Alert Section

Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion

Croeso i’r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion.

Rydym yn deall bod bywyd yn gallu bod yn heriol, ac nid yw bob amser yn hawdd gwybod lle i droi am help. P’un a ydych chi’n wynebu anawsterau eich hun neu’n poeni am rhywun arall, mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yma i’ch cefnogi chi.

Mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio gyda phobl o bobl oed i’w helpu i fyw yn ddiogel, yn iach ac yn annibynnol. Ein rôl yw gwrando, deall eich anghenion a’ch cysylltu â’r gefnogaeth gywir.

Nid oes raid i chi wybod yr holl atebion cyn cysylltu â ni. Os nad ydych chi’n siŵr lle i ddechrau, mae hynny’n iawn – rydym ni yma i’ch arwain chi.

Beth yw Gofal Cymdeithasol?

Mae'r cynnwys canlynol yn egluro beth yw gofal cymdeithasol yng Nghymru, sut mae'n gweithio, pwy sy'n ei ddarparu a'r ffyrdd y gall pobl gael mynediad at y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.

Lle allaf i gael help yn Sir y Fflint?

Dysgu pwy ydym ni, cael arweiniad ar gyfer trefnu cefnogaeth, gwirio eich cymhwysedd a deall sut i wneud cais am asesiad gofal cymdeithasol.

Cael help yn gynnar

Aros yn iach, actif ac annibynnol, gyda mynediad at wybodaeth mae modd ymddiried ynddi a gwasanaethau sydd wedi'u cynllunio i gefnogi eich lles bob cam o'r ffordd.

DewisPointAyr

Dewch o hyd i ba gymorth sydd ar gael

Dewis Cymru yw cyfeiriadur gwybodaeth newydd ar gyfer Cymru. Gallwch bori drwy’r gwasanaethau a chefnogaeth drwy ddewis yr hyn sy’n bwysig i chi i ddod o hyd i’r gwasanaethau sydd eu hangen arnoch.

Cael gwybod mwy

Cael help yn gynnar

Aros yn iach, actif ac annibynnol, gyda mynediad at wybodaeth mae modd ymddiried ynddi a gwasanaethau sydd wedi'u cynllunio i gefnogi eich lles bob cam o'r ffordd.

Edrych ar eich dewisiadau o ran cefnogaeth

Dysgu am yr help a allai fod ar gael a chanfod pa gefnogaeth allai fod yn iawn i chi.

Cyllid

Ewch i'n canolbwynt cyllid i weld pa fudd-daliadau sydd ar gael, deall costau gwasanaeth, a llenwi eich asesiad ariannol yn rhwydd.

Poeni am rywun?

Beth i'w wneud os ydych chi'n pryderu am les neu ddiogelwch rhywun.

Gwybodaeth i ofalwyr

Gwybodaeth a chanllawiau defnyddiol i ofalwyr, gan gynnwys sut i gael asesiad o anghenion gofalwr a gweld yr amrywiaeth o gefnogaeth sydd ar gael i'ch helpu yn eich rôl gofalu.