Pa atgyweiriadau mae'r Gwasanaeth Atgyweirio yn gyfrifol amdanynt?
Ni sy'n gyfrifol am du allan eich cartref, y prif adeiladwalth ac unrhyw osodion neu ffitiadau a osodwyd gennym y tu mewn i'ch cartref. Chi sy'n gyfrifol am gynnal tu mewn eich cartref ac am rai atgyweiriadau ac offer newydd. (Gweler Ein Cyfrifoldebau Ni ac Eich Cyfrifoldebau Chiuchod)
Oes rhaid imi dalu am unrhyw atgyweiriadau?
Os byddwch yn adrodd am atgyweiriad sydd ei angen oherwydd difrod a achoswyd gennych chi neu gan rywun yn eich cartref, byddwn yn disgwyl i chi ei atgyweirio ac i dalu am ei wneud. Byddwn bob amser yn gwneud gwaith brys er mwyn sicrhau eich bod chi a'ch teulu'n ddiogel ond byddwn yn codi tâl am hyn os mai chi a achosodd y broblem. Mae ein taliadau'n cynnwys costau gweinyddu. Os digwyddodd y difrod oherwydd lladrad neu fandaliaeth ac os gallwch roi Rhif Trosedd yr Heddlu i ni, ni chodir tal arnoch am gost yr atgyweiriadau.
A allaf hawlio am ddifrod i'm cartref?
Chi sy'n gyfrifol am addurno tu mewn eich cartref. Chi sy'n gyfrifol hefyd am eich eiddo personol, carpedi, ayb. Dylech yswirio cynnwys eich cartref ar gyfer y pethau hyn rhag ofn iddynt gael eu dwyn neu eu difrodi. Os mai ni sy'n gyfrifol am unrhyw ddifrod gallwch hawlio'r gost.