Alert Section

Progress for Providers


Egwyddor allweddol deddfwriaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yw y dylai pobl gael eu cefnogi i wella eu lles. Mae gwybod pa faterion sy’n bwysig i unigolion a sut mae cefnogaeth wych yn edrych iddyn nhw yn hanfodol i gyflawni hyn. I ddarparwyr gofal cymdeithasol mae hyn yn golygu ffordd o weithio ble mae canolbwynt y gefnogaeth ar ansawdd bywyd yn hytrach nag ar dasgau.

I helpu ein darparwyr yn Sir y Fflint i weithio yn y modd hwn rydym wedi datblygu Cynnydd i Ddarparwyr.  Rhaglen achredu yw hon sy'n gosod disgwyliadau clir ynghylch darparu gofal a chefnogaeth unigol, ac yn cydnabod y gwerthoedd hanfodol sydd eu hangen gan weithwyr gofal i gefnogi pobl yn effeithiol.  Dechreuodd y rhaglen mewn gwasanaethau preswyl yn 2015 ac oherwydd ei lwyddiant, fe'i hehangwyd i gynnwys gwasanaethau gofal cartref a gofal ychwanegol. Rydym hefyd yn bwriadu gweithio gyda darparwyr i weithredu'r rhaglen o fewn gwasanaethau anabledd dysgu.

Mae Cynnydd i Ddarparwyr yn defnyddio dulliau ac ymarferion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i helpu timau o staff i newid y ffordd maent yn cefnogi pobl ac yn ymgysylltu â’u teuluoedd. Mae’r dulliau hyn, gan gynnwys proffiliau un tudalen, cofnodion dysgu a chytundebau gwneud penderfyniadau, yn galluogi pobl sy’n cael gofal a chefnogaeth i gael mwy o beth sy'n bwysig iddynt nhw yn eu bywydau. I ddarparwyr, nid yw eu defnyddio yn golygu gwneud mwy, ond yn hytrach gwneud pethau yn wahanol.

Yn y gwasanaethau preswyl mae gan Gynnydd i Ddarparwyr dair lefel o achrediad: efydd, arian ac aur, ac yn y gwasanaethau cartref mae dwy lefel: arian ac aur. O fewn bob lefel, mae nifer o safonau i ddarparwyr eu cyflawni. Ar ôl sgorio eu hunain, mae gan reolwyr fesuriad gwaelodlin o ble maent, ac yn gallu blaenoriaethu'r safonau maent eisiau cynyddu eu sgoriau arnynt. Mae cynnydd yn cael ei fonitro yn rheolaidd gan Swyddogion Contract Sir y Fflint.

Mae cyflawni achrediad Cynnydd i Ddarparwyr yn helpu rheolwyr i ddangos yn gyhoeddus eu bod yn gwneud cynnydd parhaus wrth ddarparu gofal a chefnogaeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae darparwyr Sir y Fflint sydd wedi cyflawni achrediad wedi eu rhestru yma, a byddwn yn parhau i ddiweddaru’r rhestr hon wrth i’r rhaglen barhau. 

Efydd

  • Clock House  
  • Options (Oedolion)
  • Station House 
  • Sycamore Lodge
  • The Glynne
  • The Oaks
  • Ty Cerrig

Arian

  • Bryn Edwin 
  • Cartref Ni
  • Castell Care
  • Croes Atti
  • Tim Cartref Glannau Dyfrdwy
  • JNJ Health 
  • Llys Eleanor
  • Llys Jasmine
  • Llys Raddington 
  • Phoenix House
  • Wellfield 

Aur 

  • Gwasanaethau Cymunedol Glannau Dyfrdwy
  • Haulfryn 
  • Llys Gwernffrwd 
  • Marleyfield House 
  • Gwasanaethau Cymunedol yr Wyddgrug
  • Plas Yr Ywen
  • Wepre Villa Cartref Nyrsio

Ym mis Medi 2018, roeddem yn falch iawn pan enillodd y rhaglen Wobr Gofal Cymdeithasol Cymru ac fe gyrhaeddodd y rownd derfynol yng ngwobrau Cymdeithas Rhagoriaeth y Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae Gwobrau Gofal Cymdeithasol Cymru’n cydnabod rhagoriaeth o fewn gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac roedd y wobr yn benodol am ganlyniadau rhagorol i bobl o bob oed trwy fuddsoddi mewn hyfforddi a datblygu staff.

Cliciwch yma i gael gwybod mwy am Gynnydd i Ddarparwyr.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth cyffredinol cysylltwch â Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint ar 01352 702672 neu e-bostiwch: Contract.&.Commissioning.Team@siryfflint.gov.uk