Alert Section

Gwasanaeth Cofrestru Sir y Fflint


Mae’n Swyddfa Gofrestru ni ym Mhlas Llwynegrin (ffenestr newydd) ar gyrion tref farchnad yr Wyddgrug. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â genedigaethau, marwolaethau, priodasau neu bartneriaethau sifil yn ardal gofrestru Sir y Fflint, cysylltwch â’r Swyddfa Gofrestru hon yn gyntaf. Mae’r Swyddfa Gofrestru yn rhannu safle â chanolfan weinyddol y Cyngor Sir ac mae’n lleoliad gwerth chweil ar gyfer seremonïau. Dyma’n cyfeiriad post:

Y Swyddfa Gofrestru
Plas Llwynegrin
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 6NR
Rhif ffôn: 01352 703333

Amseroedd agor
I osgoi unrhyw oedi diangen pan fyddwn yn cyfarfod cwsmeriaid newydd yn yr Wyddgrug, mae gan y Gwasanaeth Cofrestru system apwyntiadau ar gyfer yr holl wasanaethau cofrestru 9.30am tan 3.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae’r Swyddfa Gofrestru’n lleoliad gwerth chweil i bob mathau o seremonïau. Adeiladwyd y Plas gan Thomas Jones, pensaer lleol a Syrfëwr y Sir ac fe’i cwblhawyd yn 1830. Roedd yn gartref gwledig tawel tan 1948 pan brynwyd y Plas a’r tir o’i amgylch gan yr hen Gyngor Sir y Fflint gyda’r bwriad o adeiladu safle i’r Cyngor Sir.

Newyddion Diweddaraf 13/11/18: Llwyddiant yn y Diwrnod Agored Priodasau cyntaf     
Mwy o lluniau yma

Ystafell Seremonïau Neuadd Llwynegrin, Y Swyddfa Gofrestru, Yr Wyddgrug

Llwynegrin Hall Ceremony Room / Ystafell Seremonïau Neuadd Llwynegrin