Bydd eich data’n cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint fel rhan o’n tasg gyhoeddus at ddibenion penodol o ran gweinyddu a phrosesu eich cofrestriad ar gyfer Casglu a Gwaredu Offer Miniog o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, Adrannau 33 a 34.
Bydd eich data categori arbennig (meddygol ac iechyd) yn cael eu prosesu gan Gyngor Sir y Fflint o dan Erthygl 9; (g) mae angen eu prosesu am resymau sydd o fudd sylweddol i’r cyhoedd paragraff 12. Gofynion rheoleiddio atodlen 1 Deddf Diogelu Data 2018.
Ni fydd Cyngor Sir y Fflint yn rhannu eich data gydag unrhyw sefydliad arall.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw’r wybodaeth a nodwyd gennych ar y Ffurflen Gofrestru am y flwyddyn bresennol, a 7 blynedd ychwanegol.
Os ydych chi’n credu bod Cyngor Sir y Fflint wedi cam-ddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch gwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth trwy fynd i’w gwefan neu trwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan.