Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Cyflawni'r Strategaeth

Mae'r Strategaeth yn fwriadol uchelgeisiol, ac rydym yn cydnabod y bydd gweithgareddau cysylltiedig yn cymryd amser, rydym felly wedi gosod map ffordd realistig a chynyddol ar gyfer newid.

Bydd cyflymder cynlluniedig y ddarpariaeth yn cyd-fynd â’r capasiti sydd ar gael o fewn y sefydliad i gefnogi’r gwaith hwn, bydd hefyd yn cydnabod yr angen i gefnogi gweithwyr wrth symud tuag at y cydsyniad o wybodaeth fel ased corfforaethol a arweinir gan y cwsmer.

Pan fyddwn yn datblygu ac yn darparu gweithgareddau yn rhan o’r Strategaeth hon, byddwn yn mabwysiadu’r egwyddorion canlynol:

  • Cefnogi arloesedd.
  • Casglu unwaith, defnyddio sawl tro.
  • Preifatrwydd drwy ddyluniad.
  • Bod yn dryloyw a theg.
  • Bod yn saff a diogel.
  • Cydweithio lle bo’n bosibl.