Cynnig i aildrefnu Ysgol Gynradd Saltney Ferry ac Ysgol Gynradd Goffa Saltney Wood
Mae'r Cyngor wedi bod yn ceisio eich barn ar gynnig i gau Ysgol Gynradd Saltney Ferry ac Ysgol Gynradd Goffa Saltney Wood ac agor ysgol gymunedol newydd a gynhelir a fydd yn gweithredu ar y ddau safle presennol tra bod adeilad newydd yn cael ei gymeradwyo a'i adeiladu ar safle Ysgol Goffa Saltney Wood.
Dechreuodd y cyfnod ymgynghori ffurfiol ddydd Mawrth, 3 Mehefin 2025, a daeth i ben ddydd Gwener, 18 Gorffennaf 2025.
Mae'r adroddiad ymgynghori sy’n crynhoi'r materion a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad ochr yn ochr ag ymateb y Cyngor ar gael yn y dolenni cyswllt isod.
Adroddiad Ymgynghori
Y cam nesaf yw cyhoeddi’r Hysbysiad Statudol. Mae’r Hysbysiad Statudol hwn yn nodi dechrau Cyfnod Gwrthwynebu 28 diwrnod sy’n rhedeg o 7 Tachwedd hyd at 5 Rhagfyr 2025, ac mae’n nodi’r cyfeiriad y gellir cyflwyno gwrthwynebiadau ysgrifenedig iddo.
Hysbysiad Statudol - Cynnig i Ad-drefnu Darpariaeth Addysg Gynradd yn ardal Saltney yn Sir y Fflint
Mae’r Hysbysiad Statudol hwn wedi’i gyhoeddi mewn copi caled. Os hoffech gopi papur o’r ddogfen hon, neu gopi mewn fformat amgen, er enghraifft Braille neu brint bras, neu os oes angen cymorth gyda dehongliad i iaith arall, cysylltwch â’r Tîm Moderneiddio Ysgolion ar 01352 704018 / 01352 704014, neu anfonwch e-bost at saltneyconsultations@flintshire.gov.uk