Darganfyddwch pa ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd ar gael ar-lein – efallai y bydd y canlyniadau yn eich synnu ...
Mae llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gael ar-lein yn rhad ac am ddim – edrychwch ar y dolenni isod a darganfyddwch fyd cwbl newydd o anturiaethau digidol!

Mae llyfrgelloedd yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau ar-lein i bobl o bob oed. Mae’n cynnwys eu catalog ar-lein a llawer iawn mwy.
Cliciwch i gael rhagor o wybodaeth.
Gweithgareddau grŵp rhad ac am ddim ar gyfer y rhai dros 75 oed
Mae Reengage yn elusen genedlaethol sy’n cynnig gweithgareddau grŵp ar gyfer pobl dros 75 oed yng Nghymru mewn awyrgylch cymdeithasol.
Mae eu grwpiau yn hwyl, yn gyfeillgar ac yn hollol am ddim. I gael rhagor o wybodaeth, i'w gwefan.
Let’s Move gyda Versus Arthritis
Versus Arthritis yw elusen fwyaf y DY sydd wedi ymrwymo i gefnogi pobl sydd ag arthritis.
Bwriad Let's Move yw cefnogi pobl i symud trwy amrywiaeth o gynnwys digidol gan gynnwys sesiynau symud pwrpasol, cyngor arbenigol a rhannu straeon personol. Mae’r holl gynnwys wedi ei ddylunio i helpu pobl i ganfod lefel y symudiad sy'n iawn iddyn nhw ac i helpu i gynyddu hyder yn eu corff eu hunain ac wrth reoli eu cyflwr o ddydd i ddydd.
I gael rhagor o wybodaeth ac i gymryd rhan, ewch i: Let's Move neu ewch i edrych ar Flintshire versus Arthritis.
Ewch i weld beth y gallwch ei ddarganfod ar-lein yn yr Archifau.