Alert Section

Budd-dal Tai


Beth yw'r rhain a phwy all eu hawlio?

Os ydych chi ar incwm isel ac yn ei chael hi’n anodd talu eich rhent i gyd neu ran ohono, gallai fod modd i chi gael Budd-dal Tai.  Pwy sy’n gymwys?

Gallwch chi gael Budd-dal Tai os ydych chi’n talu rhent ac os yw eich incwm a’ch cyfalaf (eich cynilion a’ch buddsoddiadau) islaw lefel benodol.

Byddwn yn edrych ar y canlynol wrth gyfrifo eich Budd-dal Tai:

  • Eich incwm chi ac incwm eich partner neu’ch partner sifil, gan gynnwys enillion, rhai budd-daliadau a chredydau treth, a phethau megis pensiynau galwedigaethol.
  • Eich cynilion chi a chynilion eich partner neu’ch partner sifil.
  • Eich amgylchiadau: er enghraifft, eich oedran, maint eich teulu, oedrannau aelodau eich teulu, p’un a ydych chi neu unrhyw aelod o’ch teulu’n anabl, a ph’un a allai unrhyw un sy’n byw gyda chi eich helpu i dalu’r rhent.

Os oes gennych hawl i gael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm, neu’r elfen ‘credyd gwarant’ sy’n perthyn i Gredyd Pensiwn, gallech chi gael yr help mwyaf posibl i dalu eich rhent.

Pwy sy’n anghymwys?

Fel rheol ni fydd modd i chi gael Budd-dal Tai:

  • Os oes gennych dros £16,000 o gynilion, oni bai eich bod yn 60 oed neu drosodd a’ch bod yn cael yr elfen ‘credyd gwarant’ sy’n perthyn i Gredyd Pensiwn.
  • Os ydych chi’n byw yng nghartref perthynas agos.
  • Os ydych chi’n fyfyriwr llawn-amser (oni bai eich bod yn anabl neu oni bai fod gennych blant).
  • Os ydych yn geisiwr lloches neu’n cael eich noddi i fod yn y DU.

Os ydych chi’n ddibriod (hefo dim plant) ac yn iau na 35 oed, bydd chi ond yn hawl budd-dal tai am gyfradd rhannu ystafell. Mae rhai eithriadau i'r rheol hon , am fwy o wybodaeth gweler yr adran Lwfans Tai Lleol isod.

Gallwch chi ddefnyddio ein cyfleuster cyfrifo budd-daliadau i weld a oes modd i chi gael unrhyw help, a chael amcangyfrif o’r swm y gallai fod gennych hawl i’w gael.

Beth os ydw i’n berchen ar fy nghartref fy hun?

Cael help i dalu’r llog ar eich morgais

Mae’n bosibl y gall perchnogion tai sy’n cael budd-daliadau arbennig gael help i dalu’r llog ar eu morgais, drwy gynllun o’r enw Cymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI).

Mae’n bosibl y cewch help os ydych yn berchennog tŷ ac yn cael hawlio:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth seiliedig ar incwm
  • Credyd Pensiwn

I gael gwybod rhagor am hyn, dilynwch y ddolen i wefan Gov.UK 

Sut i Hawlio

Gofynnir i chi lenwi un ffurflen hawlio a chewch eich asesu ar gyfer Budd-dâl Tai a lleihau'r dreth gyngorar yr un pryd.

Os ydych yn hawlio ar gyfer cyfeiriad yn Sir y Fflint, bydd angen i chi ddychwelyd y ffurflen atom, gydag unrhyw dystiolaeth i ategu’ch cais. Gan na ellir ôl-ddyddio budd-daliadau fel arfer, dylech hawlio cyn gynted ag sy’n bosibl. Gallwch ddefnyddio ein Cyfrifiannell Budd-daliadau i weld a ydych yn gymwys. Os oes gennych gyfalaf gwerth £16,000 neu fwy sylwch na fydd gennych hawl i gael budd-dâl oni bai’ch bod yn derbyn ‘Credyd Pensiwn Gwarantedig’.

Hawlio Ar-lein

Ffurflen Hawlio Ar-lein ar gyfer Budd-dâl Tai a Gostyngiad yn y Dreth Gyngor

Gwyddom y gall ffurflenni budd-daliadau fod yn eithaf hir a chymhleth, felly rydym wedi defnyddio technoleg ffurflenni ar-lein newydd i’ch galluogi i wneud cais ar-lein mor hawdd ag sy’n bosibl:

  • Gallwch lenwi’r ffurflen gyfan oddi ar lein. Gallwch barhau i lenwi’ch ffurflen hyd yn oed os ydych yn cael problemau â’ch cysylltiad rhyngrwyd. Nid oes raid i chi ei llenwi i gyd ar unwaith chwaith. Gallwch ei chadw ar eich cyfrifiadur a dod yn ôl ati hi yn nes ymlaen
  • Bydd y ffurflen yn eich helpu ac yn eich arwain drwyddi, gan sicrhau’ch bod ond yn llenwi’r rhannau sy’n berthnasol i’ch cais. Mae hyn yn golygu fod y ffurflen yn llawer symlach i’w llenwi
  • Mae’r ffurflen yn gwirio ei hun am wallau ac yn tynnu sylw at unrhyw beth yr ydych wedi’i fethu. Pan na fydd unrhyw wallau yn eich ffurflen bydd yn haws i ni ei phrosesu
  • Ar ôl ei chwblhau, gallwch anfon y ffurflen yn syth i’n gweinydd a gallwn ddechrau prosesu’ch cais ar unwaith
  • Os bydd angen i ni weld tystiolaeth gennych i ategu’ch cais, bydd y ffurflen yn rhoi rhestr benodol i chi o’r hyn y bydd angen i chi ei anfon
  • Er mwyn diogelu’ch preifatrwydd caiff y wybodaeth a roddwch ar y ffurflen ei hamgryptio.

