Alert Section

Marwolaethau


Gwerthfawrogwn fod hwn yn gyfnod anodd iawn a gall golli anwylyd fod yn hynod o drallodus. Hoffem eich sicrhau chi ein bod ni yma i’ch cefnogi chi a sicrhau, lle bynnag bosibl, bod eich anghenion a dymuniadau yn cael eu diwallu.

Deall Ardystio Marwolaethau yng Nghymru

Gall marwolaeth rhywun sy’n agos atoch achosi gofid mawr a gall y camau rhwng yfarwolaeth a’r claddu neu’r amlosgi fod yn brofiad llethol. Mae’r wybodaeth ganlynolyn rhoi trosolwg o’r broses ar gyfer cofrestru marwolaethau yng Nghymru achanllawiau ar yr hyn y dylid ei ddisgwyl pan fydd rhywun yn marw.

Cam Un – Cyn y gellir Cofrestru’r Farwolaeth

Bydd clinigydd cymwys (er enghraifft meddyg, nyrs neu barafeddyg) yn gwirio bod y person wedi marw. Mae’r union ffordd o wneud hyn yn gallu dibynnu ar leoliad y person adeg marwolaeth. Bydd meddyg sydd wedi eu gweld yn ystod eu bywyd (ymarferydd a fu’n gweini) yn cyfeirio’r farwolaeth naill ai at sylw Crwner Ei Fawrhydi i ymchwilio iddi, neu at sylw Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol Cymru ar gyfer craffu annibynnol.

Mae sawl rheswm pam y gall bod angen cyfeirio marwolaeth at sylw’r Crwner i ymchwilio iddi, gan gynnwys yn achos damweiniau, trawma, hunan-niweidio neu, yn syml, pan nad yw achos y farwolaeth yn hysbys. Nid oes angen cyfeirio’r mwyafrif o farwolaethau at sylw’r Crwner, a hyd yn oed pan fydd angen hysbysu’r Crwner, nid yw hyn bob amser yn golygu bod yna broblem neu fod angen archwiliad postmortem.

Os nad oes angen cyfeirio’r farwolaeth at sylw’r Crwner, rhaid i’r meddyg ddrafftio Tystysgrif Feddygol Achos Marwolaeth ac anfon hon, ynghyd â manylion y perthynas agosaf a chopïau o’r nodiadau meddygol i’r Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol.

Cam Dau – Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol Cymru

Mae’r Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol yn darparu gwasanaeth craffu annibynnol yn achos pob marwolaeth sy’n digwydd yng Nghymru nad yw’n cael ei chyfeirio’n uniongyrchol at sylw’r Crwner i ymchwilio iddi. Y nod yw gwella diogelwch y cyhoedd, sicrhau bod tystysgrifau marwolaeth yn gywir, yn ogystal ag osgoi gofid diangen i unigolion mewn profedigaeth.

Wrth graffu ar farwolaeth, bydd y Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol yn adolygu’r cofnodion meddygol ac yn ystyried a oedd problemau mewn perthynas ag unrhyw elfen o’r gofal a ddarparwyd i’r ymadawedig. Yn ystod y broses hon, bydd y Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol hefyd yn siarad â’r perthynas agosaf neu’r teulu i egluro achos y farwolaeth ac i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod ganddynt.

Bydd unrhyw bryderon a godir gan y perthynas agosaf neu’r teulu yn cael eu cyfeirio at sylw’r darparwr gofal neu’r Crwner i ymchwilio iddynt ymhellach os oes angen.

Cam Tri – Cyfeirio’r Farwolaeth at sylw’r Cofrestrydd

Pan fydd y Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol wedi craffu ar y farwolaeth a’r meddyg wedi llenwi’r Dystysgrif Feddygol Achos Marwolaeth, bydd y dystysgrif yn cael ei chydlofnodi gan yr Archwiliwr Meddygol a’i hanfon yn electronig at y Cofrestrydd yn ardal yr awdurdod lleol (rhanbarth) lle digwyddodd y farwolaeth. Bydd y Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol hefyd yn rhannu manylion cyswllt y perthynas agosaf neu’r teulu er mwyn i’r Cofrestrydd allu cynllunio ar gyfer cofrestru’r farwolaeth.

