Mae Advance Brighter Futures yn elusen iechyd meddwl a lles, sydd wedi sefydlu yn Wrecsam ers 1992.
Nid yw dull gweithredu Advance Brighter Futures o ran adferiad personol yn driniaeth nac yn therapi meddygol. Mae’n ymwneud â’r broses o ddatblygu bywyd ystyrlon a boddhaol fel y caiff ei ddiffinio gan yr unigolyn sy’n profi problemau iechyd meddwl. Mae’r elusen yn ymarferol iawn ac yn cadw llawer o bobl sydd wedi elwa o wasanaethau fel gwirfoddolwyr. Mae Advance Brighter Futures yn gwerthfawrogi ac yn defnyddio profiadau bywyd amrywiol, sgiliau ac amser yr aelodau, ymddiriedolwyr, staff a gwirfoddolwyr.
Gallwn gynnig:
‘A Parent’s Guide to...’ (Sesiynau Grŵp)
Ar gael i famau a thadau sy’n byw yn Sir y Fflint, sydd â phlentyn o dan 18 mlwydd oed. Mae ‘A Parent’s Guide to...’ yn gymysgedd o gyrsiau a sesiynau galw heibio sydd wedi eu dylunio i’ch helpu drwy heriau bod yn rhiant. Dysgwch sgiliau a dulliau ymarferol i helpu i wella eich gallu i ymdopi a mwynhau perthnasoedd gwell.
Ymlacio eich Meddwl
Ymunwch â ni ar gyfer ein sesiynau galw heibio ar-lein AM DDIM, lle byddwn yn archwilio ymlacio, ymwybyddiaeth ofalgar, lles ac awgrymiadau gwych ar gyfer hunanofal!
Dysgwch ffyrdd i’ch helpu gyda straen a gorbryder a gwella eich iechyd a lles cyffredinol.
Grŵp ar-lein cefnogol, rhyngweithiol a chyfeillgar, gyda chymysgedd o rannu gwybodaeth, ymarferion ymarferol wedi eu harwain, a’r cyfle am sgwrs.
Bydd y sesiynau’n cynnwys ymarferion anadlu, ymwybyddiaeth ofalgar a myfyrdod, ond rydym yn croesawu eich adborth a byddem wrth ein boddau cael gwybod beth fyddech chi’n ei hoffi yn y sesiynau yma!
Sesiynau galw heibio bob pythefnos, yn dechrau ar 4 Mai 2023
Dydd Iau 12pm-1pm
Mynediad ar-lein drwy feddalwedd fideogynadledda Zoom
Pris: AM DDIM
Grŵp Cefnogaeth Wythnosol i Rieni
Cyfle i gyfarfod a thrafod popeth yn ymwneud â bod yn rhiant gyda mamau a thadau eraill sy’n deall. Bydd yn cael ei gynnal naill ai mewn canolfan chwarae dan do neu bydd yn daith gerdded a sgwrs o gwmpas ardal hardd Dyffryn Alun. Gweler isod am fanylion.
Dyddiau Mawrth 9:30am-11am
Parc Gwledig Dyfroedd Alun
Ffordd yr Wyddgrug
Gwersyllt
Wrecsam
LL11 4AG (cyfarfod yn y prif faes parcio)
Rheoli Straen a Gorbryder
Mae’r cwrs yma, sy’n RHAD AC AM DDIM, yn cynnwys 6 sesiwn ryngweithiol ar-lein, ac mae wedi ei ddylunio i helpu rhieni i reoli cyflyrau emosiynol anodd. Byddwch yn cael archwilio a deall mwy ynglŷn â straen a gorbryder, a chanfod sut i newid y ffordd rydych yn meddwl, a bydd yn rhoi ffyrdd ymarferol i’ch helpu i leihau symptomau.
Ewch i wefan Advance Brighter Futures