Pam bod yr iaith Gymraeg yn bwysig yn y blynyddoedd cynnar?
Gall bawb sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol a gofal plant wneud gwahaniaeth trwy ofyn “Beth alla i wneud i helpu gwella’r ddarpariaeth Gymraeg a hybu diwylliant Cymreig?”
Gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr.
- Hawliau Plant
Mae cyfathrebu yn iaith ddewisol y plant a’u teuluoedd neu ofalwyr yn helpu i sicrhau bod anghenion y plant hynny’n cael eu diwallu. Mae gan blant yr hawl i ddefnyddio eu hiaith ddewisol i fynegi eu safbwyntiau a dylanwadu ar y pethau sy’n effeithio arnyn nhw. Cefnogir hyn gan Erthygl 30 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).
- Adeiladu sylfaeni ar gyfer cyfathrebu
Bydd y sgiliau cyfathrebu mae plant yn ei dysgu yn gynnar mewn bywyd yn sylfaen i’w gallu i gyfathrebu yn y dyfodol. Mae sgiliau iaith cryf yn ased a fydd yn cefnogi oed o gyfathrebu effeithiol. Y cam cyntaf yw cydnabod bod y gallu i siarad Cymraeg yn sgil fel unrhyw sgil arall, ac y dylid ei werthfawrogi a’i ddefnyddio mewn modd cadarnhaol.
- Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant wedi’i Reoleiddio
Ar gyfer plant hyd at 12 oed, mae adran ar gwrdd ag anghenion unigol. Mae’r safonau gofynnol cenedlaethol yn amlinellu y dylai lleoliadau ystyried anghenion a dewisiadau plant unigol mewn perthynas ag iaith eu cartref ac yn unol â’u hawliau.
Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth i gynyddu nifer y bobl sy’n gallu mwynhau siarad a defnyddio’r Gymraeg i filiwn erbyn 2050. Dyma’r Fideo Strategaeth y Gymraeg, sy’n llawn gwybodaeth ddefnyddiol!
Llyw Cymru - Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg
YouTube - Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg
Camau
Mae Camau’n cynnig cyrsiau Cymraeg pwrpasol ar gyfer y sector gofal plant a’r blynyddoedd cynnar. Mae ganddynt ystod o gyrsiau ar-lein i hunan-astudio sy’n rhoi mynediad 24/7 i adnoddau a chyfleoedd dysgu Cymraeg sy’n benodol i’r sector.
Camau - Yr iaith Gymraeg
Clybiau Plant Cymru - Astudiaeth Achos Camau - Lleoliadau Sir y Fflint
Cylch Ti a Fi
Mae grwpiau babanod a phlant bach (Cylch Ti a Fi) yn llefydd gwych i gwrdd â gofalwyr eraill a datblygu eich sgiliau Cymraeg.
Mae croeso i bawb, hyd yn oed os nad ydych yn siarad Cymraeg.
Meithrin Cymru - Cylch Ti a Fi
YouTube - Beth mae Cylch Meithrin yn ei olygu?
Datblygu gweithlu dwyieithog ar gyfer y Sector Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
Mae’r cwrs byr hwn yn rhoi offer ac adnoddau i ddarparwyr y blynyddoedd cynnar a gofal plant a fydd yn eu helpu i ddeall pa rolau sydd angen sgiliau iaeth Cymraeg yn benodol. Mae adnoddau eraill hefyd ar gael i asesu lefelau cymhwysedd staff wrth gyfathrebu yn y Gymraeg.
Gofal Cymdeithasol Cymru - Datblygu Gweithlu Dwyieithog ar gyfer y Sector Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
Mwy na Geiriau
Mae Mwy na geiriau yn Fframwaith Strategol i Hyrwyddo’r Gymraeg a Diwylliant Cymru mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.
Yma dewch o hyd i wybodaeth am y Cynnig Rhagweithiol. Mae ‘Cynnig Gweithredol’ yn ymwneud â chreu’r amgylchedd cywir lle mae plant/pobl yn cael eu grymuso a’u gwneud i deimlo’n hyderus y bydd eu hanghenion yn cael eu diwallu.
Mae’n gyfrifoldeb ar bawb sy’n darparu gwasanaethau gofal i bobl a’u teuluoedd ar draws Cymru, i hyrwyddo’r iaeth Gymraeg a diwylliant Cymru, gan roi’r unigolyn wrth wraidd y gwasanaethau.
Arolygiaeth Gofal Cymru - mwy na Geiriau