Alert Section

Hawliau tramwy cyhoeddus


Cynllun Gwella Hawliau Tramwy

Mae Tîm Mynediad Cyngor Sir y Fflint yn dilyn ei Gynllun Gwella Hawliau Tramwy sy’n nodi sut mae’r Cyngor yn bwriadu gwella’r rhwydwaith dros gyfnod o 10 mlynedd.

Mae’r cynllun yn cynnwys Datganiad Gweithredu steil newydd ac ystod lawn o bolisïau a gweithdrefnau sy’n cynorthwyo’r tîm i ddarparu gwasanaeth hawliau tramwy modern a chynnal y rhwydwaith ar gyfer cymunedau Sir y Fflint.  Mae posib gweld y ddwy ddogfen ar y dolenni canlynol - Cynllun Gwella hawliau Tramwy a’r Ddogfen Bolisi

Anfonwch unrhyw adborth i - publicrightsofway@flintshire.gov.uk   

COVID -19

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rheoliadau brys, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) (Cymru) 2020, sy’n caniatáu awdurdodau lleol i gau llwybrau troed a hawliau tramwy eraill pan fo'u defnydd yn cyflwyno risg uchel o drosglwyddo coronafeirws.

Bydd cau llwybrau yn angenrheidiol pan mae Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn cael eu hystyried i fod yn ardaloedd:

(a)      Sy’n agored i nifer o bobl i ymgasglu neu fod yn agos i’w gilydd, neu
(b)     Mae eu defnydd fel arall yn cyflwyno risg uchel i'r haint neu drosglwyddo'r haint yn ei ardal gyda'r coronafeirws.

Nid yw’r Cyngor yn bwriadu cau nifer o lwybrau (megis ardaloedd agored yn agos i le mae pobl yn byw a byddant yn parhau i fod yn bwysig i les cyffredinol), ond byddant yn monitro a chau ardaloedd penodol os yw'n angenrheidiol. Cyngor presennol y Llywodraeth yw y dylai pobl

o    Gadw 2 fetr / 6½ troedfedd i ffwrdd o bobl eraill drwy’r amser

o    Bod yn wyliadwrus gyda golchi dwylo a hylendid - Cofiwch fod gatiau, camfeydd a strwythurau awyr agored eraill yn cael eu cyffwrdd yn aml

o    Peidiwch ag ymgymryd â gweithgareddau newydd neu risg uchel – Cadwch yn ddiogel yn ystod y cyfnod hwn o faich ar ein gwasanaethau brys a gwasanaethau iechyd

o    Dilynwch y Cod Cefn Gwlad – Byddwch yn ystyriol o ffermwyr ac eraill sy’n gweithio’n galed i gadw ein silffoedd yn llawn a’r seilwaith i fynd.

Mae cau llwybrau cyhoeddus yn cael eu hasesu gan ddefnyddio ‘Tabl Sgorio Cau’.

Mae cau llwybrau cyhoeddus yn cael eu hasesu gan ddefnyddio ‘Tabl Sgorio Cau’. Mae’r meini prawf a ddefnyddir fel sail i wneud penderfyniadau cau yn cynnwys; defnydd gan nifer fawr o bobl, natur a lleoliad y llwybr troed yn cynyddu’r risg o ddefnyddwyr yn rhy agos at ei gilydd, ymddygiad a digwyddiadau o weithgareddau risg uchel. 

Ni fydd y Cyngor yn gwrthwynebu perchnogion tir yn rhoi arwyddion wedi’u geirio’n addas i hysbysu defnyddwyr llwybrau troed bod aelodau teulu yn ddiamddiffyn ac/neu'n hunan-ynysu, nac ychwaith i'r cynnig o lwybr amgen sy'n osgoi bod yn agos at gartrefi, adeiladau a da byw, yn amodol ar yswiriant diogelwch/atebolrwydd.

Mae gan y tîm hawliau tramwy dempledi o arwyddion sydd ar gael i’w defnyddio a gellir gwneud cais amdanynt ar publicrightsofway@flintshire.gov.uk. 