Cais ar-lein

Dros y ffôn:

Ffoniwch y tîm budd-daliadau ar 01352 704848 9.00 – 16.00 Llun i Gwener

Wyneb yn wyneb yn:

Derbynfa Budd-daliadau, Mynedfa Rhif 2, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, 9.00 – 16.00 Llun i Gwener – Nid oes angen trefnu apwyntiad. 

Sut y caiff ei dalu

Os ydych chi’n byw mewn tŷ cyngor, byddwn yn talu unrhyw Fudd-dal yn syth i’ch cyfrif rhent.

Os nad ydych yn byw mewn tŷ cyngor, bydd y taliad yn cael ei wneud i chi, yn syth i’ch cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu.

Os nad oes gennych gyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu, mae’n rhaid i chi agor un. Yna gallwch drefnu i dalu’r rhent i’ch landlord yn awtomatig, drwy archeb sefydlog.

Chi sy’n gyfrifol am dalu’r rhent i’ch landlord. Os na fyddwch yn talu’r rhent, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi wynebu achos llys ac y cewch eich troi allan o’r eiddo.

Os ydych chi’n poeni am reoli’ch arian, cysylltwch â ni i weld a fedrwn ni’ch helpu. Weithiau, gallwn dalu’ch budd-daliadau’n syth i’ch landlord. Mae’n Polisi Diogelu yn rhoi mwy o wybodaeth am hyn.

Dilynwch y dolenni i lawrlwytho Cais i dalu landlord a nodiadau canllaw.

Ni fydd eich Budd-dal Tai yn effeithio ar unrhyw o’ch budd-daliadau eraill.

Newidiadau yn eich amgylchiadau

Beth ddylwn ei wneud os yw fy amgylchiadau'n newid?

Rhaid i chi ddweud wrthym ar unwaith am unrhyw newid yn eich amgylchiadau. Chi sy'n gyfrifol am roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau a allai effeithio ar faint o fudd-daliadau yr ydych yn eu derbyn.

Os methwch â dweud wrthym ar unwaith, mae'n bosibl y byddwn yn talu gormod o fudd-daliadau i chi ac y bydd gofyn i chi ad-dalu unrhyw ordaliad i ni. Hyd yn oed os ydych wedi dweud wrth asiantaeth arall, megis yr Adran Gwaith a Phensiynau neu'r Gwasanaeth Pensiynau, rhaid i chi roi gwybod i ni hefyd.

Os yw'r newid yn golygu bod gennych hawl i dderbyn mwy o fudd-daliadau ac os na fyddwch wedi ein hysbysu o hyn o fewn mis ar ôl y newid, mae'n bosibl y byddwch yn colli'r budd-dal.

Mae'n bosibl y cewch eich erlyn os rhowch wybodaeth anghywir i ni yn fwriadol neu os methwch â dweud wrthym am newid yn eich amgylchiadau er mwyn cael mwy o fudd-daliadau nag y mae gennych hawl i'w derbyn.

Pa fath o newidiadau ddylwn eich hysbysu ohonynt?

Dyma rai enghreifftiau o newidiadau i'ch amgylchiadau chi, eich partner neu aelod o'ch cartref y dylech ein hysbysu ohonynt:

  • Cynnydd neu ostyngiad mewn cyflogau, pensiynau neu fudd-daliadau
  • Unrhyw newid arall yn eich incwm
  • Dechrau neu rhoi'r gorau i weithio
  • Newid swyddi
  • Dechrau derbyn neu roi'r gorau i dderbyn Budd-dal y Wladwriaeth
  • Cynnydd neu ostyngiad mewn cynilon, oni bai eu bod yn aros yn is na £6,000 neu yn aros yn is na £10,000 am pensiynwyr (60+)
  • Os yw'ch cynilon yn mynd dros £16,000
  • Nifer y bobl sy'n byw gyda chi
  • Os oes unrhyw un o'ch plant yn gadael yr ysgol
  • Os ydych yn rhoi'r gorau i dderbyn Budd-dal Plant ar gyfer plentyn
  • Symud o'ch cartref (hyd yn oed os ydych yn symud i fflat neu ystafell arall yn yr un cyfeiriad)
  • Genedigaeth baban
  • Mynd i'r ysbyty neu gartref preswyl / nyrsio
  • Newid yng nghyfanswm y rhent y mae'ch landlord yn ei godi arnoch

Sylwch;

Nid yw hon yn rhestr lawn ac os ydych yn ansicr p'un a fydd newid yn eich amgylchiadau yn effeithio ar eich budd-dal, cysylltwch â ni am gyngor pellach.

Cofiwch - os oes gennych unrhyw amheuaeth, rhowch wybod i ni!

Sut allaf roi gwybod am newid?

Cysylltwch â ni ar unwaith i drefnu apwyntiad i chi gael galwad ffôn dilysu. Mae galwad ffôn dilysu yn gynt ac yn haws i chi gan na fydd raid i chi, o bosibl, ddangos tystiolaeth, ac mae hynny’n golygu y gallwn brosesu’ch cais yn gynt.

Os yw’n well gennych beidio â chael galwad fôn, gallwch Lawrlwythwch ffurflen newidiadau

a'i phostio i:

Tîm Budd-daliadau, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug. CH7 6NA

Os ydych yn lawrlwytho ffurflen newidiadau cofiwch:

  • Roi manylion llawn am y newid i ni
  • Nodi'r dyddiad y digwyddodd y newid
  • Darparu tystiolaeth, e.e. slipiau cyflog, llythyr dyfarnu budd-dal ac ati.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl i ni gael gwybod am y newid byddwn yn rhoi gwybod i chi p'un a oes angen ffurflen gais neu dystiolaeth arall arnom.

