Cefnogaeth a chyngor sydd ar gael i'ch helpu i fynd ar-lein
Mae technoleg ddigidol nawr yn rhan o’n bywydau – yn fwy nag erioed ers COVID-19. Ond mae llawer o breswylwyr yn parhau i fod wedi eu heithrio’n ddigidol ac fe hoffem ni newid hynny. Rydym eisiau helpu preswylwyr i ddarganfod rhyfeddodau technoleg ddigidol, tawelu eu meddyliau ac unrhyw bryderon neu anesmwythdra sydd ganddyn nhw.
Os ydych yn mentro iddi am y tro cyntaf ac yn ansicr ym mhle i ddechrau neu efallai yr hoffech chi ychydig o gyngor, rydym yma i’ch cefnogi a’ch cyfeirio at y cymorth sydd ei angen arnoch. Gallai hyn gynnwys:
- Defnyddio’r we ac e-bost
- Cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau
- Dysgu am bethau sydd o ddiddordeb i chi
- Cefnogi ffrindiau, teulu neu gymdogion sy’n llai hyderus gyda thechnoleg
- Rheoli eich arian
- Cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif neu newyddlenni’r Cyngor dros e-bost
- Mynediad at adnoddau i hyrwyddo iechyd a lles yn cynnwys gweithgareddau/ gwasanaethau ar-lein (e.e. ymgyngoriadau gyda gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwiriwr Symptomau GIG 111, gwybodaeth a chyngor lles DEWIS Cymru).
Sut allwn ni eich cefnogi?
Mae amrywiaeth o wasanaethau a chefnogaeth ar gael yn rhad ac am ddim i’ch helpu i fynd ar-lein neu i’ch helpu i gael ffrind neu aelod o’r teulu ar-lein. Porwch drwy’r Hwb hwn i ddarganfod mwy, yn cynnwys:
- Lle gallwch chi ddarganfod deunyddiau dysgu am ddim
- Darganfyddwch fudiadau lleol sy’n cynnig mynediad yn rhad ac am ddim at gyfrifiaduron, dyfeisiau eraill a’r we
- Adnoddau lles – byd o wybodaeth drwy Dewis Cymru a gwefannau eraill
- Darganfyddwch pa ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd ar gael ar-lein gan fudiadau lleol fel Aura a Theatr Clwyd
- Cyngor Digidol – gwasanaethau’r Cyngor y gallwch eu defnyddio ar-lein
- Aura Llyfrgelloedd
- Cefnogaeth TG Gartref am ddim gan Ability Net
Canolfannau Cysylltu Sir y Fflint
Gallwch gael cefnogaeth gan ein canolfannau
Sir y Fflint Cysylltu. Mae ein canolfannau Connects wedi’u lleoli ym Mwcle, Cei Connah, y Fflint, Treffynnon, a’r Wyddgrug. Mae gennym swyddogion a all gefnogi a chynghori ar ble i gael hyfforddiant a mynediad at adnoddau a dyfeisiau am ddim.
Dewis dyfais
Beth ydych eisiau ei wneud ar-lein? Bydd meddwl am hyn yn eich helpu i benderfynu beth yw’r ddyfais orau i chi. Ar gyfer beth fyddwch yn ei ddefnyddio? A oes angen iddo fod yn gludadwy? Pa mor aml fyddwch yn ei ddefnyddio? Dim ond rhai o'r cwestiynau fydd angen i chi eu hystyried.
Dyma ddisgrifiadau o'r pedwar prif fath o ddyfeisiau sydd ar gael i'ch helpu i benderfynu:
- Gliniadur – gwych ar gyfer defnydd ac adloniant bob dydd, yn fwy swmpus i’w gario o gwmpas
- Cyfrifiadur bwrdd gwaith – gwych ar gyfer bob math o waith, dyfais sefydlog mewn un lle
- Llechen – defnyddiol ar gyfer pori’r rhyngrwyd a dibenion adloniant. Gallai’r sgrin fach wneud i rai tasgau gymryd mwy o amser, megis ysgrifennu e-bost hir, gwych i ddechreuwyr.
- ffôn symudol – cludadwy, i’w defnyddio wrth fynd. Gallai’r sgrin fach wneud i rai tasgau gymryd mwy o amser, megis ysgrifennu e-bost hir, gwych i ddechreuwyr.
Adnoddau defnyddiol
Sut i gysylltu â ffrindiau a theulu
Mae Citizen’s Online yn rhestru adnoddau defnyddiol a fydd yn eich helpu i aros mewn cysylltiad â theulu, ffrindiau neu gydweithwyr.
Dyma rai apiau AM DDIM i’ch helpu i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu:
- Facebook – ymunwch â Facebook ar eich cyfrifiadur, lawrlwythwch Facebook for Android mobiles neu Apple mobiles.
- Microsoft Teams ar gyfer eich ffôn symudol, llechen neu gyfrifiadur.
- Skype - ar gyfer eich ffôn symudol, llechen neu gyfrifiadur.
- Zoom - ar gyfer eich ffôn symudol, llechen neu cyfrifiadur.
- WhatsApp - ar gyfer eich ffôn symudol, llechen neu gyfrifiadur.
- Facetime – ap fideo a sgwrsio yn benodol i ddyfeisiadau Apple.