Cam Pedwar – Cofrestru’r Farwolaeth

Pan fydd y Cofrestrydd wedi derbyn y Dystysgrif Feddygol Achos Marwolaeth, gellir gwneud apwyntiad i gofrestru’r farwolaeth. Nod y Cofrestrydd yw cofrestru’r farwolaeth cyn pen pum niwrnod o dderbyn y Dystysgrif Feddygol Achos Marwolaeth gan y Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol.

Cam Pump – Cynllunio’r Angladd

Gall y broses o gynllunio’r angladd ddechrau cyn i’r farwolaeth gael ei chofrestru, a gall aelodau’r teulu siarad â’r Trefnydd Angladdau i drefnu i weld eu hanwyliad cyn y claddu neu’r amlosgi, pan fo’n bosibl gwneud hynny. Ar ôl i’r farwolaeth gael ei chofrestru, bydd y Cofrestrydd yn cyhoeddi ffurflen werdd sy’n cadarnhau y gall y Trefnydd Angladdau fwrw ymlaen â’r trefniadau ar gyfer claddu neu amlosgi.

Yr Amserlen ar gyfer Ardystio Marwolaethau yng Nghymru

Bydd pawb sy’n rhan o’r broses ardystio marwolaethau yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau y gellir cofrestru marwolaeth cyn gynted ag y bo modd ac i osgoi oedi pan fo hynny’n bosibl. Fodd bynnag, gall materion fel mynediad at gofnodion meddygol, cyswllt â theuluoedd, gofynion tymhorol ac ymchwiliadau pellach gan y Crwner effeithio ar brydlondeb.

Cwblhau’r broses o ardystio marwolaeth cyn pen naw diwrnod yw’r nod. Fodd bynnag, dylid nodi y gall hyn gymryd mwy o amser mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft pan fo achos y farwolaeth yn gymhleth, neu pan nad yw gwybodaeth wedi cael ei darparu mewn modd amserol.

Rhagor o wybodaeth

Ni waeth beth yw’r rheswm pam y mae rhywun wedi marw, gall dod i delerau â’r hyn sydd wedi digwydd fod yn arbennig o anodd. Mae pobl yn profi galar mewn gwahanol ffyrdd ac efallai y bydd ar rai eisiau neu angen cefnogaeth ychwanegol yn ystod y cyfnod hwn. Mae rhagor o wybodaeth am gymorth a chefnogaeth ar gael arwefan eich bwrdd iechyd lleol.

Mae gwefan Llywodraeth y DU yn cynnwys canllaw manwl am y camau ychwanegol sydd angen eu cymryd pan fydd rhywun yn marw, gan gynnwys hysbysu adrannau perthnasol y llywodraeth ac ymdrin ag ystad yr ymadawedig.


Beth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn marw

Bydd yr Archwiliwr Meddygol yn cyflwyno Tystysgrif Feddygol o Achos Marw o Achos Marwolaeth (MCCD) i’r Cofrestrydd.

Mae’r Archwiliwr Meddygol yn craffu’n annibynnol ar holl farwolaethau na chânt eu hymchwilio gan y crwner. Bydd yr Archwilydd Meddygol yn sicrhau bod achos marwolaeth cywir yn cael ei gofnodi, yn nodi unrhyw bryderon o ran y farwolaeth ei hun a ellir yna ei ymchwilio ymhellach gan y darparwr gofal neu’r Crwner os oes angen, a chymryd safbwyntiau’r galarwyr i ystyriaeth. Bydd yr Archwilydd Meddygol yn cysylltu gyda’r perthynas agosaf cyn cyflwyno’r Dystysgrif Feddygol o Achos Marw o Achos Marwolaeth i’r Cofrestrydd.