Os ydych wedi rhoi popeth sydd ei angen arnom i ni, byddwn yn ailgyfrifo'r budd-dal ac yn eich hysbysu o'ch dyfarniad newydd.

Taliadau Tai Disgresiynol

Mae Taliadau Tai Disgresiynol (DHPs) yn daliadau y gall y Cyngor eu gwneud i bobl sy'n derbyn Budd-dal Tai ac Credyd Cynhwysol (Elfen Tai), ond a allai fod yn parhau i fod mewn angen ariannol pellach gyda'u costau tai.

Mae'r arian a ddefnyddir ar gyfer Taliadau Tai Disgresiynol yn cael ei ddarparu gan y Llywodraeth bob blwyddyn, ond mae'n swm cyfyngedig ac mae'n rhaid i'r Cyngor benderfynu sut orau i ddyfarnu'r arian. Er mwyn gwneud taliad, mae'r Cyngor yn ceisio dilyn yr amcanion canlynol;

  • Annog a helpu pobl i barhau mewn gwaith
  • Atal digartrefedd a chynorthwyo pobl i gadw tenantiaethau cynaliadwy
  • Helpu pobl sy'n ceisio helpu eu hunain
  • Helpu i gadw teuluoedd gyda'i gilydd
  • Cefnogi pobl agored i niwed yn y gymuned
  • Helpu pobl drwy gyfnodau lle maent dan straen ac yn fregus
  • Helpu i liniaru tlodi
  • Cynorthwyo pobl sydd dan anfantais arbennig oherwydd y Diwygiadau Lles

Er mwyn gwneud penderfyniad bydd y Cyngor yn ystyried y pwyntiau canlynol;

  • Y diffyg rhwng Budd-dal Tai a rent person
  • Y camau a gymerwyd gan berson i leihau eu rhwymedigaeth rhent
  • Y camau a gymerwyd gan y person i ddod o hyd i lety amgen rhatach
  • Rhesymau pam na all person symud i lety amgen rhatach
  • Y camau a gymerwyd gan berson i gynyddu eu hincwm
  • Amgylchiadau ariannol y person a'i deulu, ond ni fydd Lwfans Byw i'r Anabl (Elfen Symudedd) yn cael ei ystyried fel incwm
  • Unrhyw amgylchiadau meddygol perthnasol y person a'i deulu
  • Unrhyw amgylchiadau y gellid eu hystyried fel rhai eithriadol
  • Lefel y cyllid sydd ar gael i Gyngor Sir y Fflint
  • Canlyniadau peidio â dyfarnu Taliad Tai Disgresiynol

Polisi Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn

Os ydych yn derbyn Budd-dal Tai ac yn credu bod angen Taliad Tai Disgresiynol arnoch yna cysylltwch â’r Gwasanaeth Budd-daliadau ar 01352 704848, ebost benefits@flintshire.gov.uk, neu galwch heibio ein adran Gwasanaethau Cwsmeriaid yn Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug

Prydau Ysgol Am Ddim (eFSM) a Grant Hanfodion Ysgol

Beth yw’r Polisi Prydau Ysgol Am Ddim (eFSM)?

Bydd Prydau Ysgol Am Ddim (eFSM) a Grant Hanfodion Ysgol yn cael eu darparu i blant y mae eu rhieni yn derbyn:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Cefnogaeth dan ran VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Credyd Treth Plant, ar yr amod nad oes ganddynt hawl i Gredyd Treth Gwaith a bod eu hincwm yn llai nag £16,190
  • Elfen Warantedig Credyd Pensiwn y Wladwriaeth
  • Taliad Parhad Credyd Treth Gwaith – y taliad y mae modd ei dderbyn am bedair wythnos ar ôl peidio â bod yn gymwys i dderbyn Credyd Treth Gwaith neu Gredyd Cynhwysol.
  • Credyd Cynhwysol

Pam bod gwneud cais yn bwysig?

Os ydych chi’n gymwys i dderbyn Prydau Ysgol Am Ddim (eFSM) a Grant Hanfodion Ysgol mae’n bwysig iawn i ysgol eich plentyn eich bod chi’n gwneud cais. Mae’r ysgol yn derbyn cyllid ar gyfer plant sy’n derbyn Prydau Ysgol Am Ddim (eFSM) a Grant Hanfodion Ysgol - cyllid ar gyfer darparu rhaglenni cefnogi wedi eu targedu a phrynu offer ac adnoddau ac ati.

Os yw’n well gan eich plentyn gael pecyn bwyd neu wneud trefniadau cinio eraill, mae’n dal yn bwysig eich bod chi’n cofrestru er mwyn i’ch ysgol hawlio’r cyllid.  

Sut ydw i’n gwneud cais?

Rhaid i chi lenwi ffurflen ar-lein i wneud cais a, brdau ysgol am ddim.

Gwnewch gais yma

Mae’n rhaid i chi lenwi ffurflen ar-lein i wneud cais am brydau ysgol am ddim. Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn anfonwch e-bost at:

FreeSchoolMeals@flintshire.gov.uk

Os yw’ch plentyn yn symud i’r dosbarth derbyn bydd arnoch chi angen llenwi ffurflen gais ar-lein hyd yn oed os oes gennych chi blant eraill sy’n derbyn Prydau Ysgol Am Ddim (eFSM) a Grant Hanfodion Ysgol.

