Alert Section

Budd-daliadau Addysg


Cyllid Myfyrwyr

Cyllid Myfyrwyr Cymru nawr yn prosesu pob cais

Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru, sydd wedi ei leoli yng Nghyffordd Llandudno, nawr yn gyfrifol am brosesu, asesu a thalu cyllid i fyfyrwyr ar gyfer pob cais.

Am fanylion ar sut i ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr, trowch at Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Os oes gennych ymholiad am eich cyfrif cyllid i fyfyrwyr, dylech nawr gysylltu â Chyllid Myfyrwyr Cymru ar 0300 200 4050.

Gall Cyllid Myfyrwyr Cymru tudalennau Facebook a Twitter CMC hefyd ddarparu gwybodaeth a diweddariadau rheolaidd.

Prydau Bwyd Ysgol a Llaeth am Ddim

Bydd yr Awdurdod yn sicrhau:-

Bod pryd ganol dydd yn cael ei ddarparu ymhob ysgol gynradd ac ysgol arbennig, gyda dewis o gyrsiau lle y bo modd.

Bod pryd ganol dydd yn cael ei ddarparu ymhob ysgol uwchradd ar ddull caffeteria, y gyda chynllun prisio unigol.

Bydd Prydau an ddim yn cael ei ddarparu ar gyfer disgyblion sydd a'u rhieni'n derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceiswyr Gwaith sy'n seiliedig ar incwm, Cymorth o dan Ran VI o Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1999, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm, Credyd Treth Plant, cyn belled nad oes gennych hawl i Gredyd Treth Gwaith ac nad yw eich incwm blynyddol yn uwch nag £16,190, Elfen warant o Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth, Credyd Treth Gwaith am gyfnod ychwanegol - y taliad y gallai rhywun ei dderbyn am bedair wythnos arall ar ol iddynt fynd heibio trothwy'r Credyd Treth Gwaith neuCredyd Cynhwysol.

Mae llaeth rhad ac am ddim ar gael i ddisgyblion ysgol rhwng 3 a 6 oed yn yr ysgolion sydd wedi dewis ymuno â'r cynlluniau a ariennir ga Lywodraeth Cynulliad Cymru.Mae mwy o fanylion ynglyn â'r cynlluniau ar gael gan Bennaeth ysgol eich plentyn.

Trefnir cyfleusterau ymhob ysgol gynradd ac uwchradd ar gyfer disgyblion sy’n dymuno dod â’u cinio eu hunain.
Defnyddiwch y ffurflen gais ar-lein isod. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â benefits@flintshire.gov.uk neu 01352 704848.

Cais Am Brydau Ysgol Am Ddim

Sylwer bod maint yr incwm blynyddol yn cael ei adolygu tua mis Chwefror/Mawrth bob blwyddyn.

 Tripiau Ysgol

Efallai y bydd gennych hawl i rywfaint o gefnogaeth ariannol tuag at gost trip ysgol preswyl eich plentyn. Cysylltwch ag ysgol eich plentyn neu edrychwch ar wefan yr ysgol am fanylion pellach.

Grant cynhaliaeth addysg chweched dosbarth

Mae Lwfansau Cynhaliaeth Addysg yn rhoi cymorth ariannol, ar sail incwm, i bobl ifanc 16 - 19 oed sy'n dal mewn addysg llawn amser.

Gweinyddir y budd-dal gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf, gan gynnwys sut i wneud cais, edrychwch ar:

Cyllid Myfyrwyr Cymru neu ffoniwch yr ysgol uwchradd neu'r coleg perthnasol.