Natur yn Sir y Fflint
Fe ddangosir dosbarthiad eang cynefinoedd yn Sir y Fflint ar y map isod.

Cyfoeth Naturiol Cymru - https://cdn.cyfoethnaturiol.cymru/media/691503/area-statement-broad-habitatsne-a4cym.pdf
Mae Sir y Fflint yn sir o gyferbyniadau. Wedi ei lleoli rhwng y siroedd gwledig i’r gorllewin ac ardaloedd mwy datblygedig Sir Caer a Glannau Mersi, mae defnydd tir yn amrywio o ddatblygiad diwydiannol dwys ar hyd aber Afon Dyfrdwy i ardaloedd gwyllt a phellennig ym Mryniau Clwyd. Mae’r gweundir, yr arfordir a choetiroedd yn bwysig i bawb sy’n byw, gweithio ac yn ymweld â’r Sir.
Mae Bryniau Clwyd, sy’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig, yng ngorllewin Sir y Fflint. Yma mae fforestydd coniff eraidd yn amlwg ac er bod ardaloedd yn cael eu rheoli ar gyfer amaeth, mae rhan helaeth yn parhau i fod wedi ei gorchuddio gan weundir, grug ac eithin.
Mae ein hunig ardaloedd o fawn dwfn yn y sir ym Mryniau Clwyd. Gall cynefinoedd mawnog chwarae rôl bwysig o ran rheoli dŵr, gan arafu dŵr llifogydd a lleihau risg llifogydd yn naturiol i lawr yr afon. Drwy ryddhau dŵr yn araf yn ystod cyfnodau sych, mae tir mawnog yn helpu i leihau effaith sychder ar gyflenwadau dŵr ac ar lif afonydd a nentydd.
Mae natur yn cael ei golli ar draws Cymru gyfan ac nid yw Sir y Fflint yn eithriad. Dros y degawdau, mae Sir y Fflint wedi wynebu trawsnewidiad sylweddol. Mae’r effeithiau yn amlwg o ran poblogaeth y pathew lle mae cofnodion arolwg cadarnhaol ar gyfartaledd ar draws ein safleoedd wedi gostwng o 94% sy’n dangos poblogaeth sydd wedi gostwng. Mamal bach arall yw llygoden y dŵr a dyma’r mamal sy’n gostwng gyflymaf yn y DU ac yn Sir y Fflint dim ond mewn pocedi penodol o gynefinoedd addas y gellir dod o hyd iddi.
Mae’r colli eang o gynefinoedd naturiol drwy ddatblygu, amaeth, tai, isadeiledd, diwydiant ac echdynnu mwynau yn allweddol ac mae yna fygythiadau newydd gan gynnwys pla ac afiechydon fel Clefyd y Coed Ynn sy’n debygol o effeithio’n fawr ar y coed Ynn ar draws y Sir. Er gwaethaf hyn mae Sir y Fflint yn parhau i fod â nifer o leoedd sydd o bwysigrwydd i fywyd gwyllt mewn ardaloedd trefol a gwledig a nawr mae mwy o dystiolaeth nac erioed fod y lleoedd naturiol hyn hefyd yn hynod o bwysig ar gyfer lles dynol.
Isod ceir rhai enghreifftiau:
Ardaloedd pwysig yn Sir y Fflint
Mae llawer o’r tiroedd comin yn Sir y Fflint yn bwysig i fywyd gwyllt. Fe ffurfiwyd Ardal Cadwraeth Arbennig Comin Helygain (ACA) dros waddodion rhewlifol a chalchfaen 350 miliwn o flynyddoedd oed, gan greu cynefin unigryw a’r ffynhonnell fwyaf o laswelltir metelaidd yng Nghymru. Mae rhywogaethau sy’n anghyffredin yn genedlaethol fel tywodlys y gwanwyn sy’n oddefgar i blwm yn doreithiog o ganlyniad i’r hanes hir o gloddio metelau yn yr ardal.
Mae’r tiroedd comin yn yr ardaloedd mwy trefol hefyd yn darparu cynefinoedd amrywiol pwysig. Mae’r rhwydwaith o byllau, gwlyptiroedd ac ardaloedd o brysgwydd ar Dir Comin Isaf, Bwcle yn hynod o bwysig fel safleoedd magu ar gyfer llyffantod a madfallod ac maent yn ffurfio rhan o Safleoedd Madfallod Glannau Dyfrdwy a Bwcle (ACA). Mae Sir y Fflint yn un o’r siroedd allweddol yng Nghymru ar gyfer y fadfall ddŵr gribog. Byddant yn aml yn ffafrio pyllau ffermydd gwledig, hen chwareli a thir diffaith mewn lleoliadau trefol.
Mae coetiroedd yn gorchuddio 8.8% o’r sir, sy’n llawer is na chyfartaledd Cymru, sef 14%. Caiff ei nodweddu gan flociau bach o goetir fferm a rhai ystadau gwledig, yn ogystal â blociau fforest mwy, fel Nercwys a Moel Famau yn ne’r sir. Mae coetir yn ffurfio elfen bwysig o ran cynefin yn yr ardal wledig ehangach ac o fewn safleoedd gwarchodedig. Er enghraifft mae ACA Coedwigoedd Dyffryn Alun sy’n dilyn yr afon Alun o Loggerheads i Rydymwyn wedi ei ddynodi am ei goetir llydanddail ar galchfaen a choetir gwern gwlyb. Mae rhan helaeth ACA safleoedd madfall Glannau Dyfrdwy a Bwcle yn goetir sy’n gynefin daearol pwysig i fadfallod ac mae Coed Gwepra yng Nghei Connah wedi ei ddynodi gan fod coed derw digoes yn bresennol.