Grant Hanfodion Ysgol

 I fod yn gymwys i gael grantiau gwisg ysgol ar gyfer eich plant derbynfa, blwyddyn 3, blwyddyn 7 a blwyddyn 10; rhaid i rieni fod un derbyn y rhain:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Cefnogaeth dan ran VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Credyd Treth Plant, ar yr amod nad oes ganddynt hawl i Gredyd Treth Gwaith a bod eu hincwm yn llai nag £16,190
  • Elfen Warantedig Credyd Pensiwn y Wladwriaeth
  • Taliad Parhad Credyd Treth Gwaith – y taliad y mae modd ei dderbyn am bedair wythnos ar ôl peidio â bod yn gymwys i dderbyn Credyd Treth Gwaith neu Gredyd Cynhwysol.
  • Credyd Cynhwysol

Sut ydw i’n gwneud cais?

Rhaid i chi lenwi ffurflen ar-lein i wneud cais a, brdau ysgol am ddim.

Gwnewch gais yma

Mae’n rhaid i chi lenwi ffurflen ar-lein i wneud cais am brydau ysgol am ddim. Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn anfonwch e-bost at:

benefits@flintshire.gov.uk

Os yw’ch plentyn yn symud i’r dosbarth derbyn bydd arnoch chi angen llenwi ffurflen gais ar-lein hyd yn oed os oes gennych chi blant eraill sy’n derbyn Prydau Ysgol Am Ddim (eFSM) a Grant Hanfodion Ysgol.

Y Cap Budd-dal Tai

Mae newid wedi bod yn ddiweddar yng nghyfanswm y budd-daliadau y gall aelwyd o oedran gweithio eu derbyn.   

O 7 Tachwedd 2016 ymlaen, mae'r Uchafswm Budd-daliadau fel a ganlyn: 

  • £384.62 yr wythnos (£20,000 y flwyddyn) ar gyfer teulu neu gwpl
  • £384.62 yr wythnos (£20,000 y flwyddyn) ar gyfer person sengl â phlant sy’n byw gydag ef/hi
  • £257.69 yr wythnos (£13,400 y flwyddyn) ar gyfer person sengl. 

Angen help?

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithio gyda’r Ganolfan Byd Gwaith i gysylltu â phob aelwyd y gallai’r newidiadau hyn effeithio arnynt. 

Os ydych yn meddwl y bydd yr Uchafswm Budd-Daliadau yn effeithio arnoch chi, efallai y bydd gennych hawl i wneud cais am Daliadau Tai yn Ôl Disgresiwn i'ch cynorthwyo.  Os hoffech wybodaeth neu gyngor pellach, cysylltwch â ni cyn gynted ag sy’n bosibl naill ai drwy e-bost benefits@flintshire.gov.uk neu ffoniwch 01352 704848 neu galwch heibio i un o Swyddfeydd Cysylltu'r Cyngor 

Lwfans Tai Lleol

Os ydych chi’n rhentu eiddo neu ystafell oddi wrth landlord preifat ac os ydych chi ar incwm isel, gallai fod modd i chi hawlio a chael Lwfans Tai Lleol.

Beth yw Lwfans Tai Lleol?

Ffordd newydd o gyfrifo Budd-dal Tai ar gyfer pobl sy’n rhentu llety oddi wrth landlord preifat yw Lwfans Tai Lleol. Cafodd y Lwfans ei gyflwyno ym mis Ebrill 2008. Mae’n berthnasol i geisiadau newydd am fudd-dal, a chwsmeriaid sydd eisoes yn cael Budd-dal Tai ac sy’n newid eu cyfeiriad neu’n symud i lety a gaiff ei rentu’n breifat.

Os ydych chi’n byw mewn llety sy’n eiddo i’r Cyngor neu landlord cymdeithasol arall megis cymdeithas dai, ni fydd Lwfans Tai Lleol yn effeithio arnoch chi oni bai eich bod yn symud i lety a gaiff ei rentu oddi wrth landlord preifat.

Sut mae Lwfans Tai Lleol yn gweithio?

Caiff Lwfans Tai Lleol ei seilio ar yr ardal y mae’r cwsmer yn rhentu ynddi, nifer y bobl sy’n byw yn yr eiddo, a maint yr aelwyd. Mae Lwfans Tai Lleol yn ffordd decach o gyfrifo Budd-dal Tai, oherwydd mae’n sicrhau bod tenantiaid mewn amgylchiadau tebyg sy’n byw yn yr un ardal yn cael yr un faint o help i dalu eu rhent.

Sut mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar y bobl hynny sydd eisoes yn cael Budd-dal Tai?

Os ydych chi eisoes yn cael Budd-dal Tai, ni fydd y newidiadau’n effeithio arnoch oni bai eich bod yn newid eich cyfeiriad ac yn symud i lety a gaiff ei rentu oddi wrth landlord preifat. Byddwch chi’n cael Lwfans Tai Lleol yn lle Budd-dal Tai os bydd hynny’n digwydd.

Sut caiff Lwfans Tai Lleol ei gyfrifo?

Mae’r Gwasanaeth Rhenti’n cyfrifo cyfraddau Lwfans Tai Lleol ar gyfer pob ardal unigol, neu ‘Ardaloedd Marchnad Rhenti Eang’ fel y’u gelwir. Mae’r cyfraddau’n amrywio ar gyfer pob ardal, ac maent yn dibynnu hefyd ar nifer yr ystafelloedd gwely sydd yn yr eiddo. Caiff y cyfraddau eu hadolygu’n fisol.

I gyfrifo’r cyfraddau Lwfans Tai Lleol uchaf, bydd angen i chi wybod:

1) Faint o ystafelloedd gwely rydych yn gymwys i’w cael

2) Yr ‘Ardal Marchnad Rhenti Eang’ y byddwch yn rhentu ynddi.

