Alert Section

Pecynnau Cymorth Hinsawdd


Croeso i Gyngor Sir y Fflint Pecynnau Cymorth Hinsawdd. Mae’r pecynnau hyn wedi’u creu i gefnogi ysgolion a Chynghorau Tref a Chymuned i fesur a deall eu hallyriadau carbon, i benderfynu ar ddulliau i leihau’r allyriadau hynny ac i ymgysylltu gydag eraill i gefnogi a dylanwadu ar gamau gweithredu. 

Mae prif ddogfennau’r Pecynnau Cymorth wedi’u cyhoeddi isod, ar gyfer ysgolion a Chynghorau Tref a Chymuned, gydag adnoddau ategol dan y cwymplenni – y mae modd eu lawrlwytho a’u cadw.


Pecynnau Cymorth

Mae’r ddwy ddogfen ganlynol yn ganolog i’r Pecynnau Cymorth Hinsawdd, gan ddarparu’r holl wybodaeth sydd ar ddefnyddwyr ei hangen i ddeall newid hinsawdd a’i effaith a sut gellir defnyddio’r adnoddau. Cliciwch ar y ddolen berthnasol i lawrlwytho’r pecyn cymorth sydd arnoch chi ei angen. 

Pecyn Cymorth Hinsawdd i Ysgolion (pdf)

Pecyn Cymorth Hinsawdd i Gynghorau Tref a Chymuned (pdf)

Dan y cwymplenni canlynol mae yna adnoddau amrywiol y gallwch chi eu defnyddio i gyfrifo allyriadau carbon, cynllunio mesurau lleihau carbon ac ymgysylltu ag eraill. 


Adnoddau a Chanllawiau

Asesiad Amgylcheddol

Mae’r Asesiad Amgylcheddol yn archwiliad syml dan arweiniad y dysgwyr o ymddygiad ac arferion amgylcheddol yr ysgol. Mae’r testunau’n cynnwys defnydd ynni, gwastraff, bioamrywiaeth, cludiant, a’r defnydd o ddŵr.

Mae modd cynnal y gweithgaredd hwn cyn i’r ysgol ddechrau cyfrifo ôl-troed carbon ac mae’n ffurfio cyflwyniad syml i’r pecyn gwaith ar gyfer staff a dysgwyr ynghyd â chasglu gwybodaeth.

Asesiad Amgylcheddol (pdf)

Rheoli Carbon

Drwy fesur a monitro allyriadau carbon gall sefydliad ddeall swm a ffynhonnell yr allyriadau hynny, gan helpu i gynllunio a blaenoriaethu camau gweithredu priodol i’w lleihau. Mae’r adnoddau dan yr adran yma’n cefnogi defnyddwyr i gyfrifo allyriadau, olrhain sut mae’r allyriadau hynny wedi newid dros amser, ac adrodd ar sut mae’r allyriadau hynny’n cael eu rheoli a’u lleihau i gyrraedd y targed carbon sero net erbyn 2030. 

Ysgolion

Carboniadur Carbon Ysgolion (xlsx)

Adnodd Olrhain a Lleihau Carbon Ysgolion (xlsx)

Cynllun Lleihau Carbon Ysgolion (docx)

Cynghorau Tref a Chymuned

Carboniadur Cynghorau Tref a Chymuned (xlsx)

Adnodd Olrhain a Lleihau Carbon Cynghorau Tref a Chymuned (xlsx)

Cynllun Lleihau Carbon Cynghorau Tref a Chymuned (docx)

Adnoddau eraill

Cyfrifydd Taith Staff i’r Gwaith (xlsx)

Canllawiau Casglu a Mewnbynnu Data (pdf)

Ffurflen Casglu Data (pdf)

Canllaw Defnyddiwr Digital Energy (pdf)

Ymgysylltu

Mae ymgysylltu yn rhan fawr o helpu i newid ymddygiad pobl er mwyn lleihau allyriadau carbon. Nod yr adran hon yw ymgysylltu â CS2 i CA4. Mae tîm Newid Hinsawdd y Cyngor wedi creu cynlluniau gwersi sy’n edrych ar y materion sy’n cyfrannu fwyaf at newid hinsawdd, a gellir defnyddio’r Sleidiau Dosbarth Ôl Troed Carbon yn yr ystafell ddosbarth i arwain y gwaith o gyfrifo ôl troed carbon yr ysgol. 

Gwers Gynradd

Cynllun Gwers Cynradd (pdf)

Sleidiau Ategol Cynllun Gwers Cynradd (pptx)

Taflen Gweithgaredd 1 Cynradd (docx)

Gwers Uwchradd

Cynllun Gwers Uwchradd (pdf)

Sleidiau Ategol Cynllun Gwers Uwchradd (pptx)

Taflen Gweithgaredd 1 Uwchradd (docx)

Taflen Ateb Gweithgaredd 1 Uwchradd (pdf)

Sleidiau Dosbarth Ôl Troed Carbon

Lawrlwythwch y ffeil sip hon i gael mynediad at yr holl sleidiau dosbarth, dogfennau ategol a phrawf. 

Sleidiau Ystafell Ddosbarth Ôl Troed Carbon (zip)

Cefnogi

Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol, canllawiau ac enghreifftiau o arferion da. 

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin (pdf)

Enghreifftiau

Cyfrifiannell Carbon Ysgol Enghreifftiol (xlsx)

Traciwr Carbon Ysgol Enghreifftiol (xlsx)

Cynllun Lleihau Carbon yr Ysgol Enghreifftiol (pdf)

Fideos


Cysylltiadau ar gyfer Cefnogaeth

Os oes ar ysgol neu gyngor tref neu gymuned angen unrhyw gymorth wrth ddefnyddio’r pecyn, neu’n nodi materion neu gyfleoedd i wella, yna cysylltwch â’r tîm perthnasol (gwelwch y tabl isod).

Tabl Cysylltiadau ar gyfer Cefnogaeth
YmholiadCyswllt Allweddol
Ymholiadau Cyffredinol newidhinsawdd@siryfflint.gov.uk
Adeiladau (gwresogi, trydan, dŵr ac ynni adnewyddadwy) energy.unit@siryfflint.gov.uk
Teithio ar gyfer Busnes newidhinsawdd@siryfflint.gov.uk
Gwastraff wastedata@siryfflint.gov.uk
Bioamrywiaeth bioamrywiaeth@siryfflint.gov.uk