Mapiau a llwybrau

Archwiliwch y Rhwydwaith Hawliau Tramwy ar ein map rhyngweithiol 

Fap ‘Explorer’ Arolwg Ordnans: Caiff y sir ei chwmpasu gan fapiau 256 "Wrexham & Llangollen", 265 "Clwydian Range" a 266 "Wirral & Chester" sydd wedi’u gosod ar raddfa o 1:25,000. Mae mapiau Explorer yn eithaf cyfredol ac yn dangos hawliau tramwy ac unrhyw newidiadau sydd wedi digwydd yn glir iawn. Maent hefyd yn dangos ffiniau caeau, felly mae’n hawdd gweld lle mae’r llwybr yn rhedeg.  Edrychwch ar wefan yr Arolwg Ordnans  

Adrodd am faterion Hawliau Tramwy

Adrodd am faterion Hawliau Tramwy ar-lein gan ddefnyddio CAMS:

Rhowch CAMS (cofrestredig)
Cofrestru ar gyfer CAMS* 

*Os yw defnyddiwr yn dymuno rhoi gwybod am nam bydd angen iddo/iddi gofrestru â CAMS ac yna mewngofnodi.  I gofrestru, bydd gofyn i’r defnyddiwr ddarparu data personol sylfaenol gan gynnwys cyfeiriad e-bost at ddibenion cysylltu.  Ar ôl mewngofnodi gall weld y map gwe lle gall nodi lleoliad y broblem a rhoi manylion trwy ddefnyddio dewislenni.  Ar ôl cyflwyno nam, bydd y defnyddiwr yn derbyn e-bost cadarnhau fel mater o drefn.  Gellir gwirio’r cynnydd a wneir mewn cysylltiad â phroblem unigol drwy ddefnyddio’r cyfeirnod a roddir i chi yn yr e-bost cadarnhau.  Er hynny, rydym yn ystyried ychwanegu nodwedd a fydd yn rhestru pob achlysur y mae defnyddiwr unigol wedi rhoi gwybod am broblem, yn ôl yr angen.Y dudalen gyntaf y mae’r cyhoedd yn ei gweld wrth fynd i mewn i’r system yw’r map gwe. 

Bydd hwn yn galluogi’r defnyddiwr i archwilio’r rhwydwaith Hawliau Tramwy drwy welywio o amgylch y map, dethol lleoliadau a throi haenau ymlaen a’u diffodd.  Mae gwahanol fathau o eiconau ar y map sy’n dangos y gwahanol fathau o gelfi megis camfeydd a giatiau mochyn. Wrth glicio ar y rhain ceir gwybodaeth am y celfi mewn swigod siarad.  Os oes ffotograffau ar gael o’r celfi bydd lluniau bach yn ymddangos yn y swigen siarad ac wrth glicio ar y llun agorir fersiwn mwy o’r ffotograff.

Bydd rhoi gwybod am broblem drwy ddefnyddio’r drefn hon yn cynorthwyo’r Tîm Hawliau Tramwy a defnyddwyr y rhwydwaith i wella’r rhwydwaith a chreu darlun o’r ardaloedd hynny sy’n mynnu’r sylw mwyaf.Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cynorthwyo i flaenoriaethu rhaglenni gwaith, targedu gorfodaeth effeithiol a chyfarwyddo gwaith y swyddogion Arolygu Llwybrau Troed a Hawliau Tramwy.

Adrodd am faterion Hawliau Tramwy heb ddefnyddio CAMS: 

Os oes unrhyw broblem yng nghyswllt hawl tramwy cyhoeddus, p’un a yw’r broblem yn ymwneud â rhwystr, anifeiliaid ymosodol, arwyddion ar goll, camfeydd y mae angen eu trwsio neu gyflwr llwybrau, cysylltwch â’r Is-adran Hawliau Tramwy.  E-bost: hawliautramwycyhoeddus@siryfflint.gov.uk / Ffoniwch: 01352 704612

Byddai’n ddefnyddiol pe baech yn rhoi gymaint o fanylion â phosibl am natur a lleoliad y broblem.

Hysbysu: cŵn yn baeddu, torri gwair, cynnal a chadw perthi a rheoli chwyn, llifogydd a draeniad, glanhau strydoedd, goleuadau stryd E-bost: gwasanaethaustryd@siryfflint.gov.uk / Ffon: 01352 701234. 

