Alert Section

Cael mwy o eitemau ailgylchu

Eitemau mae modd i chi eu casglu

Fe gewch chi gymaint o gynwysyddion ailgylchu ag y mynnwch chi i’ch helpu i ailgylchu.

Gallwch gasglu’r eitemau isod am ddim.

Bag Glas

Bag glas

Bag Lwyd

Bag llwyd

Bocs Glas

Bocs glas

Cadi Arian a Gwyrdd

Biniau bwyd gwyrdd ac arian, a bagiau bin bwyd

Bag Melyn

Bagiau melyn ar gyfer gwastraff clinigol (mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer y casgliad hwn)

Bag Pinc

Bagiau pinc ar gyfer clytiau a chynnyrch hylendid amsugnol (mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer y casgliad hwn) 

O le i’w casglu

Sir y Fflint yn Cysylltu

Ewch i unrhyw ganolfan Sir y Fflint yn Cysylltu i’w casglu.

Nid oes angen cod arnoch chi er mwyn casglu’r eitemau, ewch i’r ganolfan Sir y Fflint yn Cysylltu yn ystod oriau agor a siaradwch gydag un o’r tîm.

Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref

Gallwch wneud cais am god i gasglu o Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref o’ch dewis chi.

Nid yw cais am god yn gwarantu bod cyflenwad o’ch eitem ar gael yn y Ganolfan Ailgylchu. Ni allwn gadw eitemau.

Danfon

Casgliadau â Chymorth yn Unig

Dim ond ar gyfer preswylwyr sydd wedi’u cofrestru ar y cynllun casgliadau â chymorth mae’r opsiwn danfon ar gael.