Os fydd y farwolaeth wedi digwydd yn Sir y Fflint a’r Archwilydd Meddygol wedi cyflwyno’r MCCD, bydd y Swyddfa Gofrestru yn cysylltu â chi i wneud apwyntiad i gofrestru’r farwolaeth.

Os bydd eich anwylyd yn marw yn yr ysbyty

  1. Bydd meddyg yn cysylltu gyda’r Archwiliwr Meddygol ac yna bydd y Dystysgrif Feddygol o Achos Marw o Achos Marwolaeth (MCCD) yn cael ei sganio a’i anfon ar e-bost i’r Swyddfa Gofrestru. Nid oes angen casglu hwn.

  2. Unwaith y derbynnir yr MCCD bydd y Cofrestrydd yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad cofrestru marwolaeth.

    Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i chi gofrestru marwolaeth o fewn pum diwrnod o’r adeg y cyflwynodd yr Archwilydd Meddygol yr MCCD.

    Os nad ydych wedi clywed gan y Cofrestrydd, gallwch ffonio 01352 703333.

  3. Cost bob tystysgrif marwolaeth yw £12.50.

  4. Gallwch ddod o hyd i drefnwyr angladdau lleol ar wefan The National Association of Funeral Directors (NAFD). Fel arall, gallwch gysylltu â NAFD dros y ffôn ar 0121 711 1343.

  5. Yn ystod yr apwyntiad cofrestru marwolaeth, bydd y Cofrestrydd yn rhoi ffurflen ar gyfer claddu neu amlosgi i chi, neu fel arall yn anfon y ffurflen trwy e-bost i’ch trefnwr angladdau neu gymdeithas claddu. Yna bydd y trefnwr angladdau yn trefnu’r gladdedigaeth neu’r amlosgi mewn ymgynghoriad â chi.

  6. Os fydd eich anwylyd yn marw yn yr ysbyty, byddent yn mynd i’r corffdy, unai yn yr ysbyty neu mewn lleoliad arall megis parlwr angladdau. Bydd y tîm profedigaeth o fewn yr ysbyty yn rhoi gwybod i chi ble bydd eich anwylyd yn mynd.

    Os digwyddodd y farwolaeth tu allan i Sir y Fflint, byddwch angen

    cysylltu â’r Swyddfa Gofrestru ar gyfer yr ardal lle digwyddodd y farwolaeth. Gallwch ddod o hyd i’r Swyddfa Gofrestru berthnasol trwy roi cod post lleoliad y farwolaeth ar www.gov.uk

Os yw eich anwylyd yn marw gartref neu mewn lleoliad arall tu allan i’r ysbyty

  1. Os yw eich anwylyd yn marw gartref, ffoniwch eich meddyg neu’r gwasanaeth tu allan i oriau. Byddent yn trefnu gwiriad o’r farwolaeth a chysylltu gyda’r Archwilydd Meddygol.

    Os yw’r farwolaeth yn un annisgwyl, ffoniwch 999. Bydd y gweithredwr yn rhoi cyfarwyddiadau ar yr hyn sydd angen ei wneud. Bydd yr heddlu a chlinigwyr hyfforddedig yn dod i’ch tŷ ac yn cyflwyno adroddiad marwolaeth sydyn.

  2. Dylech gysylltu â’ch trefnwr angladdau i drefnu casglu eich anwylyd.

    Gallwch ddod o hyd i drefnwyr angladdau lleol ar wefan The National Association of Funeral Directors (NAFD). Fel arall, gallwch gysylltu â NAFD dros y ffôn ar 0121 711 1343.