Cau llwybrau dros dro

Ambell waith mae angen cau hawliau tramwy cyhoeddus am gyfnod dros dro er mwyn diogelu’r cyhoedd; er enghraifft pan fydd gwaith cloddio neu gynnal a chadw yn cael ei wneud neu pan fydd gwaith adeiladu yn mynd ymlaen yn agos atynt. Isod gwelir rhestr o rannau o’r rhwydwaith hawliau tramwy sydd wedi cau am gyfnod dros dro:

 Gofrestr hawlia tramwy

Mae Adran 31 (6) o Ddeddf Priffyrdd 1980 (Deddf 1980) yn galluogi unrhyw dirfeddiannwr i gyflwyno mapiau, datganiadau a datganiadau statudol yn dangos pa lwybrau, os o gwbl, y maent yn eu cydnabod fel hawliau tramwy cyhoeddus dros dir yn eu meddiant.  O dan adran 31A Deddf 1980 (fel y'i diwygiwyd), mae gofyn i bob awdurdod lleol greu a chadw cofrestr sy'n cynnwys gwybodaeth am y mapiau a'r datganiadau hynny a gyflwynir.O dan adran 53 ac atodlen 14 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Deddf 1981), gall unrhyw un wneud cais i'r Cyngor Sir, fel yr awdurdod arolygu, i addasu'r map diffiniol a'r datganiad o hawliau tramwy cyhoeddus trwy:

  • ychwanegu llwybrau sydd heb eu cofnodi;• newid statws llwybrau sydd eisoes wedi'u cofnodi;
  • dileu ffyrdd sydd wedi'u cynnwys mewn camgymeriad; neu
  • wneud unrhyw newidiadau eraill 'r map a'r datganiad.    

Mae Adran 53B Deddf 1981 (fel y'i diwygir) yn mynnu bod pob awdurdod arolygu yn creu a chadw cofrestr o'r ceisiadau hyn, gan gynnwys manylion megis rhifau llwybrau, lleoliadau a'r cynnydd a wneir gyda'r cais.

Sylwer os ydych angen diweddariad ar eich ymholiad logiwch i fewn ar y system CAMS.

Gofrestr Hawlia Tramwy Adran 31(6)

Gofrestr Hawlia Tramwy Adran 53B

Rhagor o wybodaeth

1. Beth ydi 'hawl tramwy cyhoeddus'?

Diffiniadau:
Yn ôl y gyfraith mae hawliau tramwy cyhoeddus yn briffyrdd, sef llwybrau diffiniedig y mae gan y cyhoedd hawl i’w defnyddio.  Mae 1056.2 km o hawliau tramwy cyhoeddus yn Sir y Fflint.

Llwybr troed cyhoeddus (963.645km): priffordd â hawl tramwy ar droed yn unig.  Nid yw’r rhain yn cynnwys troedffyrdd ar hyd ochr ffyrdd cyhoeddus fel arfer. 

Llwybr ceffyl cyhoeddus (109.046km): priffordd â hawl tramwy ar droed, ar gefn ceffyl neu i arwain ceffyl gyda neu heb yr hawl i yrru anifeiliaid o unrhyw fath ar hyd y briffordd.  Mae gan feicwyr hefyd hawl i ddefnyddio llwybrau ceffyl, ond rhaid iddynt ildio i gerddwyr a marchogwyr ceffylau.  Mae’n drosedd gyrru cerbyd pŵer mecanyddol ar lwybrau troed a llwybrau ceffyl cyhoeddus oni bai: Fod y tir yn perthyn i chi; eich bod wedi cael caniatâd perchennog y tir; neu bod gennych hawl tramwy cerbydol preifat sy’n rhedeg ar hyd y llwybr.

Cilffordd sydd ar agor i unrhyw draffig (11.917km): priffordd â hawl tramwy cyhoeddus ar gyfer cerbydau a phob math arall o draffig, ond sy’n cael ei ddefnyddio gan y cyhoedd yn bennaf at yr un dibenion â llwybrau troed a llwybrau ceffyl.  Os ydych yn defnyddio cerbyd modur ar gilffordd sydd ar agor i unrhyw draffig, rhaid i chi sicrhau bod ganddo drwydded a’i fod yn addas i’w ddefnyddio ar ffyrdd cyhoeddus.  Fel gyrrwr, rhaid i chi fod â thrwydded ac yswiriant.

