Alert Section

Gwasanaeth Ieuenctid Sir y Fflint

Pwy ydym ni

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Sir y Fflint yn rhan o bortffolio Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint. Rydym ni’n gweithio gyda phobl ifanc 11-25 mlwydd oed i ddatblygu eu datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgiadol yn ogystal â chefnogi eu hiechyd meddwl a’u lles drwy ystod eang o gyfleoedd gyda mynediad at gyfleoedd a phrofiadau yn Gymraeg a Saesneg, sydd yn darparu mwynhad ac yn cyfoethogi eu datblygiad personol drwy ddulliau gwaith ieuenctid.

Yn sail i’n gwaith mae pum egwyddor Gwaith Ieuenctid;

1. Mae pobl ifanc yn ffynnu.
2. Mae gwaith ieuenctid yn hygyrch ac yn gynhwysol.
3. Mae staff gwaith ieuenctid gwirfoddol a staff proffesiynol a delir yn cael eu cefnogi trwy gydol eu gyrfaoedd i wella eu hymarfer.
4. Mae gwaith ieuenctid yn cael ei werthfawrogi a’i ddeall.
5. Model cynaliadwy i ddarparu gwaith ieuenctid.

Caiff cyfleoedd eu darparu i bobl ifanc Sir y Fflint mewn sawl ffordd trwy’r Gwasanaeth Ieuenctid. Mae yna 11 clwb ieuenctid sydd ar agor yn wythnosol (yn ystod y tymor yn unig). Mae’r clybiau ieuenctid yn llefydd mynediad agored a diogel i bobl ifanc i gymdeithasu gyda’u ffrindiau a gwneud rhai newydd.

Mae’r Gwasanaeth Atal Digartrefedd yn arlwyo ar gyfer pob person ifanc sydd angen cefnogaeth ychwanegol. Mae’n eu cefnogi nhw i’w hatal rhag bod yn ddigartref ac arwain at argyfwng. Gall y tîm gefnogi pobl ifanc gyda gwaith cyfryngu rhwng y plentyn a’r rhiant, eu cefnogi mewn i addysg a gwaith a rhoi sgiliau byw’n annibynnol iddynt i’w hatal rhag dod yn ddigartref neu eu hatal rhag mynd i ddigartrefedd cudd.

Mae’r tîm Trochi yn yr Ysgol a’r Gymuned yn gweithio gydag ysgolion uwchradd Sir y Fflint i roi cefnogaeth i bobl ifanc yn ystod y diwrnod ysgol a’u helpu i gyflawni eu golau a’u dyheadau.

Mae Ysgol y Goedwig yn ffordd o ddysgu sgiliau newydd yn yr awyr agored drwy roi cyfle i bobl i gael eu hamgylchynu gan natur. Mae’r tîm Datblygu Chwarae yn rhan o’r tîm ehangach ac yn cynnig cyfleoedd chwarae mynediad agored wedi’u goruchwylio yn y gymuned.

Mae’r tîm Gwytnwch yn cael ei ariannu ac yn gweithio’n agos gyda phrosiect Teuluoedd yn Gyntaf Sir y Fflint. Mae’r tîm yn gweithio gyda phobl ifanc 16-25 oed yn Sir y Fflint, gan gynnig pecyn unigol o gymorth i helpu i wella hyder a lles.

Mae prosiectau megis Cyngor Ieuenctid Sir y Fflint a grŵp Cyfuno LHDT+ hefyd yn cael eu cynnal bob tymor ac maent yn sesiynau unigryw i sicrhau fod pob person ifanc yn Sir y Fflint yn cael y cyfle i weithio gyda’r Gwasanaeth Ieuenctid a bod eu barn yn cael eu clywed.

Yn ogystal â’r gwasanaethau yma, mae Gwasanaeth Ieuenctid Sir y Fflint yn cydnabod pwysigrwydd a’r cyfrifoldeb sydd gennym i hyrwyddo ac eirioli’r Gymraeg. Mae gennym Swyddog Iaith Cymunedol i edrych ar ein holl wasanaethau, a sut rydym ni’n gweithredu’r Gymraeg drwy ein darpariaeth i gefnogi targed Llywodraeth Cymru o gael 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae hefyd yn cefnogi Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2022 – 2032 yr awdurdod lleol.

Mae’r gwaith o ymgysylltu gyda phobl ifanc yn digwydd mewn canolfannau hamdden, clybiau ieuenctid, ac ar y stryd (lle mae’r bobl ifanc!), mewn ysgolion ac mewn cymunedau lleol. Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid hefyd yn ymgysylltu gyda phobl ifanc ar gyfryngau cymdeithasol ac mae gan y tîm gyfrif ar Facebook ac Instagram, dilynwch ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i ddysgu mwy.

Os oes angen cefnogaeth frys arnoch, edrychwch ar-lein ar wefannau Byw Heb Ofn, Meic a Childline neu ffoniwch nhw, dyma eu manylion:

Mae Byw Heb Ofn yn darparu help a chyngor am drais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Llinell gymorth 0808 10 800 ar gael 24 awr y dydd 7 diwrnod yr wythnos.

Mae Meic yn wasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru ac mae ar agor o 8am tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Rhadffôn 0808 23456 Testun 84001 neu neges uniongyrchol/sgwrs Ar-lein.

Mae Childline yn galluogi pobl ifanc i gael help a chyngor am amrywiaeth eang o faterion, ffoniwch nhw ar 0800 1111 neu gallwch siarad â chwnselydd ar-lein.


 

Trosolwg Cyffredinol o'r Gwasanaethau Ieuenctid Sir y Fflint

Bydd holl bobl ifanc Sir y Fflint yn cael eu cefnogi i fod yn ddiogel, yn iach, i gyrraedd eu potensial ac i fod yn rhydd o anfantais ac anghydraddoldebau cyfle

Gwasanaethau Ieuenctid Sir y Fflint - Manylion Cyswllt

Manylion Cysylltu i Wasanaethau Ieuenctid a Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.

Hysbysiad Preifatrwydd Cyngor Sir y Fflint

Sut mae Gwasanaethau Ieuenctid Sir y Fflint yn gofalu am eich gwybodaeth.