Rydym yn defnyddio cwcis hanfodol i wneud i’r wefan hon weithio.
Hoffem ddefnyddio cwcis dadansoddi i ddeall sut yr ydych yn defnyddio’r wefan er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau.
Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.
Ewch i'n canolbwynt cyllid i weld pa fudd-daliadau sydd ar gael, deall costau gwasanaeth, a llenwi eich asesiad ariannol yn rhwydd.
Ar 6 Ebrill 2016, daeth y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) i rym. Mae'r 'Ddeddf' yn rhoi'r hawl i Awdurdodau Lleol yng Nghymru i godi ffi am wasanaethau gofal a chefnogaeth.
Mae'r canllaw hwn yn rhoi gwybodaeth am godi tâl am wasanaethau mae pobl yn eu derbyn yn eu cartref eu hunain ac yn y gymuned. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau fel gofal dydd, gofal cartref, gwaith prosiect ac aros i gael gofal am gyfnodau byr o lai nag wyth wythnos mewn cartref preswyl neu nyrsio.
Wrth i gymdeithas ac unigolion o fewn cymdeithas fod yn fwy symudol, bydd achlysuron pan ofynnir i Weithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy Cyngor Sir y Fflint wneud gwaith ar ran Awdurdodau Lleol eraill mewn perthynas â phobl sydd fel arfer yn breswyl yn yr Awdurdodau hynny, ond yn bresennol yn gorfforol yn Sir y Fflint.
Mae'r cynllun taliadau gohiriedig ar gyfer unigolion sy'n dymuno gohirio talu rhan neu gyfanswm llawn eu costau gofal ar hyn o bryd ac yn hytrach eu talu'n nes ymlaen, fel nad ydynt yn gorfod gwerthu eu heiddo'n syth wedi iddynt symud i'r cartref gofal.
Dogfen gyfreithiol ydy Atwrneiaeth Arhosol. Mae'n galluogi rhywun rydych chi'n ymddiried ynddyn nhw i wneud penderfyniadau ar eich rhan ac er eich lles.
Efallai y byddwch chi'n gallu cael cymorth ariannol tuag at eich gofal os yw Gweithiwr Cymdeithasol yn asesu eich bod angen gofal preswyl neu ofal nyrsio
Mae'r Tîm yn darparu cymorth arbenigol i bobl ddiamddiffyn a ystyrir nad ydynt yn gallu rheoli eu harian eu hunain yn feddyliol neu'n gorfforol.
Diben y polisi hwn yw sicrhau fod pobl a asesir i fod yn gymwys i dderbyn gwasanaethau gofal a sydd angen cymorth gyda chludiant i allu defnyddio'r gwasanaethau hynny, yn derbyn gwasanaeth sy'n bodloni yr anghenion a aseswyd.
Browser does not support script.