Faint o ystafelloedd gwely rwyf yn gymwys i’w cael?

Nid nifer yr ystafelloedd gwely yn yr eiddo sydd dan sylw, ond nifer yr ystafelloedd gwely sydd eu hangen mewn gwirionedd ar eich aelwyd. Dilynwch y ddolen gyswllt i ddarganfod faint o ystafelloedd gwely rydych yn gymwys i’w cael -

Cyfrifiannell Lwfans Tai Lleol yn ôl ystafelloedd gwely (ffenestr newydd)

Pa Ardal Marchnad Rhenti Eang byddaf yn rhentu ynddi?

Gallwch chi ddarganfod pa Ardal Marchnad Rhenti Eang rydych yn rhentu ynddi trwy ddefnyddio’r cyfleuster chwilio’n ôl Côd Post, gan ddefnyddio’r ddolen gyswllt sydd ynghlwm. Wrth ddewis nifer yr ystafelloedd gwely rydych yn gymwys i’w cael, gallwch chi hefyd weld y gyfradd Lwfans Tai Lleol uchaf sy’n berthnasol.

Dod o hyd i gyfraddau Lwfans Tai Lleol yn ôl cod post (ffenestr newydd)

Faint o Lwfans Tai Lleol byddaf i’n ei gael mewn gwirionedd?

Y cyfraddau Lwfans Tai Lleol yw’r budd-dal uchaf y gallwch chi ei gael, ni waeth faint yw’r rhent mewn gwirionedd. Cofiwch fod Lwfans Tai Lleol yn fudd-dal a gaiff ei seilio ar brawf modd ac y gallech chi gael swm sy’n llai na’r lwfans uchaf posibl. Bydd hynny’n dibynnu ar eich incwm ac unrhyw gynilion sydd gennych.

I gael amcangyfrif o’r swm y gallai fod gennych hawl i’w gael, gallwch chi ddefnyddio ein cyfleuster cyfrifo budd-daliadau neu gallwch gysylltu â ni.

Beth os yw fy rhent yn uwch neu’n is na’r lwfans rwyf yn ei gael?

Os yw’r rhent rydych wedi cytuno arno â’ch landlord yn is na’r lwfans rydych yn ei gael, bydd modd i chi gadw’r gwahaniaeth hyd at uchafswm o £15 yr wythnos. Fel rheol ni fydd hynny’n cael ei ystyried wrth benderfynu ar fudd-daliadau eraill.

Nodwch y bydd y newidiadau canlynol yn dod i rym ar 5 Ebrill 2010:

  1. Ni fydd gan gwsmeriaid sy’n cyflwyno ceisiadau newydd, neu sy’n newid eu cyfeiriad ar 5 Ebrill 2010 neu wedi hynny, hawl i gadw unrhyw Fudd-dal Tai sy’n weddill ar ôl talu eu rhent.
  2. Bydd cwsmeriaid sydd eisoes yn cadw hyd at £15 yr wythnos o Fudd-dal ar ôl talu eu rhent yn colli’r hawl i wneud hynny ar ben-blwydd eu cais, ar ôl 5 Ebrill 2010.

Os yw’r rhent yn uwch na’r lwfans rydych yn ei gael, bydd yn rhaid i chi dalu’r gwahaniaeth neu chwilio am lety arall.

Sut i hawlio Lwfans Tai Lleol?

Gallwch chi hawlio Lwfans Tai Lleol cyn gynted ag y bydd gennych gytundeb rhent â’ch landlord, a gallech chi golli budd-dal os byddwch yn oedi. Bydd angen i chi lenwi ein ffurflen hawlio ar gyfer hawlio Budd-dal Tai a Budd-dal Treth y Cyngor. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am sut i hawlio Lwfans Tai Lleol a chael ffurflen hawlio.

Sut caiff y Lwfans Tai Lleol ei dalu?

Fel rheol bydd y Lwfans Tai Lleol yn cael ei dalu i chi, a bydd yn mynd yn syth i’ch cyfrif banc neu’ch cyfrif cymdeithas adeiladu. Ni chaiff y Lwfans ei dalu fel rheol i’ch landlord.

Os nad oes gennych gyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu, bydd angen i chi agor un. Bydd hynny’n eich galluogi i drefnu bod y rhent yn cael ei dalu’n awtomatig i’ch landlord drwy archeb reolaidd. Chi fydd yn gyfrifol am dalu’r rhent i’ch landlord. Os na fyddwch chi’n talu’r rhent, gellid dwyn achos llys yn eich erbyn a gallech chi gael eich taflu allan o’r eiddo.

Os ydych chi’n poeni am reoli eich arian, gofynnwch a allwn ni eich helpu. Mewn rhai achosion efallai y bydd modd i ni dalu eich budd-dal i’ch landlord. Mae ein Polisi Diogelu yn rhoi mwy o wybodaeth am hynny.

Dilynwch y dolenni cyswllt hyn i lawrlwytho Cais i dalu Landlorl a nodiadau arweiniad.

Ymhle caiff y cyfraddau eu cyhoeddi?

Caiff y cyfraddau Lwfans Tai Lleol presennol ar gyfer yr Ardaloedd Marchnad Rhenti Eang yn Sir y Fflint eu cyhoeddi yma "Gwybodaeth Ddefnyddio"

Newid i amgylchiadau

Dylech chi adael i ni wybod yn syth os ydych chi’n cael Budd-dal Tai neu Lwfans Tai Lleol ac os ydych chi’n symud i gyfeiriad newydd neu os yw eich amgylchiadau eraill yn newid. Efallai y bydd angen i chi gyflwyno cais newydd am Fudd-dal Tai neu Lwfans Tai Lleol.

