Alert Section

Trosolwg Cyffredinol o'r Gwasanaethau Ieuenctid Sir y Fflint


Beth yw Gwasanaethau Ieuenctid Sir y Fflint?

Mae’n golygu bod gwasanaethau yn dod at ei gilydd i ddarparu gwell canlyniadau ar gyfer pobl ifanc yn Sir y Fflint.

Cefnogi pobl ifanc 11-25 oed gan gynnwys y bobl ifanc hynny sy'n gadael gofal.

Gweithio'n rhagweithiol ar ymyrraeth gynnar ac atal er mwyn gwella sefyllfaoedd pobl ifanc ddiamddiffyn.

Darparu'r gwasanaethau iawn ar yr adeg iawn yn y lleoedd iawn.

Mae pobl ifanc yn cael cyfleoedd a dyheadau ac yn cael eu cefnogi i ffynnu yn eu teulu unigryw eu hunain.

Helpu pobl ifanc i gymryd rhan yn effeithiol ac yn gyfrifol ym mywyd eu cymunedau.

Sut mae’n gweithio i Bobl Ifanc

Byddwn yn ceisio sicrhau eich bod yn cael eich clywed a byddwn yn gweithio gyda chi i weld pa gefnogaeth sydd ei hangen arnoch.

Byddwn yn ceisio’ch cefnogi i fod yn fwy gwydn ac yn eich galluogi i fod â strategaethau ymdopi.

Eich helpu i gymryd rhan yn effeithiol mewn addysg, hyfforddiant a’r gymuned.

Gweithio gyda chi a chymunedau lleol i ddod yn fwy integredig ac i ddeall anghenion eich gilydd.

Eich galluogi i ddefnyddio’ch dewis iaith.

Sut mae’n gweithio i chi

Bydd cyflawni gyda'n gilydd yn helpu pobl ifanc i gael y cymorth iawn ar yr adeg iawn yn y lle iawn.

Bydd gweithio gyda'n gilydd yn golygu na fydd rhaid i bobl ifanc adrodd eu stori drosodd a throsodd.

Bydd gennym gymorth wedi'i dargedu ar gyfer pobl ifanc sydd mewn gofal neu sy’n gadael gofal.

Byddwn yn ceisio sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau i bobl ifanc beth bynnag yw eu hoedran neu gefndir neu leoliad.

Byddwn yn ceisio cefnogi rhieni ifanc ac ymateb i'w hanghenion.

Pethau y gallwn eich helpu chi gyda nhw

  • Eich helpu i weithio drwy faterion teuluol.
  • Eich helpu i fod yn ddinesydd gweithgar o fewn eich cymuned.
  • Eich helpu i gael y gwasanaethau iawn ar yr adeg iawn yn y lle iawn.
  • Eich helpu i gael mynediad i wasanaethau lleol sydd ar gael yn eich ardal, a hefyd ar-lein.
  • Eich helpu i gael mynediad i gyfleoedd dysgu a hyfforddi newydd a chyffrous, yn ffurfiol ac yn anffurfiol.
  • Eich helpu i gael llwybr at gyflogaeth.
  • Helpu ein pobl ifanc sy’n gadael gofal (hyd at 25 oed).
  • Eich helpu i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed mewn penderfyniadau sy'n effeithio ar eich bywyd!