Alert Section

Tîm Diwygio Lles


A oes arnoch chi angen Cyngor a Chymorth?

Mewn ymateb i’r heriau diweddaraf sy’n wynebu llawer o’n trigolion yn Sir y Fflint, mae’r Tîm Diwygio Lles wedi cyflwyno gwasanaeth ymatebol i’ch helpu chi i wella’ch cadernid ariannol.

Os ydych chi’n teimlo y byddech chi, neu rywun yr ydych chi'n eu hadnabod, yn elwa o’r cymorth hwn, cysylltwch â’r tîm ar 01352 704848 neu anfonwch e-bost at: wrrt@flintshire.gov.uk

Gofynnwch y cwestiynau isod i chi’ch hun ac os mai ‘ydw’ ydi’r ateb i o leiaf un ohonyn nhw, yna gallwn ni eich helpu:

  • Ydych chi’n cael trafferth ymdopi â’ch biliau?
  • Ydych chi’n gweithio ar gontract dim oriau?
  • Ydych chi mewn perygl o golli eich swydd?
  • Ydych chi wedi gweld gostyngiad yn eich incwm?

Gall y tîm ymroddedig eich helpu chi i:

  • Ail-alinio'ch cyllid
  • Derbyn cymorth tymor byr
  • Edrych ar y budd-daliadau sydd ar gael i chi
  • Derbyn cefnogaeth ychwanegol  

Os hoffech chi ein cymorth, cysylltwch â’r tîm ar 01352 704848 neu anfonwch e-bost at: wrrt@flintshire.gov.uk

Gall Tîm Diwygio Lles Cyngor Sir y Fflint hefyd helpu cwsmeriaid a effeithir gan y newidiadau Diwygio'r Gyfundrefn Les canlynol: 

  • Credyd Cynhwysol
  • Tan-feddiannu (treth ystafell wely)
  • Cyfyngiadau Lwfans Tai Lleol
  • Uchafswm Budd-daliadau

Ein nod yw eich cefnogi, eich annog a'ch helpu i fod yn annibynnol yn ariannol.  Os ydych chi’n cael trafferth â rheoli eich taliadau rhent neu’n cael trafferth neilltuo arian ar gyfer biliau ac yn awyddus i ddarganfod mwy am eich opsiynau, gallwn eich helpu yn y ffyrdd canlynol:

  • Gallwn gynnig cyngor a chymorth i chi yn ymwneud â chyllidebu.  Os ydych chi'n awyddus i drefnu apwyntiad, llenwch Cais am Gefnogaeth Lles neu cysylltwch â’r Tîm Diwygio Lles ar 01352 704848 neu anfonwch e-bost at wrrt@flintshire.gov.uk 
  • Rydym yn derbyn atgyfeiriadau gan sefydliadau partner, os hoffech drefnu apwyntiad ar ran rhywun arall, cwblhewch Cais am Gefnogaeth Lles os gwelwch yn dda. 
  • Gallwn gwblhau ceisiadau brys (yn dibynnu ar amgylchiadau unigol).   Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Cronfa Cymorth Dewisol
  • Gallwn eich cyfeirio at gyngor neu gymorth arbenigol a all gynnwys rhwystrau i gyflogaeth, gofal plant, cyngor mewn perthynas â dyledion ac ati. 

Cymorth Lles 

  • Ydych chi'n cael trafferth i dalu eich rhent?
  • Ydych chi’n cael trafferth i reoli eich arian? 
  • Ydych chi wedi cael eich effeithio gan newidiadau Diwygio'r Gyfundrefn Les? 
  • Ydych chi eisiau gwybodaeth am gymorth arall sydd ar gael? 

Mae’n bosibl y bydd y Tîm Diwygio Lles yn gallu eich helpu, cysylltwch â ni ar 01352 704848 neu anfonwch e-bost at wrrt@flintshire.gov.uk

Nod Cymorth Lles yw helpu cwsmeriaid y mae arnynt angen cyngor ynghylch rheoli arian a thalu biliau yn brydlon.

Darperir cymorth drwy drefnu apwyntiadau mewn swyddfeydd lleol a chanolfannau cymunedol o fewn Sir y Fflint.   Ar hyn o bryd rydym yn Eglwys Rivertown, Shotton bob dydd Mercher rhwng 9am a 12.30pm.

Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai

Mae Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai yn daliadau y gellir eu gwneud gan y Cyngor i bobl sy'n cael Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol (Elfen Dai), ond a all fod angen rhagor o gymorth ariannol gyda'u costau tai.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai ac i weld y Polisi, cliciwch ar y dolenni canlynol: 

Credyd Cynhwysol

Os ydych chi wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol yn ddiweddar ac yn aros am eich taliad cyntaf, mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy ddilyn y ddolen ganlynol:

Cefnogaeth Cyllidebu

Gallwch gael cefnogaeth unrhyw bryd, unwaith y bydd eich hawliad am Gredyd Cynhwysol wedi’i wneud.  Cwblhewch Ffurflen Cefnogaeth Cyllidebu os ydych angen cymorth gyda chyllidebu. 

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau pellach cysylltwch â’r Tîm Ymateb Diwygio'r Gyfundrefn Les ar 01352 704848 neu anfonwch e-bost at: wrrt@flintshire.gov.uk

Twyll Hunaniaeth

Talebau Cychwyn Iach

Mae talebau Cychwyn Iach yn helpu rhieni a merched beichiog sydd ag incwm isel i brynu ffrwythau, llysiau, llaeth a fformiwla babanod.   Mae pob plentyn yn haeddu cychwyn iach mewn bywyd, felly mae Sustain yn arwain galwad 26 o elusennau a chyrff iechyd cenedlaethol gan ofyn i'r Llywodraeth sicrhau nad oes neb yn colli allan.   Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy ddilyn y ddolen ganlynol: