Alert Section

Lle allaf i gael help yn Sir y Fflint?

Rydym yn deall bod bywyd yn gallu bod yn heriol, ac nid yw bob amser yn hawdd gwybod lle i droi am help. P’un a ydych chi’n wynebu anawsterau eich hun neu’n poeni am rywun arall, mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yma i’ch cefnogi chi.

Mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio gyda phobl o bobl oed i’w helpu i fyw bywydau diogel, iach ac annibynnol. O gefnogi teuluoedd a phlant i helpu pobl hŷn a’r rhai hynny gydag anableddau, ein rôl yw gwrando, deall eich anghenion, a’ch cysylltu chi â’r gefnogaeth gywir.

Nid oes raid i chi wybod yr holl atebion cyn cysylltu â ni. Os nad ydych chi’n siŵr lle i ddechrau, mae hynny’n iawn – rydym ni yma i’ch arwain chi.

Cliciwch isod i ddarganfod mwy

Pobl Hŷn

Anabledd

Niwroamrywiaeth

Iechyd Meddwl

 Os oes gennych chi bryder ynghylch diogelu, ewch i’n tudalen Diogelu.

Mae’n bwysig i bobl gael y cymorth a’r gefnogaeth y mae arnynt eu hangen i’w galluogi nhw i fyw mor annibynnol â phosibl, cyhyd ag y bo modd. Mae ystod eang o wasanaethau ar gal yn Sir y Fflint i’ch helpu os ydych yn teimlo eich bod angen rhywfaint o gymorth i ofalu amdanoch chi eich hun.

Rydym wedi darparu rhywfaint o wybodaeth isod i’ch cefnogi i ddeall y broses o ganfod cefnogaeth ac ateb rhai cwestiynau cyffredin.

Os ydych yn credu bod arnoch chi angen cymorth, gallwch ddefnyddio DEWIS Cymru i’ch galluogi chi i ystyried pa ddewisiadau sydd ar gael i chi yn ein hardal. Os ydych yn gwybod pa fath o gefnogaeth yr ydych ei hangen, mae croeso i chi gysylltu â sefydliadau a gwneud trefniadau preifat ar gyfer eich cefnogaeth eich hun.

Asesiadau Gofal Cymdeithasol

Beth yw asesiad gofal cymdeithasol?

A oes angen asesiad arnaf?

Beth sy’n digwydd os oes angen asesiad arnaf?

Dal angen cymorth? Os nad ydych yn gallu dod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano, cysylltwch â’n tîm yma.

Rhif ffôn

01352 702000

Cyfeiriad

Tŷ Dewi Sant, Parc Dewi Sant, Ewlo, CH5 3FF

E-bost

SSDUTY@siryfflint.gov.uk