Amheuaeth o Dwyll / Pryder
Mae twyll a llygredigaeth yn costio cannoedd o filiynau o bunnau'r flwyddyn i drethdalwyr wrth i niferoedd yr achosion a ganfyddir godi.
Mae yna ddyletswydd gyfreithiol ar Gyngor Sir y Fflint i ddiogelu’r arian cyhoeddus y mae’n ei weinyddu. Yr ydym yn ymroddedig i ymladd yn erbyn twyll a llygredigaeth er mwyn i arian cyhoeddus gael ei wario ar ddarparu gwasanaethau hanfodol i’r gymuned leol rydym yn ei gwasanaethu. Nid ydym yn goddef unrhyw dwyll, ac mae unrhyw adroddiadau o dwyll yn cael eu cymryd o ddifrif.
Gallwch chi helpu’r Cyngor i ymladd yn erbyn y twyllwyr trwy roi gwybod i ni am unrhyw bryderon sydd gennych ynglŷn ag amheuon o dwyll yn erbyn y Cyngor.
Gallwch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein hon i roi gwybod am bryderon sy’n ymwneud â:
- Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau
- Bathodyn Glas
- Ardrethi busnes
- Contractau gyda’r Cyngor
- Amheuaeth o dwyll yn ymwneud â gweithiwr cyngor
- Gostyngiad treth y cyngor / gostyngiad person sengl
- Seiber
- Tenantiaid tai
- Hawliadau yswiriant twyllodrus yn erbyn y Cyngor
- Ceisiadau am Arian Grant e.e. Troi Tai yn Gartrefi
- Taliadau i gyflenwyr
- Gofal Cymdeithasol, gan gynnwys taliadau uniongyrchol
Rhoi Gwybod am Amheuaeth o Dwyll
Budd-daliadau - I adrodd am dwyll budd-daliadau, defnyddiwch y ddolen hon.
Pethau i'w Nodi
- Ein hamcan yw sicrhau bod achosion neu gyhuddiadau o dwyll posibl yn cael eu hymchwilio a’u trin yn effeithiol. Er y gallwch lenwi’r ffurflen yn ddienw, gofynnwn i chi am eich gwybodaeth gyswllt bersonol er mwyn gallu cysylltu â chi am wybodaeth bellach fel rhan o unrhyw ymchwiliad
- Caiff eich data personol ei brosesu fel rhan o’n tasg gyhoeddus a chaiff unrhyw ddata sensitif a ddarperir gennych ei brosesu am resymau buddiant sylweddol er mwyn galluogi’r tîm Archwilio Mewnol i gyflawni ei ofynion statudol i awdurdodau lleol. Y ddwy ddeddfwriaeth sy’n effeithio ar archwilio mewnol mewn awdurdodau lleol yw:
- Mae Adran 5 Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2018 yn datgan "bod yn rhaid i awdurdod perthnasol gynnal archwiliad mewnol effeithiol i werthuso effeithiolrwydd ei brosesau rheoli risg, rheoli a llywodraethu, gan gymryd i ystyriaeth safonau a chanllawiau archwilio mewnol y sector cyhoeddus”.
- Dan Adran 151 Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae’n ofynnol i bob awdurdod wneud trefniadau i weinyddu ei faterion ariannol yn briodol. Yn niffiniad CIPFA o ‘weinyddu priodol’, mae’n cynnwys ‘cydymffurfio â gofynion statudol cyfrifyddu ac archwilio mewnol’.
- Mae’n bosibl y caiff y wybodaeth a ddarperir gennych ei phasio ymlaen at y maes gwasanaeth perthnasol neu mae’n bosibl y caiff ei hymchwilio gan y tîm Archwilio Mewnol.
- Efallai y bydd rhwymedigaethau gor-redol sy’n golygu bod yn rhaid i’ch manylion personol gael eu rhannu ag asiantaethau y tu allan i’r Cyngor yn dibynnu ar natur y pryder / twyll er mwyn cynnal ymchwiliad llawn e.e. yr Heddlu; Adran Gwaith a Phensiynau; Refeniw a Thollau Ei Mawrhydi; Cyrff Proffesiynol; Awdurdodau Lleol Eraill; Cyflogwyr; a Rhwydwaith Gwrth-dwyll Cenedlaethol.
- Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn unol â’n polisi cadw gwybodaeth. Cedwir cofnodion archwilio am saith mlynedd a chofnodion ymchwiliadau am 15 mlynedd. Os na ellir profi bod twyll wedi digwydd, caiff y cofnodion hyn eu cadw am saith mlynedd.
- Os yw’r wybodaeth wedi cael ei throsglwyddo i faes gwasanaeth neu barti allanol, bydd eu terfynau amser hwy eu hunain yn berthnasol.
- Am resymau cyfrinachedd ni allwn roi diweddariad i chi am gynnydd neu ganlyniad unrhyw ymchwiliad.
- Os ydych chi’n teimlo bod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113. I gael mwy o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i gwyno os ydych chi'n teimlo bod eich data personol wedi cael ei gam-drin, gweler ein Hysbysiad Preifatrwydd.
- Os ydych yn dymuno rhoi gwybod am rywbeth nad yw'n gysylltiedig ag amheuaeth o dwyll neu os ydych yn dymuno rhoi gwybod i’r Cyngor am gŵyn – ewch i’r dudalen Pryderon a Chwynion.
- Os ydych wedi deall yr uchod ac yn dymuno rhoi gwybod am amheuaeth o dwyll neu bryder llenwch y ffurflen ar-lein:
Rhoi Gwybod am Amheuaeth o Dwyll