2. Beth yw’r map diffiniol? / Ble allaf weld y Map Swyddogol?
Y map a'r datganiad diffiniol yw cofnod swyddogol y llwybr cyhoeddus.  Mae'n cynnwys tystiolaeth gyfreithiol derfynol ynghylch pob llwybr cyhoeddus sydd wedi'i gofnodi arno.  Mae’r ‘copi gweithredol’ yn cynnwys pob newid sydd wedi’i wneud â llaw gan gynnwys newidiadau cyfreithiol, ers ‘dyddiad perthnasol’ y map (31 Hydref 1978).  Mae’r map diffiniol ar gael i’w archwilio fel arfer rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ym Swyddfeydd y Cyngor.  Os oes gennych apwyntiad gallwn sicrhau y bydd rhywun ar gael i ateb eich ymholiadau (ffoniwch 01352 704612).

3. Beth os ydw i’n defnyddio llwybr neu ffordd nad yw wedi’i gofnodi ar y map diffiniol?
Gall llwybrau cyhoeddus fodoli heb eu cofnodi ar y map diffiniol, gall llwybrau sydd wedi’u cofnodi fel llwybrau cyhoeddus fod, mewn gwirionedd, yn llwybrau ceffylau neu efallai nad yw llwybr cyhoeddus yn y lle iawn ar y map.  Gall unrhyw un sy’n honni fod angen diwygio’r map diffiniol ofyn i’r Cyngor Sir wneud hynny.  Mae’n rhaid cefnogi ceisiadau gyda thystiolaeth, naill ai rhai dogfennol (e.e. mapiau ‘hanesyddol) neu dystiolaeth defnyddiwr (ble mae’r cyhoedd wedi defnyddio’r llwybr am nifer o flynyddoedd) neu'r ddau.  Bydd y Cyngor Sir yn ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael cyn penderfynu gwneud gorchymyn ai peidio.  Mae’r broses o ddiwygio’r map diffiniol yn gymhleth, yn cymryd llawer o amser ac yn agored i wrthwynebiad gan y cyhoedd.  Felly, fe’ch cynghorir yn gryf i gysylltu â’r adain Hawliau Tramwy cyn penderfynu ar a ddylid cyflwyno cais.

4. Beth ddylwn i ei wneud os oes rhywun yn ceisio fy rhwystro rhag defnyddio llwybr cyhoeddus, yn fy mygwth neu fy nychryn wrth i mi ddefnyddio neu geisio defnyddio un?
Dylech gysylltu â’r heddlu.  Mae ganddyn nhw’r pwerau i ymdrin â phroblemau o’r fath.  Mae’r Cyngor Sir yn derbyn ceisiadau’n rheolaidd i ddileu (cau’n barhaol) lwybrau cyhoeddus a llwybrau ceffyl lle ceir problemau gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Bron yn ddieithriad mae’n rhaid eu gwrthod oherwydd nad yw’n bosibl bodloni’r profion cyfreithiol ar gyfer Gorchmynion Dileu.  Gweler uchod.

5. Sut ydw i’n symud hawl tramwy cyhoeddus ar fy nhir?
Yr unig ffordd o wneud hynny’n gyfreithiol yw trwy orchymyn dargyfeirio llwybr cyhoeddus.  Mae’n rhaid cyfarfod â nifer o amodau cyn y gellir gwneud gorchymyn ac mae yna broses ymgynghori fanwl.  Mae’n rhaid cadw’r llwybr presennol ar agor ac ar gael nes y daw unrhyw orchymyn dargyfeirion i rym.  Mae gorchmynion yn costio tua £5,000 i’w prosesu a does dim gwarant o lwyddiant.  Dyna pam y byddwn yn annog unrhyw un sy’n dymuno gofyn am ddargyfeiriad i feddwl yn ddifrifol iawn cyn gwneud felly.  Efallai y bydd yn rhaid i ymgeiswyr ail feddwl ynghylch eu cynigion os ceir unrhyw wrthwynebiadau dilys a gallan nhw ddal fod yn gorfod talu rhywfaint neu’r cyfan o’r costau. Mewn nifer o achosion y dewis gorau, os nad yr unig un, yw gadael i'r llwybr ble y mae.  Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r adain Hawliau Tramwy.

