Gallwch danysgrifio i gael gwasanaeth casglu gwastraff clinigol am ddim o'ch cartref, ynghyd â chynwysyddion a bagiau addas i storio a chasglu'r gwastraff.
Gallwn gasglu:
- bandeisiau/rhwymynnau
- cathetrau
- menig, ffedogau a bibiau
- bagiau stoma
Cesglir gwastraff clinigol bob wythnos. Byddwn yn trefnu man casglu, diwrnod casglu, amlder y casgliad ac unrhyw anghenion penodol eraill ynglŷn â’r gwasanaeth yma gyda chi.
Gwneud cais am gasgliad gwastraff clinigol
Ffoniwch ni ar 01352 701234 neu anfonwch e-bost at GwasanaethauStryd@siryfflint.gov.uk
Ar ôl gwneud cais am y gwasanaeth, byddwn yn anfon bin du a bagiau melyn i’ch cyfeiriad cyn pen 10 diwrnod gwaith. Byddwn yn gofyn i chi roi enw/rhif eich tŷ ar y bin.
Pan fydd angen i chi gael mwy o fagiau melyn, ewch i’ch Canolfan leol Sir y Fflint yn Cysylltu, siaradwch â’r criw ar ddiwrnod casglu, neu ffoniwch ni a gallwn anfon rhai atoch chi.
Bydd eich gwasanaeth casglu yn para 2 flynedd o’r diwrnod cofrestru. Byddwn yn ysgrifennu atoch chi pan fydd eich casgliad gwastraff clinigol ar fin dod i ben. Os bydd angen i chi barhau â’r gwasanaeth ar ôl hyn, bydd angen i chi gofrestru eto. Cysylltwch â’r Gwasanaethau Stryd os nad oes angen y casgliad hwn arnoch mwyach.
Bydd eich data’n cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint fel rhan o’n tasg gyhoeddus at ddibenion penodol o ran gweinyddu a phrosesu eich cofrestriad ar gyfer Casglu a Gwastraff Clinigiol o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, Adrannau 33 a 34.
Bydd eich data categori arbennig (meddygol ac iechyd) yn cael eu prosesu gan Gyngor Sir y Fflint o dan Erthygl 9; (g) mae angen eu prosesu am resymau sydd o fudd sylweddol i’r cyhoedd paragraff 12. Gofynion rheoleiddio atodlen 1 Deddf Diogelu Data 2018.
Ni fydd Cyngor Sir y Fflint yn rhannu eich data gydag unrhyw sefydliad arall.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw’r wybodaeth a nodwyd gennych ar y Ffurflen Gofrestru am y flwyddyn bresennol, a 7 blynedd ychwanegol.
Os ydych chi’n credu bod Cyngor Sir y Fflint wedi cam-ddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch gwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth trwy fynd i’w gwefan neu trwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan.
- Mae’n rhaid i’r person neu’r bobl sydd angen y gwasanaeth hwn breswylio’n barhaol yn y cyfeiriad a roddir er mwyn cofrestru ar gyfer casgliad Gwastraff Clinigol
- Mae’r casgliad Gwastraff Clinigol ar gael i unrhyw breswylydd yn Sir y Fflint yn rheolaidd, ar ôl gwneud cais. Nid yw cartrefi lle mae defnyddwyr clinigol ond yn ymweld â theulu neu ffrindiau yn gymwys ar gyfer y gwasanaeth.
- Fel rhan o’r gwasanaeth Casglu Gwastraff Clinigol, byddwn yn casglu:
- bandeisiau/rhwymynnau
- cathetrau
- menig, ffedogau a bibiau
- bagiau stoma
- Byddwn yn casglu eich Gwastraff Clinigol bob wythnos.
- Rhaid cyflwyno Gwastraff Clinigol yn y bagiau melyn a ddarperir, ac fe'u gosodir y tu mewn i'r bin du (gyda thâp melyn) gyda’r caead ar gau’n gadarn. I’w gasglu, dylid gosod y bin lle rydych chi fel arfer yn cyflwyno eich cynwysyddion ailgylchu, ar eich Diwrnod Casglu Gwastraff dynodedig (gall hwn fod yn wahanol i’ch diwrnod casglu gwastraff ac ailgylchu arferol).
- Ni fydd Gwastraff Clinigol yn cael ei gasglu oni bai ei fod wedi’i gyflwyno yn y cynwysyddion a’r bagiau a roddir gan yr Awdurdod.
- Ni fyddwn yn casglu gwastraff hylendid na chynhyrchion hylendid benywaidd, megis tywelion mislif, tamponau neu leinwyr fel rhan o’r gwasanaeth Gwastraff Clinigol. Dylech barhau i’w rhoi yn eich bin du (gwastraff na ellir ei ailgylchu), gan sicrhau eu bod wedi’u bagio’n ddiogel cyn cael eu taflu i ffwrdd.
- Os ydych yn derbyn casgliadau cynorthwyol, byddwn yn casglu eich Gwastraff Clinigol o fewn ffin eich eiddo lle mae gwastraff ac ailgylchu’n cael eu cyflwyno fel arfer i’w casglu. I gofrestru ar gyfer casgliadau cynorthwyol, ewch i’r wefan.
- Yn ôl y diffiniad, bydd y gwasanaeth hwn yn para am gyfnod o ddwy flynedd, ac ar ôl hynny caiff eiddo eu tynnu’n awtomatig o’r gwasanaeth a bydd angen ailgofrestru.
- Os na fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth Gwastraff Clinigol am dair casgliad yn olynol, byddwn yn canslo eich tanysgrifiad a bydd angen i chi ailgofrestru. Rhowch wybod i ni os bydd angen i chi ohirio eich casgliadau clinigol ar unrhyw adeg.
- Mae gan Gyngor Sir y Fflint yr hawl i ohirio neu derfynu casgliadau ar gyfer unrhyw aelwyd sydd wedi cofrestru ar gyfer gwasanaeth Gwastraff Clinigol, am y rhesymau canlynol:
- Mae’r gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio i waredu deunyddiau nad ydynt yn glinigol
- Mae’r bin yn cael ei gyflwyno heb i’r cynnwys fod wedi’i fagio a’i sicrhau
- Nid yw’r bin yn cael ei lanhau’n rheolaidd ac mae’n peri perygl iechyd i’r gweithredwyr casglu
- Unrhyw sefyllfa arall sy’n achosi perygl iechyd i griw, cerddwyr neu gymdogion
- Unrhyw achos o gam-drin gweithwyr casglu Cyngor Sir y Fflint