Alert Section

Anghenion Arbenigol

Sefydliadau cymorth

Mae llawer o sefydliadau cymorth ar gael. Mae rhai ohonynt wedi’u rhestr isod. Os hoffech chi wybod am sefydliadau sy’n addas ar gyfer eich anghenion chi, cysylltwch â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.

Niwrowahaniaeth Cymru

AwtistiaethCymru.org - AutismWales.org

Croeso i Niwrowahaniaeth Cymru, y safle niwrowahaniaeth cenedlaethol ar gyfer Cymru. Ar y safle fe ddewch o hyd i wybodaeth ynghylch beth yw niwrowahaniaeth, a pa wasanaethau a chyfleoedd hyfforddiant sydd ar gael ar-lein a ledled Cymru. Mae’r wefan yn helpu darparu gweledigaeth a strategaeth niwrowahaniaeth Llywodraeth Cymru ac mae ganddi ran allweddol mewn sicrhau fod Cymru yn wlad sy’n deall niwrowahaniaeth.

Mae yna hefyd ystod eang o adnoddau y gellir eu lawrlwytho am ddim, sydd wedi cael eu datblygu gyda phobl niwrowahanol, rhieni/ gofalwyr a gweithwyr proffesiynol ledled Cymru.

Niwrowahaniaeth Cymru

Contact

Contactlogo

Contact – i deuluoedd sydd â phlant anabl. Maent yn cefnogi rhieni a gofalwyr yn unrhyw ran o’r DU sydd â phlentyn anabl, o’r cychwyn nes maent yn 25. Gall eich plentyn fod ag unrhyw fath o anabledd neu angen ychwanegol, ac nid oes rhaid i chi fod wedi cael diagnosis.

  • Mae gwefan contact.org.uk yn cynnwys cyngor a gwybodaeth am unrhyw bryder sydd gan deulu am fagu plentyn sydd ag anghenion ychwanegol.
  • 0808 808 3555 – Ffoniwch dîm ein llinell gymorth ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9.30am a 5.00pm – am ddim i ffonau symudol a llinellau tir yn y DU.
  • Gwasanaeth ‘Listening Ear’ – gwasanaeth galw’n ôl am ddim, ddydd a nos, sy’n eich galluogi i drefnu apwyntiad sy’n addas i chi, cael sicrwydd, a chymorth ymarferol ac emosiynol gydag ymgynghorydd cymorth i deuluoedd.
  • Gweithdai teuluol am ddim ar amrywiaeth o bynciau: ymddygiad, cwsg, materion ariannol, ac ati.
  • Gall rhieni hefyd ymuno â’u grŵp Facebook preifat lle gall rhieni rannu a chefnogi ei gilydd.

Manylion cyswllt ein tîm yng Nghymru: cymru@contact.org.uk.

Tudalen Facebook Cymru: Contact Cymru.

Tudalen Facebook y DU: Contact Families.

Gall teuluoedd o Gymru gofrestru ar-lein i gael e-fwletinau misol Contact.

D.A.F.F.O.D.I.L.S.

Daffodils Logo

Elusen Gofrestredig 1080579

28-44 Stryd Newydd
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 1NZ

Rhif ffôn: 01352 250147.

E-bost: daffodils@tiscali.co.uk.

Mae Daffodils yn elusen plant a phobl ifanc sydd ag anableddau ac anghenion ychwanegol yn Sir y Fflint. Maent yn darparu gweithgareddau hamdden i blant a phobl ifanc anabl hyd at 25 oed, ynghyd â’u rhieni, gofalwyr a brodyr a chwiorydd. Maent yn cynnal 175 o ddigwyddiadau y flwyddyn mewn cymunedau. Mae rhieni’n cael cefnogaeth drwy ddod i weithgareddau a digwyddiadau’n gyson. Mae’n rhaid i rieni neu ofalwyr ddod gyda’u plentyn neu berson ifanc i’r holl weithgareddau a digwyddiadau.

SNAP Cymru

SNAP Cymru Logo

Mae SNAP Cymru’n elusen sy’n unigryw i Gymru, a sefydlwyd yn 1986. Ei phrif nod yw gwella addysg pobl yng Nghymru a chefnogi eu cynnwys.

Mae SNAP Cymru'n cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth annibynnol, am ddim i helpu plant a phobl ifanc sydd â phob math o Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY, gynt yn cael eu galw’n Anghenion Addysg Arbennig, AAA) ac anableddau i gael yr addysg gywir.

They also provide advocacy, disagreement resolution, discrimination advice, advocacy and training for young people, parents/carers and professionals.

Gwasanaethau SNAP Cymru

Gwybodaeth SNAP Cymru

Cysylltu â SNAP Cymru

Plant a Phobl Ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol

Yma, fe welwch chi wybodaeth sy’n berthnasol i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Plant a Phobl Ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol

Dolenni defnyddiol