Help gyda chostau olew gwresogi a nwy petrolewm hylifol (LPG) (2026)
Os ydych chi'n gymwys am y Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (CTRS) am eich bod ar incwm isel, a'ch bod yn dibynnu ar olew gwresogi neu LPG i wresogi eich cartref, rydych yn gymwys i gael taliad untro o £200.
Beth sy'n rhaid i mi ei wneud?
Os ydych eisoes yn derbyn CTRS ac nad yw'ch cartref wedi'i gysylltu â'r grid nwy, byddwn yn cysylltu â chi ac yn eich gwahodd i wneud cais. Byddwn yn gofyn i chi gadarnhau pa fath o danwydd gwresogi rydych chi'n ei ddefnyddio trwy roi bil i ni sydd hyd at 12 mis oed a darparu manylion banc.
Os nad ydych chi'n derbyn CTRS, mae manylion pwy sy'n gymwys a sut i wneud cais yma.
Faint o amser sydd gen i i wneud cais?
Rhaid eich bod yn derbyn CTRS, neu wedi gwneud cais llwyddiannus am CTRS, rhwng 1 Ebrill 2026 a 31 Gorffennaf 2026. Dylech wedyn wneud cais am y cymorth olew gwresogi a LPG cyn gynted â phosibl. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Medi 2026.
Rwy'n barod i wneud cais
Cyn gwneud cais, gwnewch yn siŵr bod gennych gopi o'ch anfoneb neu dderbynneb olew gwresogi o'r 12 mis diwethaf a chopi o ddatganiad banc sy'n dangos eich manylion banc yn glir.
Pan fyddwch chi'n barod, cliciwch yma i wneud cais.
Ble ga i ragor o wybodaeth?
Os oes gennych ymholiad penodol, anfonwch e-bost atom i Heating.Scheme@siryfflint.gov.uk.
A oes cymorth arall ar gael?
Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd talu eich biliau neu gynhesu eich cartref, cliciwch yma.