Fy Nghyfrif
Gallwch gysylltu â Chyngor Sir y Fflint yn syth drwy greu Fy Nghyfrif. 
Bydd Fy Nghyfrif yn caniatáu i chi gael mynediad ardal bersonol ar ein gwefan lle allwch chi addasu’r cynnwys i gyd-fynd a’ch dewisiadau a’ch diddordebau unigol chi. Gallwch olrhain cynnydd unrhyw geisiadau a wnaethoch i’r Cyngor, gwybodaeth am wastraff ac ailgylchu, gweld pwy yw eich cynghorydd lleol a llawer iawn mwy.
- Mae Fy Nghyfrif ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos
 
- Mae eich manylion yn cael eu cadw, nid oes angen eu  mewnbynnu eto - gan arbed amser i chi
 
- Ar-lein yw’r ffordd rataf o gael mynediad at ein gwasanaethau
 
- Eich gwybodaeth yn ddiogel
 
Creu Fy Nghyfrif
Mewngofnodi i Fy Nghyfrif 
Cymorth a Chyngor  
Os oes angen cymorth i greu neu fynd i Fy Nghyfrif gall y wybodaeth isod fod o help.
I greu Fy Nghyfrif neu fynd i Ganolfan Sir y Fflint yn Cysylltu am gymorth
- mae’n rhaid i chi fod â chyfeiriad e-bost dilys
 
- bydd angen i chi greu cyfrinair diogel
 
- rhaid i chi gytuno â’n Telerau ac Amodau 
 
 
 
Na, does dim rhaid i chi fod yn byw yn Sir y Fflint i greu Fy Nghyfrif.   
 
 
I fewngofnodi bydd angen i chi fewnbynnu eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair yn gywir.  Peidiwch â cheisio mewngofnodi gyda chyfrinair na allwch ei gofio gan y bydd gormod o geisiadau anghywir yn cloi eich cyfrif.
Eich cyfeiriad e-bost yw eich enw defnyddiwr. Os ydych chi wedi anghofio eich cyfrinair cliciwch ar y ddolen ‘'Wedi anghofio eich cyfrinair?’ ar waelod y dudalen mewngofnodi.
 
 
Efallai nad oedd y cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd yn ddilys.  Os ydych wedi cysylltu â ni yn y gorffennol (dros y ffôn, ar e-bost neu ar-lein) ac wedi rhoi eich cyfeiriad e-bost i ni mae’n bosibl e fod yn ein system yn barod.  Cysylltwch â ni am ragor o gymorth.
 
 
 
Pe baech angen unrhyw gymorth gyda Fy Nghyfrif cliciwch ar cysylltu â ni.
 
 
Efallai y bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda gwasanaethau eraill y Cyngor a sefydliadau partner er mwyn sicrhau fod ein cofnodion yn gyfredol ac yn gywir a hefyd i’n helpu ni i weld a oes gwasanaethau neu fuddiannau y mae gennych o bosibl hawl iddynt neu a fydd o ddiddordeb i chi.  Efallai hefyd y bydd angen i ni rannu eich gwybodaeth er mwyn atal a datgelu twyll a/neu droseddau eraill fel sy’n ofynnol dan y gyfraith.  Am ragor o wybodaeth am sut yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth cyfeiriwch at ein Hysbysiad Preifatrwydd.