Casgliad Clytiau a Chynnyrch Hylendid Amsugnol
Mae gwasanaeth tanysgrifio am ddim ar gael ar gyfer casglu clytiau a chynnyrch hylendid amsugnol o’ch cartref, sy’n cynnwys bocs oren a bagiau pinc ar gyfer storio a chasglu’r gwastraff.
Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer rhieni, gofalwyr maeth neu rai sy’n gofalu am blant yn rheolaidd ond nad ydynt yn byw gyda nhw (mae’n bosibl y gofynnir i ofalwyr maeth ddarparu tystiolaeth).
Caiff clytiau a chynnyrch hylendid amsugnol eu casglu bob wythnos. Gallwn gasglu’r bocs oren o’r tu mewn i ffin eich eiddo, ond mae’n rhaid i’r criw casglu allu ei weld.
Gallwn gasglu:
- cynnyrch gwastraff anymataliaeth megis leinars
- padiau amsugnol ar gyfer gwelyau a chadeiriau
- clytiau
- weips a hancesi papur
Am resymau iechyd a diogelwch, caiff bagiau pinc eu darparu i roi’r gwastraff ynddynt. Dylid rhoi’r bagiau pinc hyn yn y bocs oren.
Nid ydym yn casglu cynnyrch hylendid menywod, fel padiau mislif, leinars a thamponau fel rhan o’r gwasanaeth hwn. Dylech lapio’r rhain a’u rhoi yn eich bin du.
Gwneud cais am gasgliad clytiau / cynnyrch hylendid amsugnol
Gwneud cais ar-lein
Os ydych chi wedi dweud wrthym ni bod angen bocs oren arnoch chi, byddwn yn dod ag un i chi. Byddwn yn gofyn i chi roi enw/rhif eich tŷ ar y bocs. Fe allwch wneud cais am focs arall drwy ddefnyddio’r ffurflen gais sy’n e-ffurflen os nad yw un bocs yn ddigonol ar gyfer anghenion eich teulu.
Pan fydd angen i chi gael mwy o fagiau pinc, ewch i’ch Canolfan leol Sir y Fflint yn Cysylltu, neu siaradwch â’r criw ar ddiwrnod casglu.
Bydd eich gwasanaeth casglu yn para 2 flynedd o’r diwrnod cofrestru. Byddwn yn ysgrifennu atoch chi pan fydd eich casgliad gwastraff clinigol ar fin dod i ben. Os bydd angen i chi barhau â’r gwasanaeth ar ôl hyn, bydd angen i chi gofrestru eto. Cysylltwch â’r Gwasanaethau Stryd os nad oes angen y casgliad hwn arnoch mwyach.
Mae Sir y Fflint yn hybu’r cynllun cewynnau go iawn, sy’n cefnogi defnyddio clytiau ‘real’ a modern ac mae modd eu hailddefnyddio, er mwyn arbed arian a helpu’r amgylchedd. Mae’r cynllun yn cynnig talebau i helpu i brynu clytiau go iawn neu i dalu am wasanaeth golchi clytiau go iawn.
Bydd eich data’n cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint fel rhan o’n tasg gyhoeddus at ddibenion penodol i weinyddu a phrosesu eich cofrestriad ar gyfer Casglu a Gwaredu Gwastraff Cynnyrch Hylendid Amsugnol o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, Adran 33 a 34.
Bydd eich data categori arbennig (meddygol ac iechyd) yn cael eu prosesu gan Gyngor Sir y Fflint o dan Erthygl 9; (g) mae angen eu prosesu am resymau sydd o fudd sylweddol i’r cyhoedd paragraff 12. Gofynion rheoleiddio atodlen 1 Deddf Diogelu Data 2018.
Ni fydd Cyngor Sir y Fflint yn rhannu eich data gydag unrhyw sefydliad arall.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw’r wybodaeth a nodwyd gennych ar y Ffurflen Gofrestru am y flwyddyn bresennol, a 7 blynedd ychwanegol.
Os ydych chi’n credu bod Cyngor Sir y Fflint wedi cam-ddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch gwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth trwy fynd i’w gwefan neu trwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan.