6. Alla i ofyn cael cau llwybr cyhoeddus?
Mae cau parhaol yn cael ei alw’n Orchymyn Dileu.  Oni bai fod llwybr arall ar gael yn lle'r un sy'n cael ei gau, mae gorchmynion o’r fath yn gallu bod yn eithriadol o gynhennus.  Felly, dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y byddwn yn ystyried ceisiadau ar gyfer dileu llwybr, ble nad oes unrhyw ddewis ymarferol arall.  Er enghraifft, mae rhai ystadau tai wedi’u hadeiladu dros lwybrau cyhoeddus a llwybrau ceffyl, nad oedd erioed wedi'u cau'n ffurfiol.  Er, efallai, nad yw’r llwybrau wedi’u defnyddio ers blynyddoedd lawer, maen nhw’n dal i fodoli’n gyfreithiol.  Mae’r Cyngor Sir wedi llwyddo i ddileu llwybrau mewn amgylchiadau o’r fath.  Mae manylion pellach ar gael o’r Adain Hawliau Tramwy.

7. Gyda phwy y dylwn i gysylltu os ydw i eisiau gosod camfa neu giât ar draws llwybr cyhoeddus ar fy nhir?
Dylech gysylltu â’r Adain Hawliau Tramwy i weld os allen nhw ei awdurdodi.  Mae amodau llym ar gyfer awdurdodi camfa neu giât.  Nid yn unig mae’n rhaid i’r Cyngor Sir sicrhau y bydd y gamfa / giât ar dir amaethyddol a bod ei hangen i rwystro anifeiliaid rhag crwydro, ond mae'n rhaid hefyd ystyried anghenion pobl gyda phroblemau symudedd.  Dyna pam y bydd y Cyngor Sir yn debycach o awdurdodi giât yn hytrach na chamfa, o gymryd na allwch adael bwlch i’r cyhoedd. 

8. Beth ddylwn i ei wneud os wyf eisiau caniatâd cynllunio i adeiladau dros / ar draws llwybr cyhoeddus?
Cysylltwch â’r Adain Hawliau Tramwy ar unwaith. Mae’n bosibl gwneud Gorchymyn i ddileu neu ddargyfeirio llwybr troed neu lwybr ceffyl er mwyn datblygu.  Gallai hynny gynnwys adeiladu neu waith arall y mae caniatâd cynllunio wedi’i roi ar ei gyfer.  Fodd bynnag, byddwn yn annog y datblygwr bob tro i ‘ddylunio’r’ llwybr cyhoeddus i mewn i’r datblygiad, er mwyn ei gynnwys.  Mae'n ffordd o osgoi dargyfeiriad neu ddileu.  Mae’n anodd iawn rhagweld canlyniad unrhyw orchymyn a gallai olygu fod caniatâd wedi’i roi ond na ellir ei weithredu.  Efallai y bydd gofyn cael cau dros dro tra bo’r gwaith yn mynd yn ei flaen.  Os ydych yn meddwl eich bod angen gwneud hynny, cysylltwch â’r adain Hawliau Tramwy.

9. Pwy sydd â'r cyfrifoldeb o gadw hawliau tramwy cyhoeddus?
Caiff y cyfrifoldeb o gadw hawliau tramwy cyhoeddus ar agor a sicrhau eu bod ar gael i’r cyhoedd ei rannu rhwng y Cyngor Sir, fel yr awdurdod priffyrdd, a’r tirfeddianwyr / deiliaid y tir.  Rhestrir rhai enghreifftiau o’r hawliau a’r dyletswyddau hyn isod.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gyfrifol am:

  • arddel ac amddiffyn hawl y cyhoedd i ddefnyddio a mwynhau unrhyw hawliau tramwy cyhoeddus;
  • sicrhau bod rhwystrau’n cael eu tynnu (trwy’r llysoedd os oes angen) ar hawliau tramwy cyhoeddus;
  • gosod arwyddion ar lwybrau troed, llwybrau ceffyl a chilffyrdd sydd ar agor i bob traffig sy’n gadael ffyrdd metlin a darparu arwyddbyst ychwanegol ar hyd y llwybrau os oes angen;
  • cynnal a chadw a rheoli llystyfiant naturiol (heblaw am gnydau) ar hawliau tramwy;
  • cynnal a chadw pontydd dros gyrsiau dŵr naturiol a ffosydd;
  • rhoi caniatâd i osod camfeydd a giatiau newydd sy’n ateb y meini prawf. Os nad oes angen camfeydd a giatiau bellach, gellir eu tynnu gyda chaniatâd yr Is-adran Hawliau Tramwy;
  • Darparu grantiau i dirfeddianwyr hyd at leiaf 25% o gostau cynnal a chadw camfeydd a giatiau presennol ar hawliau tramwy sydd ar eu tiroedd;
  • Paratoi a diweddaru’r cofnod swyddogol o hawliau tramwy cyhoeddus – y map a’r datganiad diffiniol. 