  3. Bydd meddyg yn cysylltu gyda’r Archwiliwr Meddygol ac yna bydd y Dystysgrif Feddygol o Achos Marw o Achos Marwolaeth (MCCD) yn cael ei sganio a’i anfon ar e-bost i’r Swyddfa Gofrestru. Nid oes angen casglu hwn.

  4. Unwaith y derbynnir yr MCCD bydd y Cofrestrydd yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad cofrestru marwolaeth.

    Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i chi gofrestru marwolaeth o fewn pum diwrnod o’r adeg y cyflwynodd yr Archwilydd Meddygol yr MCCD.

    Os nad ydych wedi clywed gan y Cofrestrydd, gallwch ffonio 01352 703333.

  5. Cost bob tystysgrif marwolaeth yw £12.50.

  6. Yn ystod yr apwyntiad cofrestru marwolaeth, bydd y Cofrestrydd yn rhoi ffurflen ar gyfer claddu neu amlosgi i chi, neu fel arall yn anfon y ffurflen trwy e-bost i’ch trefnwr angladdau neu gymdeithas claddu.

    Yna bydd y trefnwr angladdau yn trefnu’r gladdedigaeth neu’r amlosgi mewn ymgynghoriad â chi.

Pwy all gofrestru marwolaeth

Gweler isod y rhestr o unigolion a all gofrestru marwolaeth:

  • Perthynas neu bartner
  • Rhywun a oedd yn bresennol yn ystod y farwolaeth
  • Meddiannydd sefydliad cymunedol
  • Yr unigolyn sy’n trefnu’r angladd os nad oes perthnasau ar gael

I baratoi ar gyfer yr apwyntiad cofrestru marwolaeth, sicrhewch eich bod yn gwybod y wybodaeth a restrir isod. Efallai y bydd yn ddefnyddiol ysgrifennu hyn i lawr ymlaen llaw, neu gael dogfennau megis pasbort, tystysgrif geni a thystysgrif priodi (os yw’n gymwys) wrth law.

Manylion yr ymadawedig:

 

  • Dyddiad a lleoliad y farwolaeth
  • Enw cyntaf, enwau canol (os yw’n gymwys) a chyfenw
  • Unrhyw enwau eraill yr oedd yr ymadawedig yn cael eu galw neu enwau blaenorol
  • Enw cyn priodi (os yw’n gymwys)
  • Dyddiad a lleoliad geni
  • Swydd ac a oeddent wedi ymddeol
  • Cyfeiriad

 

Gwybodaeth sydd ei angen i gofrestru marwolaeth

I baratoi ar gyfer yr apwyntiad cofrestru marwolaeth, sicrhewch eich bod yn gwybod y wybodaeth a restrir isod. Efallai y bydd yn ddefnyddiol ysgrifennu hyn i lawr ymlaen llaw, neu gael dogfennau megis pasbort, tystysgrif geni a thystysgrif priodi (os yw’n gymwys) wrth law.

  • Manylion priod/partner sifil yr ymadawedig (os yw’n gymwys)
  • Enw cyntaf, enwau canol (os yw’n gymwys) a chyfenw
  • Dyddiad Geni
  • Swydd
  • A ydynt wedi ymddeol

Bydd hefyd angen y wybodaeth ganlynol ar gyfer ystadegau’r llywodraeth:

  • A oedd yr ymadawedig yn sengl, priod, gweddw, wedi ysgaru, partner sifil, partner sifil sy’n goroesi neu gyn bartner sifil?
  • A yw eu priod neu bartner sifil yn dal i fod yn fyw? Os ydynt, beth yw eu dyddiad geni?
  • Pa mor hir oedd eu harhosiad yn yr ysbyty neu mewn sefydliad arall cyn eu marwolaeth?
  • A oedd yr ymadawedig o dan 75 oed?
  • Pa ddiwydiant a oeddent yn gweithio ynddo a pha swydd oedd ganddynt?
  • A oeddent yn derbyn pensiwn o gronfeydd y llywodraeth? Mae hyn yn cynnwys y gwasanaeth sifil, athrawon, y lluoedd arfog a gweddwon rhyfel. Nid yw hyn yn cynnwys pensiwn y wladwriaeth na chredyd pensiwn.
  • Rhif GIG yr ymadawedig o’u cerdyn meddygol (os yw ar gael).

