Alert Section

Beth yw Taliadau Uniongyrchol?


What are direct payments 670

Beth yw Taliadau Uniongyrchol?

Os ydych yn gymwys am gymorth ar gyfer eich anghenion gofal, gall Cyngor Sir y Fflint roi’r arian i chi yn hytrach na gwasanaeth

 

Gallwch ddefnyddio eich Taliadau Uniongyrchol i drefnu cefnogaeth sy’n iawn i chi a’ch ffordd o fyw. 

Mae cael Taliadau Uniongyrchol yn golygu y gallwch gael mwy o reolaeth dros y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch, i allu gwneud dewisiadau pwysig am eich gofal, a chael llawer mwy o hyblygrwydd dros eich cefnogaeth na gofal a drefnwyd gan y cyngor.

Mae pobl yn Sir y Fflint yn defnyddio Taliadau Uniongyrchol i drefnu:

  • Cefnogaeth gyda bywyd bob dydd a gweithgareddau
  • Cefnogaeth i fynd hwnt ac yma
  • Cefnogaeth gyda gofal personol
  • Cefnogaeth sy’n helpu i gyflawni nodau personol
  • Cyfarpar sy’n cefnogi eu hannibyniaeth

Mae cael Taliadau Uniongyrchol yn benderfyniad personol a fydd yn eich galluogi i gyflawni ansawdd bywyd gwell, gobeithio.

Rydym yn ymroddedig i ddarparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch, i bobl fel chi, er mwyn gwneud penderfyniad sy’n iawn i chi.

Mae gennym dîm Taliadau Uniongyrchol profiadol yn y cyngor, sydd yna i’ch cefnogi gydag unrhyw ymholiadau neu wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Byddwn yn ceisio rhoi gymaint o gymorth a sicrwydd gofynnol â phosibl i chi, nes eich bod yn teimlo’n hyderus i reoli trefniadau dros eich hun. Ond cofiwch, os ydych angen cefnogaeth neu gyngor o bryd i’w gilydd, dim ond un galwad i ffwrdd ydym ni.

Gwybodaeth gyswllt Taliadau Uniongyrchol:

Gwasanaeth Cefnogi Taliadau Uniongyrchol  

01352 701100    

dp.support@flintshire.gov.uk

Aelodau Tîm:

Rheolwr Tîm Taliadau Uniongyrchol; Mark Cooper.

Swyddogion Cefnogi Taliadau Uniongyrchol; Claire Tuft, Emily Kershaw, Harriet Weir, Sharon Stapley-Jones, Maria Williams  

Cefnogaeth â Thaliadau Uniongyrchol yn Sir y Fflint

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i eisiau gwybod mwy am Daliadau Uniongyrchol?

Er mwyn i chi gael Taliadau Uniongyrchol, mae angen i chi gael asesiad o’ch anghenion gofal. Os oes gennych weithiwr cymdeithasol neu reolwr gofal, yna cysylltwch â nhw. Os ddim, ffoniwch y:

  • Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion ar 03000 858858;
  • neu’r Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant ar 01352 701000

Llawlyfr Gwybodaeth Taliadau Uniongyrchol 

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a thaflenni ffeithiau am Daliadau Uniongyrchol yma

Straeon Talu Uniongyrchol

Stori Teresa

Cafodd Teresa ddiagnosis o Ddementia Cynnar yn 59 oed. 8 mlynedd wedi hynny mae’n sôn sut y mae Taliadau Uniongyrchol wedi ei galluogi i wneud trefniant arall i’w chefnogaeth draddodiadol ac sydd wedi ei galluogi i aros yn actif, yn iach ac i allu cymryd rhan yn ei chymuned leol. 


Rhan 1 o stori Joanne

Roedd yn rhaid i Joanne gael cefnogaeth 24 awr ar ôl iddi dderbyn anaf i’w hymennydd yn 1996 pan oedd hi’n 20 oed. Dyma Joanne a’i mam yn dweud ei stori a sut mae taliadau uniongyrchol wedi helpu Joanne i fyw yn annibynnol yng nghartref ei hun gyda chymorth o’i dewis. 


Rhan 2 o stori Joanne

Mae Joanne wedi gorfod cael cefnogaeth ar ôl iddi dderbyn anaf i’w hymennydd yn 1996 pan oedd hi’n 20 oed. Dyma Joanne ac un o’r Cynorthwyydd Personol (CP) y mae hi’n ei gyflogi trwy Daliadau Uniongyrchol, mae’n siarad ynglŷn â sut brofiad yw bod yn CP.


Stori Eira

Cafodd Eira ddiagnosis o glefyd Parkinsons yn 2021 ac mae’n byw gyda’i gŵr sy’n rheoli’r taliadau uniongyrchol ac yn derbyn cymorth gan 3 Chynorthwywyr Personol (CP) gan gynnwys ei merch. Dyma eu stori nhw o sut y mae taliadau uniongyrchol wedi helpu eu teulu, gan gynnwys cymorth i Eira, cymorth i’w gŵr fel gofalwr a phrofiad y ferch o fod yn CP i’w mam.


Stori Imogen

Dyma stori Imogen. Mae Imogen yn profi anawsterau gyda’i iechyd meddwl, ond gyda thaliadau uniongyrchol gall gyflogi CP i’w helpu gyda thasgau dyddiol a byddai’n argymell taliadau uniongyrchol i bobl eraill gyda phroblemau iechyd meddwl.