Alert Section

Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd


Os hoffech fwy o wybodaeth am ddewis gofal plant, help sydd ar gael gyda chostau gofal plant neu os hoffech ddod o hyd i leoliad gofal plant lleol, ffoniwch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir y Fflint ar 01352 703500 neu anfonwch ymholiad.  Mae ein gwasanaeth yn rhad ac am ddim ac rydym yn rhan o Gyngor Sir y Fflint.

Oherwydd uwchraddio technegol i’n cyfleuster chwilio gofal plant, bydd unrhyw chwiliadau am ofal plant ar-lein yn darparu canlyniadau cyfyngedig ar hyn o bryd, wrth i ni gysylltu â darparwyr i ddiweddaru eu gwybodaeth.  Bydd y gwaith uwchraddio hwn yn caniatáu i ni gadw gwybodaeth fanwl ar gyfer rhieni, a darparu profiad chwilio gwell.

Os nad ydych yn gallu dod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano, anfonwch neges e-bost at Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd fisf@flintshire.gov.uk gyda’ch anghenion a byddwn yn dod yn ôl atoch. Fel arall, mae modd i chi gysylltu â ni dros y ffôn ar (01352) 703500 yn ystod oriau swyddfa gydol yr wythnos (mae cyfleuster peiriant ateb ar gael yn ystod cyfnodau prysur, nosweithiau a phenwythnosau – gadewch neges). Gall darparwyr gofal plant gysylltu â ni am ragor o wybodaeth ar sut y bydd y gwaith uwchraddio yn effeithio arnoch. Rydym yn diolch i chi am eich amynedd wrth i ni uwchraddio’r systemau ar-lein.

www.dewis.cymru (ffenestr newydd)

www.gwybodaethgofalplant.cymru/home (ffenestr newydd)


System Ddigidol Cynnig Gofal Plant Cymru

Os ydych chi’n dymuno siarad â’r tîm cynnig gofal plant yn benodol am eich cais neu ar gyfer ymholiadau cynnig gofal plant ffoniwch y llinell gymorth genedlaethol ar 03000 628 628 neu anfonwch e-bost at childcareofferapplications@flintshire.gov.uk

Ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill cysylltwch â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar 01352 703500.