Alert Section

Prydau Ysgol Am Ddim Cyffredinol i Ddisgyblion

Prydau Ysgol Am Ddim Cyffredinol i Ddisgyblion

Cwestiynau Cyffredin

1. Pwy all dderbyn Prydau Ysgol Am Ddim Cyffredinol i Ddisgyblion Cynradd? (UPFSM)

Mae UPFSM yn berthnasol i bob plentyn oedran cynradd, o'r dosbarth derbyn i Flwyddyn 6.

2. Prydau Ysgol am Ddim a Prydau Ysgol Am Ddim Cyffredinol i Ddisgyblion Cynradd (UPFSM) deall y gwahaniaeth

Prydau Ysgol Am Ddim Cyffredinol i Ddisgyblion Cynradd (UPFSM) - Mae Llywodraeth Cymru yn anelu at sicrhau fod pob plentyn sy’n mynychu ysgolion cynradd yng Nghymru yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim o dan y cynllun prydau ysgol am ddim cyffredinol mewn ysgolion cynradd (UPFSM) erbyn 2024, waeth beth fo lefel incwm y cartref.  Ni fydd unrhyw ffurflenni i’w llenwi. Nid yw derbyn prydau ysgol am ddim o dan y cynllun UPFSM yn golygu bod gan deuluoedd hawl awtomatig i dderbyn budd-daliadau eraill megis grant hanfodion ysgol.

Ar gais llwyddiannus am eFSM, mae teuluoedd wedyn yn gymwys i gael budd-daliadau eraill i dalu cost hanfodion ysgol fel gwisg ysgol. Yn ogystal â theuluoedd, mae ysgolion hefyd yn elwa ar eFSM. Ar gyfer pob plentyn sy'n gwneud cais am ac yn cael eFSM, gall eu hysgol hefyd gael mynediad at gyllid a elwir y Grant Datblygu Disgyblion. Mae'r cyllid hwn yn £1,150 fesul plentyn sy'n gymwys ar gyfer eFSM. Mae’n bwysig, nawr bod y cynllun UPFSM wedi’i gyflwyno, bod teuluoedd cymwys yn parhau i ddilyn y broses ymgeisio eFSM er mwyn peidio â cholli allan ar fudd-daliadau eraill, ond hefyd fel nad yw eu hysgol yn colli allan ar gyllid hanfodol.

I gael mwy o wybodaeth am eFSM a grant hanfodion ysgol ewch i:

https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Schools/Education-Benefits.aspx

3. Pryd fydd y prydau yma ar gael i ddisgyblion?

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cwblhau’r broses o gyflwyno UPFSM ac mae hyn i gyd bellach ar gael i blant ym mhob grŵp blwyddyn o’r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 6.

4. Oes angen llenwi ffurflen gais i dderbyn y prydau am ddim?

Mae’r holl ddisgyblion yn y grwpiau blwyddyn priodol yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim yn awtomatig. Ni fydd ar rieni/gofalwyr angen llenwi ffurflen ond, pob wythnos, bydd yr ysgol yn gofyn iddyn nhw ar ba ddiwrnodau y bydd eu plentyn/plant yn manteisio ar y cynnig hwn.

5. Rydw i ar incwm isel ac mae fy mhlentyn yn derbyn prydau ysgol am ddim yn barod, sut fydd cyflwyno’r cynllun newydd hwn yn effeithio arnaf i?

Ni fydd cyflwyno UPFSM yn effeithio ar deuluoedd ar incwm isel neu'r rhai sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Bydd teuluoedd sy’n derbyn eFSM yn parhau i fod yn gymwys i dderbyn budd-daliadau eraill drwy’r grant mynediad GAD, megis gwisg ysgol. Yn ogystal â theuluoedd, mae ysgolion hefyd yn elwa ar eFSM. Ar gyfer pob plentyn sy'n gwneud cais am ac yn cael eFSM, gall eu hysgol hefyd gael mynediad at gyllid a elwir yn Grant Datblygu Disgyblion. Mae'r cyllid hwn yn £1,150 fesul plentyn sy'n gymwys ar gyfer eFSM. Mae’n bwysig, nawr bod y cynllun UPFSM wedi’i gyflwyno, bod teuluoedd cymwys yn parhau i ddilyn y broses ymgeisio eFSM er mwyn peidio â cholli allan ar fudd-daliadau eraill, ond hefyd fel nad yw eu hysgol yn colli allan ar gyllid hanfodol.

Am fwy o wybodaeth am y meini prawf cymhwysedd a’r broses ymgeisio ar gyfer prydau ysgol am ddim i ddysgwyr cymwys, dilynwch y ddolen hon :

https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Schools/Education-Benefits.aspx

6. Mae’n well gan fy mhlant fynd â phecyn bwyd i’r ysgol – a fydd hyn yn bosibl?

Bydd, fe allwch chi barhau i ddarparu pecyn bwyd i’ch plant. Fe allwch chi hefyd ddewis manteisio ar y cynllun ar rai diwrnodau a darparu pecyn bwyd ar ddiwrnodau eraill.

7. Mae gan fy mhlentyn anghenion deietegol penodol/alergedd. A fydd yr ysgol yn darparu bwyd ar ei gyfer?

Bydd. Mae pob ysgol yn darparu prydau ar gyfer unigolion gydag anghenion dietegol arbennig ac alergeddau, a bydd hynny’n parhau. Cofiwch drafod anghenion penodol eich plentyn yn uniongyrchol gyda’r ysgol.

8. Mae fy mhlant yn ffyslyd efo bwyd. Be’ ydi’r dewisiadau sydd ar gael i blant? 

Mae darparwyr arlwyo yn cynnig bwydlen faethlon a chytbwys sy’n cynnwys dewisiadau dyddiol amrywiol. Gallwch drafod unrhyw bryder sydd gennych chi gyda’ch ysgol. 

9. Mae’n well gan fy mhlant frechdanau, a oes modd iddyn nhw gael pecyn bwyd dan y cynllun prydau ysgol am ddim i bawb? 

Oes. Mae pecyn bwyd maethlon yn un o’r dewisiadau sydd ar gael bob dydd ymhob ysgol.