NID OES GAN Y CYNGOR UNRHYW DDYLETSWYDD GYFREITHIOL I'CH HELPU OS YDYCH YN DOD YN DDIGARTREF OHERWYDD ÔL-DDYLEDION RHENT.
Sylwer:
Rhoi hysbysiad yw’r cam cyntaf o gamau gweithredu cyfreithiol y cyngor i ailfeddiannu’ch cartref.
Mae dau fath o hysbysiad:-
Tenantiaid Diogel-Bydd yn cael hysbysiad yn ceisio meddiant.
Yn dilyn yr hysbysiad, mae gennych 28 diwrnod i wneud trefniant i ail-dalu'r ôl-ddyledion. Mae’r hysbysiad yn ddilys am 12 mis, gall y cyngor wneud cais unrhyw bryd o fewn y 12 mis i'r llys sirol am orchymyn i'ch troi allan o'ch cartref.
Os talwch eich rhent yn llawn yn ystod y 12 mis, ni fydd yr hysbysiad yn bodoli mwyach.
Tenantiaeth ragarweiniol - Rhybudd i fwrw ymlaen gyda meddiant.
Mae gennych 14 diwrnod i wneid cais am adolygiad o benderfyniad y cyngor i’ch troi allan. Os ymgeisiwch am adolygiad, bydd y panel adolygu’n penderfynu a yw eich tenantiaeth am barhau. Os gwneir y penderfyniad i ddod â'ch tenantiaeth i ben, bydd y Cyngor yn gwneud cais i'r llys sirol am orchymyn i droi allan a byddwch yn colli'ch cartref.
Bydd y cyngor yn gwneud cais i’r llys 28 diwrnod ar ôl cyflwyno’r hysbysiad achos. Os talwch eich rhent yn llawn yn ystod y 28 diwrnod, ni fydd yr hysbysiad yn bodoli mwyach.
Gwrandawiad Llys
Gwrandawiad llys yw’r ail gam yn y broses gyfreithiol. Byddwch yn cael hysbysiad ysgrifenedig gan y cyngor yn rhoi gwybod i chi am ddyddiad y gwrandawiad llys. Mae’n bwysig eich bod yn bresennol gan ei fod yn gyfle i chi drafod y rheswm dros beidio â thalu gyda’r barnwr.
Tenantiaid Diogel
Bydd y cyngor yn gofyn am orchymyn adennill meddiant i’ch troi allan o’ch cartref. Fodd bynnag, gall y llys benderfynu gohirio neu atal y gorchymyn os ydych yn cadw at delerau'r gorchymyn, a byddwch yn cael aros yn eich cartref. Byddwch yn gorfod talu costau’r llys.
Tenantiaeth Ragarweiniol
Bydd y cyngor yn gofyn am orchymyn adennill meddiant i’ch troi allan o’ch cartref. Dyma orchymyn gorfodol (sefydlog), sy’n golygu y bydd y llys yn rhoi'r gorchymyn adennill meddiant yn llwyr.
Os gwneir y taliad llawn, yn cynnwys costau llys cyn gwrandawiad y llys, yna bydd gorchymyn y llys yn cael ei ddileu.
Troi allan
Tenantiaid Diogel
Os na fydd gorchymyn y llys yn cael ei gadw, bydd y cyngor yn ymgeisio am warant i’ch troi allan o’ch cartref. Yn dilyn troi allan, byddwch yn atebol am ôl-ddyledion rhent a chostau llys.
Tenantiaeth Ragarweiniol
Gan fod y gorchymyn adennill meddiant yn orchymyn gorfodol neu sefydlog, byddwch yn cael manylion y weithdrefn a’r diwrnod troi allan. Dylech gysylltu â’r tîm opsiynau tai am gyngor a chymorth:-
Ffôn: 01352 703777 neu’r Tîm Opsiynau Tai.
Os ydych angen unrhyw help a chymorth yn ystod y cyfnod hwn, cysylltwch â'ch swyddog incwm cyn gynted â phosibl i wneud trefniadau ac unrhyw gefnogaeth y gallwch fod ei hangen.