- I gofrestru ar gyfer y gwasanaeth Casglu Cynnyrch Hylendid Amsugnol a Chlytiau, mae’n rhaid i’r unigolyn neu’r unigolion sy’n ymofyn y gwasanaeth fyw yn y cyfeiriad a ddarperir yn barhaol.
- Mae’r casgliad Cynnyrch Hylendid Amsugnol/Clytiau ar gael os ydych yn ofalwr maeth neu’n gofalu am blant yn rheolaidd ond nad ydych yn byw yn yr un cyfeiriad. Nid yw cartrefi lle mae defnyddwyr Cynnyrch Hylendid Amsugnol/Clytiau ond yn ymweld â theulu neu ffrindiau yn gymwys am y gwasanaeth.
- Fel rhan o’r gwasanaeth casglu Cynnyrch Hylendid Amsugnol neu glytiau, byddwn yn casglu:
- Clytiau untro a sachau clytiau
- Cynnyrch gofal anymataliaeth ee; leiners untro, padiau gwely a chadeiriau a chynfasau gwely amsugnol
- Byddwn yn casglu eich Cynnyrch Hylendid Amsugnol bob wythnos
- Mae’n rhaid i Gynnyrch Hylendid Amsugnol / clytiau gael eu cyflwyno yn y bagiau oren a ddarperir, a dylid rhoi’r bagiau pinc yn y blwch oren gan gau’r caead yn dynn. Ar eich diwrnod casglu, dylid gosod y blwch lle rydych yn arfer cyflwyno eich cynwysyddion ailgylchu, ar eich diwrnod casglu Cynnyrch Hylendid Amsugnol / Clytiau penodedig (mae’n bosibl y bydd y diwrnod hwn yn wahanol i’ch diwrnod casglu gwastraff y cartref ac ailgylchu arferol)
- Ni fydd Cynnyrch Hylendid Amsugnol / Clytiau’n cael eu casglu oni bai eu bod wedi cael eu rhoi yn y cynhwysydd a’r bagiau a ddarperir gan yr Awdurdod
- Ni fyddwn yn casglu gwastraff glanweithiol neu gynnyrch hylendid benywaidd, megis tyweli hylendid, tamponau neu leiners fel rhan o’r gwasanaeth Cynnyrch Hylendid Amsugnol. Fe ddylech barhau i roi’r rhain yn eich bin du (gwastraff na ellir eu hailgylchu) gan sicrhau eich bod wedi cau’r bag yn dynn cyn ei waredu.
- Os ydych yn derbyn casgliadau â chymorth, byddwn yn casglu eich Cynnyrch Hylendid Amsugnol / clytiau o fewn ffiniau eich eiddo lle mae eich gwastraff cartref ac ailgylchu’n cael eu cyflwyno i gael eu casglu fel arfer.
- Oni bai y nodir yn wahanol, bydd y gwasanaeth yn para am dwy flynedd, yna bydd eiddo yn cael eu tynnu’n awtomatig a byddent angen gwneud cais arall ar ôl y cyfnod hwn.
- Os nad ydych yn defnyddio’r gwasanaeth Cynnyrch Hylendid Amsugnol am dri chasgliad yn olynol, byddwn yn canslo eich tanysgrifiad a bydd yn rhaid i chi ail-gofrestru. Rhowch wybod i ni os hoffech chi i ni atal eich casgliadau Cynnyrch Hylendid Amsugnol dros dro ar unrhyw bryd.
- Mae gan Gyngor Sir y Fflint yr hawl i atal neu derfynu casgliadau ar gyfer unrhyw aelwyd sydd wedi cofrestru ar gyfer casgliadau Cynnyrch Hylendid Amsugnol / clytiau yn sgil y canlynol:
- Defnyddir y gwasanaeth i waredu deunyddiau nad ydynt yn Gynnyrch Hylendid Amsugnol
- Nid yw’r cynnyrch yn cael eu bagio a’u clymu’n briodol yn y blwch
- Nid yw’r blwch yn cael ei lanhau yn rheolaidd ac mae hynny’n peri risg iechyd i’r casglwyr
- Unrhyw achos arall sy’n peri risg iechyd i’r gweithwyr, cerddwyr neu gymdogion
- Unrhyw achos o gam-drin gweithwyr casglu Cyngor Sir y Fflint