Unwaith y cwblheir y cofrestriad bydd gofyn i chi lofnodi’r ffurflen. Mae’n bwysig fod y wybodaeth yn cael ei chofnodi mor gywir â phosibl, oherwydd gall gywiro gwallau a ddarganfyddir ar ôl y cofrestriad wedi’i lofnodi, achosi oedi a chostau.

Bydd y Cofrestrydd yn cyflwyno ffurflen werdd i roi i’r trefnwr angladdau. Os yw’r farwolaeth wedi cael ei gyfeirio at y crwner ac os yw’r angladd yn amlosgiad, bydd y ffurflen yn cael ei anfon gan y crwner i’ch trefnwr angladdau.

Ffurflen wen BD8 i’w chwblhau a’i hanfon gennych chi i’r Adran Gwaith a Phensiynau er mwyn stopio taliadau pensiwn y wladwriaeth a budd-daliadau eraill. Mae hyn hefyd yn hysbysu’r Adran Gwaith a Phensiynau fod amgylchiadau’r priod/partner sifil sy’n goroesi wedi newid.


Marwolaethau plant dan 18 oed a marw-anedig

Mae colli plentyn yn brofiad hynod o boenus. Rydym eisiau cynnig cymorth ymarferol a thrugarog i deuluoedd sy’n galaru. Mae amrywiaeth o gymorth ar gael gan gynnwys ffioedd claddu ac amlosgi ar gyfer plant dan 18 a chyfraniad o £500 tuag at gostau angladd a chostau cysylltiedig eraill.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i gefnogi teuluoedd sy’n galaru ar wefan Llywodraeth Cymru.


Y Crwner

Pan fydd marwolaeth yn digwydd dan yr amgylchiadau canlynol, bydd yn cael ei atgyfeirio at y crwner:

  • Mae’r farwolaeth yn sydyn ac annisgwyl
  • Mae achos y farwolaeth yn ymwneud â diwydiant
  • Nid yw achos y farwolaeth yn hysbys
  • Mae amgylchiadau amheus o ran y farwolaeth
  • Marwolaeth yn sgil damwain, trais, hunanladdiad, esgeulustod neu yn ystod / ar ôl llawdriniaeth

Bydd y crwner yn ymchwilio amgylchiadau’r farwolaeth ac yn gwneud un o’r canlynol:

  • Cyflwyno tystysgrif i’r Cofrestrydd i alluogi’r cofrestru’r farwolaeth
  • Trefnu post-mortem a phan fydd hyn wedi’i gwblhau, cyflwyno tystysgrif achos marwolaeth i’r Cofrestrydd gan alluogi cofrestru’r farwolaeth
  • Trefnu post-mortem a chynnal cwest. Yna bydd y crwner yn trefnu i’r farwolaeth gael ei gofrestru ar ôl cynnal y cwest.

Canllawiau a chymorth ariannol

Rydym yn cydnabod fod hwn yn gyfnod anodd i bawb, gan roi nifer o bobl mewn amgylchiadau ariannol annisgwyl.

Cysylltwch â’ch trefnwr angladdau i drafod y gwasanaethau gwahanol sydd ar gael, ac os oes angen, y cymorth ariannol maent yn ei gynnig.


Cefnogaeth mewn Galar

Mae profedigaeth yn effeithio ar bawb mewn gwahanol ffyrdd a gall fod yn boenus a dryslyd iawn. Mae cefnogaeth ac adnoddau ar gael i’r rhai sydd eu hangen.

Gofal Galar Cruse Cymru

Elusen The Child Bereavement

The Compassionate Friends (Y DU)

The Miscarriage Association