Alert Section

Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol

Mae cymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol parhaus yn rheolaidd yn hynod o bwysig wrth weithio yn y sector blynyddoedd cynnar. Mae’n hanfodol nad yw hyn yn cael ei anwybyddu mewn lleoliadau.

Yma gallwch ddod o hyd i gefnogaeth i’ch helpu chi a’ch tîm i gadw eich sgiliau’n gyfredol a darparu ymarfer o ansawdd uchel yn gyson.

Hyfforddiant a Gynigir gan Ddatblygu Gofal Plant Sir yn Fflint

Yma gallwch ddod o hyd i Hyfforddiant Gorfodol ac Arferion Gorau Sir y Fflint. Bydd y cyfleoedd hyn yn rhoi cyfle i chi wella a datblygu eich ymarfer, gan eich galluogi chi i ddod yr ymarferydd gorau posibl i gefnogi’r plant sydd yn eich gofal.

Prynu Tocynnau - Hyfforddiant Datblygu Gofal Plant Sir yn Fflint 

Anghenion Dysgu Ychwanegol

Ydych chi'n gweithio gyda phlant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol?

Mae’r map darpariaeth wedi cael ei ddatblygu ar draws chwe sir yng Ngogledd Cymru, a hefyd mewn partneriaeth â gwasanaethau addysg y blynyddoedd cynnar, gofal plant ac iechyd Sir y Fflint.

Mae’n cefnogi gweithwyr proffesiynol i ddeall y dylai’r ddarpariaeth fod ar gael i blant ym mhob cam o’u taith drwy’r broses ADY yn y Blynyddoedd Cynnar.

Mae’n hyrwyddo dealltwriaeth glir o egwyddorion ymarfer ADY ac yn sicrhau dull cyson tuag at ADY ar draws y rhanbarth.

Cyngor Sir y Fflint – Map Darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol/Arferion Cynhwysol y Blynyddoedd Cynnar 

LLYW Cymru - Anghenion Dysgu Ychwanegol / Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 

Cyngor Sir y Fflint - Sefydliad Cefnogi Lleol 

Bod yn Wrth-Hiliol, nid yn Ddi-Hiliol

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu Cymru Gwrth-Hiliol erbyn 2030, sy'n galw am ddim goddefgarwch o hiliaeth.

Mae'r gwaith hwn wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, trwy fuddsoddiad parhaus ym Mhrosiect DARPL i gefnogi gweithio mewn partneriaeth â gwasanaeth Dysgu a Gweithio'n Gydfuddiannol Gofal Plant Cymru (Cwlwm).

LLYW Cymru - Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru 

Cyngor Sir y Fflint - Diogelu a Gwrth-Hiliaeth 

Coleg Cambria

Dewch o hyd i ba gyrsiau sydd ar gael yng Ngholeg Cambria.

Coleg Cambria - Cyrsiau Gofal Plant, Astudiaethau Plentyndod a Gwaith Chwarae 

Cwlwm

Mae Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus o ansawdd uchel ar gyfer gweithlu’r (DPP) Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Gwaith Chwarae yn hanfodol i helpu sicrhau bod gan holl blant yng Nghymru ddyfodol disglair.

Yma dewch o hyd i hyfforddiant gan bartneriaid Cwlwm, lle mae cyfleoedd a gwybodaeth i chi a’ch cydweithwyr i gael mynediad at gymwysterau, gweithdai a chyrsiau, yn ogystal â digwyddiadau rhwydweithio a fydd yn eich helpu chi i ddiweddaru ac adeiladu ar eich gwybodaeth.

Cwlwm - Hyfforddiant a DPP 

Bwyd a Maeth ar gyfer Lleoliadau Gofal Plant

Yma dewch o hyd i Ganllawiau Arfer Gorau ar gyfer darparu bwyd i blant yn eich gofal.

Mae nifer o adrannau i gefnogi eich arferion dyddiol, gan gynnwys bwydo babanod, gwybodaeth am alergeddau a hylendid a diogelwch bwyd.

LLYW Cymru - Canllawiau Bwyd a Maeth i Ddarparwyr Gofal Plant 

Codi a Symud yn Gorfforol

Yma dewch o hyd i ganllawiau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru am godi a symud yn gorfforol. Mae argymhellion a thechnegau i’ch helpu chi gydag arferion bob dydd.

Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch - Codi a Symud yn y Gwaith 

Stori'r Ymennydd Rhydychen

Oeddech chi'n gwybod nad yw ymennydd babanod wedi datblygu'n llawn adeg eu geni? Maent yn cael eu geni gyda thua 100 biliwn o gelloedd ymennydd ond ychydig o gysylltiadau sydd rhwng y celloedd.

Un o'r ffactorau pwysicaf sy'n dylanwadu ar ddatblygiad ymennydd eich babi yw ansawdd y perthnasoedd sydd ganddynt, yn gynnar yn eu bywyd.

Cyngor Sir y Fflint - Ymennydd Anhygoel Eich Plentyn 

Chwarae Cymru

Mae plant wrth eu boddau’n chwarae, dyma maent yn ei wneud bob dydd.

Mae chwarae yn cynnig rhyddid i blant a’r gallu i wneud penderfyniadau. Mae plant yn gwerthfawrogi eu hamser yn archwilio ac mae ganddynt yr hawl i chwarae!

Mae Chwarae Cymru yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth am chwarae a gwaith chwarae.

Chwarae Cymru 

Modiwlau Dysgu Digidol Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi creu ystod o fodiwlau dysgu digidol ar gyfer sector gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Yma bydd gennych fynediad at fodiwlau amrywiol gan gynnwys diogelu, rheoli ac atal heintiau a’r Gymraeg.

Modiwlau Dysgu Digidol - Gofal cymdeithasol Cymru 

Gofalwn Cymru - Hyfforddiant 

Datblygiad yr Iaith Gymraeg

Fel darparwr gofal plant y blynyddoedd cynnar, un o’r pethau pwysicaf sydd ei angen ar eich staff yw sgiliau cyfathrebu da. Mae’r sgiliau hyn i gyfathrebu gyda phlant a’u teuluoedd neu ofalwyr, aelodau eraill o staff a phartneriaid allanol megis Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn eu hiaith ddewisol, lle bynnag bosibl.

Cyngor Sir y Fflint - Y Gymraeg 

Mudiad Meithrin - Hyfforddiant 

Training feedback