Gallwch chi ddefnyddio’r ddolen gyswllt hon i gael mwy o wybodaeth am newid i amgylchiadau a chael ffurflen i’w lawrlwytho.

Mwy o wybodaeth …

Gallwch chi ddilyn y ddolen gyswllt hon i wefan ‘LHA Direct’ (ffenestr newydd) neu gallwch chi gysylltu â ni i gael mwy o wybodaeth.

Cyfyngiadau Rhent

O 1 Ebrill 2013, bydd Budd-dal Tai yn cael ei leihau i bobl o oed gweithio y bernir bod ganddynt ystafell wely "sbâr" yn eu llety Cyngor a Chymdeithas Tai. Caiff hyn ei bennu o dan reolau newydd.

O dan y rheolau newydd hyn un ystafell wely a ganiateir ar gyfer pob un o'r canlynol:

  • Oedolyn sengl neu gwpl, a
  • Phlentyn, ond gall dau blentyn rannu ystafell wely hyd at 10 oed os ydynt o ryw gwahanol, neu 16 os ydynt o'r un rhyw, a
  • Mae ystafell hefyd yn cael ei chaniatáu i hawliwr neu bartner sy'n gofyn am ofal dros nos gan ofalwr

Os oes gan denantiaid un ystafell wely sbâr yn y tŷ o dan y rheolau hyn, yna bydd y rhent llawn a ddefnyddir ar gyfer cyfrifo eu Budd-dal Tai yn cael ei leihau 14%. Os oes dau neu fwy o ystafelloedd gwely sbâr, yna bydd y rhent llawn ar gyfer Budd-dal Tai yn cael ei leihau 25%.

Caiff pobl sydd wedi cael profedigaeth yn eu cartref eu diogelu rhag y lleihad am 12 mis.

Gweld eich cais ar-lein

I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, mae angen i chi gofrestru drwy lenwi a chyflwyno’r ffurflen gofrestru ar-lein

Ar ôl i chi gofrestru, byddwn yn anfon enw defnyddiwr a chyfrinair ar hap i’r cyfeiriad y byddwn yn ei ddefnyddio i ysgrifennu atoch fel arfer. Pan gewch chi’r rhain, dylech fewngofnodi i ‘Fy Nghyfrifon i’ a newid y ddau gan ddefnyddio geiriau sy’n haws i chi eu cofio. Rydym yn awgrymu’n gryf eich bod yn gwneud hyn i ddiogelu’ch manylion.

Cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrifion

Ar gyfer beth alla’ i ddefnyddio’r system?

Ar ôl i chi gofrestru, ac ar ôl i chi gael eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair, byddwch yn gallu defnyddio’r gwasanaeth hwn ar gyfer y canlynol.

Os ydych yn cael Budd-dal Tai, gallwch:

  • Weld manylion eich cais am fudd-dal
  • Gweld pryd mae’ch taliad nesaf yn ddyledus
  • Gweld faint rydych wedi’i dalu a phryd
  • Dweud wrthym am unrhyw newidiadau
  • Ad-dalu unrhyw Fudd-dal Tai a gafodd ei ordalu i chi

Os ydych yn landlord sydd â thenant sy’n cael Budd-dal Tai:

Gallwch ddefnyddio’r system i weld faint o Fudd-dal Tai sy’n cael ei dalu’n syth i chi.

  • Gweld pryd mae taliad yn ddyledus
  • Gweld y taliadau sydd wedi’u gwneud
  • Gweud wrthym am unrhyw newidiadau

Cwestiynau cyffredin

Ydi’r system yn ddiogel?

Ydi, rydym wedi ymrwymo i ddiogelu’ch preifatrwydd ar-lein. I sicrhau na all neb ddarllen y wybodaeth y byddwch yn ei hanfon atom, rydym wedi cymryd y camau a ganlyn:

Technoleg amgryptio

Mae ein meddalwedd gweinydd diogel yn amgryptio’ch holl wybodaeth bersonol. Mae amgryptio’n golygu cymryd y data gwreiddiol (e.e. eich enw defnyddiwr, rhif eich cyfrif a manylion eich cyfrif) ac yn eu troi’n data mewn cod fel nad oes modd ei adnabod wrth iddo deithio drwy’r rhyngrwyd.Pan fyddwch yn agor tudalennau diogel ein gwefan, fe welwch lun clo yn eich ffenestr pori. Gallwch glicio ar y clo hwn i sicrhau mai at Gyngor Sir y Fflint rydych yn anfon gwybodaeth.

Diogelu data

Rydym yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 1998 sy’n sicrhau y byddwn yn diogelu ac yn gofalu am eich gwybodaeth bersonol.Gallwch ddatgelu gwybodaeth yn gyfreithlon i asiantaethau eraill yn y sector cyhoeddus i atal neu i gael hyd i dwyll budd-daliadau, troseddau eraill ac i ddiogelu arian cyhoeddus.

Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn defnyddio gwybodaeth amdanoch chi i’ch helpu i fanteisio ar ein gwasanaethau, i ddarparu gwasanaethau mwy effeithlon neu i’n helpu i adennill arian sy’n ddyledus i ni.

Dilynwch y ddolen hon i gael gwybodaeth am y Ddeddf Diogelu Data

Pam mae angen enw defnyddiwr a chyfrinair arna’ i?

Mae angen enw defnyddiwr a chyfrinair arnoch chi i wneud yn siŵr bod eich cyfrif ar-lein yn ddiogel. Mae ‘Fy Nghyfrifon i’ yn cyfuno cyfeirnod a chyfrinair ar wahân, a byddwch yn gallu newid y ddau.