Os dowch ar draws unrhyw broblemau sy’n effeithio ar hawl tramwy yn Sir y Fflint, dylech hysbysu’r Is-adran Hawliau Tramwy.

Mae tirfeddianwyr a deiliaid tir yn gyfrifol am:

  • dynnu rhwystrau megis weiren bigog oddi ar lwybrau a datgloi giatiau;
  • torri unrhyw lystyfiant sydd wedi gordyfu fel nad yw’n peri anhwylustod i unrhyw un;
  • sicrhau nad yw llwybrau troed neu lwybrau ceffyl ar ymylon caeau nac unrhyw gilffyrdd sydd ar agor i bob traffig yn cael eu haredig;
  • aredig llwybrau troed a llwybrau ceffyl sy’n mynd ar draws caeau dim ond pan na fydd yn gyfleus i osgoi gwneud hynny ac adfer y llwybrau troed a’r llwybrau ceffyl 14 diwrnod ar ôl yr amhariad cyntaf (aredig neu amaethu) ac o fewn 24 awr ar ôl unrhyw amaethiad dilynol;
  • peidio â phlannu cnydau ar hawliau tramwy i osgoi anhwylustod i ddefnyddwyr a sicrhau bod llwybrau dros dir amaethyddol yn aros yn amlwg ar y ddaear;
  • cynnal a chadw camfeydd a giatiau mewn cyflwr diogel fel bo modd i’r cyhoedd eu defnyddio’n rhwydd;
  • darparu pontydd priodol os gwneir ffosydd newydd neu os caiff rhai presennol eu lledu, gyda chaniatâd Cyngor Sir y Fflint;
  • cael caniatâd Cyngor Sir y Fflint cyn codi unrhyw gamfeydd a giatiau newydd;
  • peidio â rhwystro hawl tramwy nac atal y cyhoedd rhag ei defnyddio trwy, er enghraifft, godi arwyddion camarweiniol;
  • peidio â chadw anifeiliaid peryglus mewn cae lle ceir hawl tramwy cyhoeddus;
  • Sicrhau nad oes unrhyw deirw llaeth yn cael eu cadw mewn caeau lle ceir hawliau tramwy cyhoeddus a chadw teirw bîff dim ond os ydynt dan 10 mis oes neu os ydynt yn hŷn na 10 mis oes ac yng nghwmni gwartheg neu heffrod. 

Aelodau’r cyhoedd:

cânt:

  • mynd heibio a dychwelyd ar unrhyw hawl tramwy cyhoeddus;
  • aros i edrych ar yr olygfa, tynnu lluniau, eistedd a gorffwys, cyn belled â nad ydych yn achosi rhwystr;
  • gwthio pram, coets neu gadair olwyn, ond disgwyliwch ddod ar draws camfeydd ar lwybrau troed;
  • mynd â chi am dro, ar dennyn os yn bosibl, ond dylech ei gadw dan reolaeth bob amser;
  • cymryd llwybr byr o amgylch rhwystr anghyfreithlon;
  • tynnu rhwystr anghyfreithlon er mwyn gallu pasio.

ni chânt:

  • grwydro ar dir fel y mynnwch, gan wyro oddi ar linell yr hawl tramwy oni bai eich bod yn pasio rhwystr;
  • defnyddio cerbyd ar gilffordd os nad yw wedi’i gofrestru, ei drethu a’i yswirio, neu reidio/pedlo/gyrru’n ddi-hid, diofal neu’n anystyriol;
  • defnyddio llwybrau troed cyhoeddus ar feic neu ar gefn ceffyl (oni bai eich bod wedi cael caniatâd y tirfeddiannwr).

Cofiwch: Dylech ddilyn y Cod Cefn Gwlad bob amser