Alert Section

Amhariad ar gyflenwadau dŵr ar draws ardaloedd yn Sir y Fflint


Mae Dŵr Cymru yn delio gyda effaith nam ar brif bibell ddŵr ym Mrychdyn all effeithio ar y cyflenwad dŵr i rai cwsmeriaid yn Sir Fflint yn ardaloedd Y Fflint, Treffynnon, Ffynnongroyw, Maes-glas, Llanerch y Mor, Mostyn, Oakenholt, Talacre, Chwitffordd a Mancot.

Mae’r Cyngor yn gweithio’n agos â Dŵr Cymru, y gwasanaethau brys ac asiantaethau partner i gydlynu’r ymateb a sicrhau y rhoddir blaenoriaeth i’r bobl fwyaf diamddiffyn.

Cyflenwadau dŵr mewn argyfwng

Sefydlwyd gorsafoedd i bobl gasglu poteli dŵr yn y mannau hyn:
Pafiliwn Jade Jones
Earl Street, 
Y Fflint, 
CH6 5ER

I gael y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i wefan Dŵr Cymru a dilynwch Dŵr Cymru ar Facebook.