Beth os byddaf yn anghofio fy nghyfrinair?

Dilynwch y ddolen o’r dudalen mewngofnodi a byddwn yn anfon neges i’ch cyfeiriad i’ch atgoffa.

A all sesiwn ddod i ben ar ôl cyfnod penodol?

Am resymau diogelwch, daw pob sesiwn ‘Fy Nghyfrifon I’ i ben os bydd y tudalennau’n segur am 20 munud. Bydd angen i chi roi’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair eto i fynd yn ôl i’ch cyfrif.

Pryd alla’ i ddefnyddio’r system?

Mae’r system ar gael 24 awr y dydd 7 diwrnod yr wythnos, ac eithrio am gyfnodau byr pan fydd angen i ni gynnal a chadw’r system. Fel arfer, bydd hyn yn digwydd rhwng 22.30 a 22.35bob dydd. Bryd hynny, cewch neges yn dweud nad yw’n bosibl i chi ddefnyddio’r system.

Twyll Budd-daliadau

Mae Cyngor Sir y Fflint eisiau i bawb sydd â hawl i hawlio budd-daliadau wneud cais amdanynt, ond atal y rhai sy'n dwyn oddi wrth y system. Mae twyll yn cael effaith ar faint o Dreth y Cyngor a threth incwm yr ydych yn ei dalu a faint o adnoddau sydd ar gael i'r gymuned.

  • Mae budd-daliadau ar gyfer yr anghenus - nid y barus.
  • Mae twyll budd-daliadau yn ddwyn gan bawb - y trethdalwyr a’r rhai nad ydynt yn talu treth. Mae'n ddwyn gan y rhai sydd â hawl i fudd-daliadau.
  • Nid problem y Llywodraeth yn unig yw twyll budd-daliadau - mae'n broblem i bawb.

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i warchod arian cyhoeddus drwy weithredu yn erbyn twyll budd-daliadau ac ni fydd unrhyw un sy'n twyllo’r system fudd-daliadau yn cael gwneud hyn heb gosb.

Beth yw Twyll Budd-daliadau Twyll budd-daliadau yw pan fydd pobl yn hawlio budd-dal gan gynnwys Budd-dal Tai a Chymorth Treth y Cyngor nad oes ganddynt hawl iddynt drwy roi gwybodaeth ffug neu beidio dweud wrthym pan fydd eu hamgylchiadau'n newid.

Mae pobl sy'n hawlio budd-dal yn fwriadol pan nad oes ganddynt hawl i’w cael yn cyflawni trosedd.

Bydd unrhyw berson sy'n gwneud datganiad ffug neu'n cynhyrchu dogfen ffug er mwyn cael budd-dal yn cyflawni trosedd sy'n dod gyda chosb. Bydd unrhyw berson sy'n methu â hysbysu'r Cyngor o newid yn eu hamgylchiadau er mwyn parhau i dderbyn budd-dal yn cyflawni trosedd sy’n dod gyda chosb.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn awyddus i sicrhau bod pobl sydd â hawl i fudd-daliadau yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arnynt.

Ond, rydym yn ystyried Twyll Budd-daliadau yn drosedd ddifrifol, nid yn unig yn erbyn y Cyngor a'r Llywodraeth, ond hefyd yn erbyn y gymdeithas yn gyffredinol, ac am y rheswm hwn rydym wedi ymrwymo o ddifrif i fynd i'r afael â'r mater o dwyll Budd-daliadau mewn modd proffesiynol, gan weithio i ganllawiau a ddeddfwriaeth a osodwyd gan y Llywodraeth

Mae arian a gollwyd i dwyllwyr budd-daliadau yn arian sydd i fod i gael ei wario arnoch chi ac ar y gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor.

Mae twyll budd-dâl yn drosedd sy'n cynnwys ceisiadau ffug am Fudd-daliadau fel Budd-dal Tai a Chymhorthdal Incwm. Mae'n rhan fawr o droseddu cyfundrefnol heddiw.

Sut i roi gwybod am amheuon o dwyll Os ydych yn amau bod rhywun yn hawlio budd-dal trwy dwyll, rhowch wybod i ni. Mae'r holl wybodaeth yn cael ei chadw'n gwbl gyfrinachol ac nid oes rhaid i chi roi eich enw a'ch cyfeiriad os nad ydych eisiau DWP.

Nid oes rhaid i chi roi eich enw a bydd yr holl fanylion cyswllt yn cael eu trin yn gwbl gyfrinachol.

Pa wybodaeth sydd angen i chi ei rhoi? Mae'r rhestr isod yn dangos y math o wybodaeth rydym ei hangen er mwyn cychwyn ymchwiliad. Peidiwch â digalonni oherwydd nad ydych yn gwybod popeth ar y rhestr, ond rhowch cymaint o wybodaeth ag y gallwch.

Mae'r rhestr isod yn dangos y math o wybodaeth rydym ei hangen er mwyn cychwyn ymchwiliad. Peidiwch â digalonni oherwydd nad ydych yn gwybod popeth ar y rhestr, ond rhowch cymaint o wybodaeth ag y gallwch.
  • Enw(au) a chyfeiriad(au) yr unigolyn/unigolion dan sylw.
  • Y math o dwyll budd-dal sy’n cael ei gyflawni.
  • Disgrifiad(au) o’r bobl dan sylw.
  • Cerbydau.

Gwybodaeth Ychwanegol...

Os yw rhywun yn gweithio ac yn hawlio:

  • Enw a chyfeiriad y cyflogwr.
  • Ers pryd mae’r unigolyn wedi gweithio yno?
  • Math o waith a wneir? - Sawl awr? - Lefel enillion?
  • Yr amser y mae'r unigolyn yn ei weithio (cychwyn a gorffen).
  • A yw’n gwisgo dillad gwaith - ddisgrifiad.
  • A yw’n defnyddio cerbyd cwmni?

