asesiad mwy manwl gan ganolbwyntio ar ‘alwedigaeth’ neu weithgareddau dyddiol yr ydych eisiau eu cyflawni a’r gefnogaeth yr ydych chi ei angen ac/ neu eich gofalwyr eu hangen.  Mae cyfarpar arbenigol yn cael eu treialu ochr yn ochr â datrysiadau eraill, megis arferion archwilio a thechnegau sy’n gallu helpu ac mewn rhai achosion addasiadau.  Mae cynllun yn cael ei lunio gyda chi a/ neu ofalwyr a theuluoedd i sefydlu pwy sy’n gyfrifol am ba elfennau o’r cynllun.  Gall hyn gynnwys codi a symud arbenigol neu gyfarpar teleofal a all fod angen eu gwasanaethu’n rheolaidd.

I gael help a chyngor, cysylltwch â:
Un Pwynt Mynediad am: 03000 858858
Gwasanaethau Cymdeithasol, Preswylfa, Ffordd Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1PZ
E-bost: spoa@flintshire.gov.uk

Adnoddau Cymunedol
Gallwch ddod o hyd i’ch fferyllydd agosaf drwy ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 neu ar y wefan yn www.nhsdirect.wales.nhs.uk.

Hefyd mae siopau arbennig sy’n gwerthu cyfarpar – gweler y Llyfr Melyn dan “Mobility & Access” neu ar y wefan yn www.yell.com

Mae rhai darparwyr lleol yn cynnwys:

  • Canolfan Adnoddau Anabl, Ysbyty Glan Clwyd, Sarn Lane, Bodelwyddan LL18 5UJ.  Ffôn: 01745 341967 neu ymweld https://www.disabilityresourcecentre.org.uk/
  • DSL Mobility Ltd, 141 Holt Road, Wrecsam, LL13 9DY.  Ffôn: 01978 253520 neu ymweld www.dslmobility.co.uk
  • Ableworld: 17 Georges Crescent, Wrecsam, LL13 8DA.  Ffôn: 01978 358588 St David’s Retail Park, High Street, Saltney, CH4 8SN.  Ffôn: 01244 675608 neu ymweld www.ableworld.co.uk
  • Vision Support, Unit 1&2, The Ropeworks, Whipcord Lane, Caer, CH1 4DZ. Ffôn: 01244 381515 neu ymweld www.visionsupport.org.uk
  • Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru 77 Conway Road, Bae Colwyn, Conwy, LL29 7LN.  Rhif Ffôn: 01492 530013 Ffacs: 01492 532615 SMS: 07719 410355 neu ymweld www.deafassociation.co.uk
  • Mae’r Disabled Living Foundation yn elusen sy’n cynnig cyngor diduedd am ddim ynghylch pob math o offer ar gyfer pobl hŷn a phobl anabl.  Eu llinell gymorth yw 0300 999 0004 neu ewch ar-lein i www.dlf.org.uk.

Sylwer: Mae’r holl wybodaeth yn gywir ar adeg yr argraffiad ond efallai byddangen ei wirio.

Nid yw Cyngor Sir Y Fflint yn cymryd cyfrifoldeb am weithredoedd cwmnïauunigol.