Os nad yw rhywun yn datgan bod partner yn preswylio:

  • Enw a disgrifiad o'r partner.
  • Oed yn fras.
  • Ers pryd mae’r partner yn preswylio?
  • Os yw’r partner yn gweithio, enw llawn a chyfeiriad eu cyflogwr, a’r amseroedd y maent yn gweithio. Unrhyw ddillad gwaith sy’n cael eu gwisgo / a oes ganddynt gerbyd cwmni?
  • Os yw'r partner hefyd yn hawlio budd-daliadau, a ydych yn gwybod o ba gyfeiriad a pha fudd-daliadau yn cael eu hawlio?

Os nad yw rhywun yn byw mewn cyfeiriad:

  • Ers pryd mae'r person ddim yn preswylio yno?
  • Ym mha gyfeiriad y mae'r person yn byw?
  • Enw'r deiliaid tŷ yno.
  • A yw’r holl eiddo wedi’i symud o'r cyfeiriad?
  • A oes unrhyw un yn ymweld i nôl post yn y cyfeiriad? - Pryd a pha mor aml?

Os nad yw rhywun yn datgan cyfalaf eraill sydd ganddo:

  • Math o gyfalaf? Cyfrifon banc/tŷ/ymddiriedolaeth uned/stoc/cyfranddaliadau/bondiau premiwm ac ati
  • Pa fanc(iau)?
  • Cyfeiriad yr eiddo y mae’n berchen arno/arnynt?
  • Os yw’n berchen ar eiddo arall, a yw'n ei rentu allan? - i bwy? - Ers pryd y mae wedi cael ei osod ar rent? - Enwau unrhyw denant arall? - Swm y rhent a godir?
  • Ers pryd y maent yn berchen ar yr eiddo?

Os nad yw rhywun yn datgan incwm arall:

  • Pa fath o incwm ydyw?
  • Faint? - Ers pryd y maent wedi bod yn ei gael? - Gan bwy?

Os nad yw rhywun yn datgan bod oedolion eraill (nad yw’n bartner iddynt) yn byw gyda hwy:

  • Enw(au) a disgrifiadau.
  • Ers pryd y maent wedi bod yn byw yno?
  • Ydych chi'n gwybod eu cyfeiriad blaenorol?
  • Gweithio neu'n hawlio budd-daliadau? - Manylion llawn y cyflogwr.
  • Os yn gweithio, yr amserau y maent yn gweithio?
  • A ydynt yn talu rhent i aros yno?

    Landlordiaid Weithiau gall landlordiaid fod ynghlwm â thwyll. Os ydych yn gwybod neu'n amau bod landlord ynghlwm â gweithgarwch twyllodrus, rhowch gymaint o fanylion ag y gallwch yn ymwneud â'r eiddo, y tenantiaid a'r amgylchiadau dan sylw.

    Cyflogwyr Weithiau, gall gyflogwyr gydgynllwynio gyda gweithwyr i’w helpu i dwyllo’r system fudd-daliadau. Rhowch cymaint o dystiolaeth â phosibl i ni os ydych yn ymwybodol bod hyn yn digwydd. Enw'r cyflogwr, cyfeiriad, eiddo a ddefnyddir, cerbydau a ddefnyddir, cymaint o enwau gweithwyr ag y gallwch, cyflenwyr neu gwsmeriaid y mae gweithwyr yn delio â nhw yn rheolaidd.

    Cerbydau Darparwch wneuthuriad (e.e. Ford), model (e.e. Mondeo), lliw a rhif cofrestru’r cerbyd(au) sy’n cael eu defnyddio. Os oes logos, marciau neu fanylion busnes ar y cerbyd, nodwch y rhain hefyd.

    Gall fod yn Dreisgar Cadarnhewch a yw unrhyw unigolyn sydd ynghlwm â'r dwyll yn dreisgar. Os ydynt, sut ydych chi’n gwybod hyn? Cofiwch, y mwyaf o fanylion y gallwch eu darparu am y twyll honedig, y mwyaf tebygol ydyw y byddwn yn gallu cychwyn ymchwiliad.  

Adborth Cwsmeriaid

Rydym yn gwerthfawrogi’ch adborth am y gwasanaeth yr ydych wedi’i dderbyn. Llenwch ein Holiadur Gwasanaethau Cwsmeriaid drwy glicio ar y ddolen isod.

Y Gwasanaeth Budd-Daliadau - Adborth Cwsmeriaid

Gwybodaeth Gyswllt

Mae'n bosibl y bydd angen i chi gysylltu â ni am nifer o resymau - i ddweud wrthym am newid yn eich amgylchiadau neu i gael cyngor am wneud cais newydd i hawlio efallai?

Gallwch gysylltu â ni yn y ffyrdd canlynol:

Trwy e-bost

Anfon ymholiad (bydd hyn yn agor e-ffurflen)

Trwy ffonio

Gallwch ein ffonio rhwng 8.30am - 5.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Ein rhif ffôn yw 01352 704848

Cais i'r adran budd-daliadau eich ffonio'n ôl

Trwy'r post

Y Tïm Budd-daliadau

Cyngor Sir y Fflint

Neuadd y Sir

Yr Wyddgrug

CH7 6NA

Yn bersonol:

Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NA

Ewch i'r dderbynfa gwsmeriaid ym mynedfa 2, Neuadd y Sir.

Rydym ar agor rhwng 9.00am a 4.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener ac nid oes angen trefnu apwyntiad.