Yn 2018 fe aethom ati i lansio ein Cynllun Coed a Choetiroedd Trefol. Mae’r cynllun yn gosod targed o fod â gorchudd coed ar dros 18% o dir trefol erbyn 2033, sy’n gynnydd o’r 14.5% presennol, y seithfed isaf yng Nghymru. Mae’n gynllun 15 mlynedd sy’n amlinellu ymagwedd integredig o ran plannu ar bob math o dir cyngor.
Fe fydd plannu coed ac aildyfiant naturiol (lle bo’n briodol) yn rhan bwysig o greu rhwydweithiau ecolegol gwydn. Mae’n hanfodol fod polisi “Y goeden iawn yn y lle iawn” yn cael ei ddilyn wrth gynllunio plannu coed. Bydd hyn yn atal unrhyw golli cynefinoedd pwysig eraill (fel gwlyptir neu laswelltir) a bydd yn sicrhau fod y coed yn darparu’r budd mwyaf posibl i’r dyfodol.
Mae yna nifer o safleoedd nad ydynt wedi eu dynodi a rhannau gwasgaredig o gynefinoedd sydd â gwerth o ran gwarchod natur a sy’n hanfodol ar gyfer natur. Mae hyn yn ffurfio ein hisadeiledd gwyrdd. Mae’n cynnwys nentydd a phocedi bach o goetiroedd gwlyb, hen wrychoedd, sy’n gweithredu fel coridorau ar gyfer bwyd gwyllt mewn caeau sydd fel arall yn wael o ran rhywogaethau, coetiroedd hynafol sy’n gartref i gannoedd o rywogaethau gan gynnwys clychau’r gog. Gyda’i gilydd mae’r cynefinoedd hyn yn darparu ar gyfer ein rhywogaethau mwy cyffredin a phrin fel Madfallod y Twyni, llyffantod Cefnfelyn, Ystlumod, Pathewod, Dyfrgwn, Madfallod Dŵr Cribog a miloedd o adar hirgoes ar aber Afon Dyfrdwy.
Mae’r rhan fwyaf o ardaloedd trefol o fewn y Sir yn ymgorffori ‘mannau gwyrdd’ anffurfiol sy’n bwysig i fywyd gwyllt a hamdden. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn waddol hen safleoedd diwydiannol neu waith mwynau sydd wedi datblygu fflora naturiol a sy’n gartref i rywogaethau niferus o drychfilod. Mae Dyffryn Maes Glas, Treffynnon a Pharc Gwepra, Cei Connah yn ‘fannau gwyllt’ hynod o werthfawr. Mae’r map isod yn dangos y gwahanol fathau o isadeiledd gwyrdd trefol ar draws Sir y Fflint.
Mae Sir y Fflint yn cynnwys nifer uchel o ddynodiadau gwarchod natur rhyngwladol, cenedlaethol a lleol. Mae cynefinoedd morfa heli, twyni tywod a gwastadeddau llaid Aber Afon Dyfrdwy nid yn unig yn bwysig ynddynt eu hunain, ond maent yn gartref i boblogaethau o adar hela ac adar hirgoes sy’n bwysig yn rhyngwladol ac mae wedi ei ddynodi’n rhyngwladol fel Ardal Gwarchodaeth Arbennig, Ardal Cadwraeth Arbennig a safle gwlyptir RAMSAR o bwysigrwydd rhyngwladol.
Mae safleoedd eraill sydd wedi eu dynodi yn rhyngwladol yn cynnwys ACA Coedwigoedd Dyffryn Alun, ACA Safleoedd Madfall Glannau Dyfrdwy a Bwcle a ACA Mynydd Helygain. Mae gan y sir gyfanswm o dros 23 o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a dros 300 o safleoedd bywyd gwyllt a ddynodwyd yn lleol. Mae’r rhain yn cynnwys cynefinoedd sensitif gan gynnwys;
- Cors bori arfordirol ac ar orlifdir (5% o adnodd Cymru)
- Glaswelltir calchaidd iseldir (17% o adnodd Cymru
- Morfa Heli (12% o adnodd Cymru
- Rhostir
- Corsleoedd
- Glaswelltir metelaidd,
- Pyllau a thwyni tywod arfordirol.
Y Bartneriaeth Natur Leol
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cydlynu’r Bartneriaeth Natur leol (Rhwydwaith Bioamrywiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru). Ffurfiwyd Rhwydwaith Bioamrywiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru ym mis Hydref 2009. Mae’n dod a phartneriaethau bioamrywiaeth lleol oedd yn bodoli yn siroedd Conwy, Dinbych, y Fflint a Wrecsam ynghyd.
Mae’n cynnwys nifer o sefydliadau megis awdurdodau lleol Conwy, Sir Ddinbych, Wrecsam, a Sir y Fflint, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, RSPB, Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid, Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd Cymru, Cymdeithas Brydeinig saethu a chadwraeth, Cadwraeth Gloÿnnod Byw, Sw Gaer, Grŵp Moch Daear Clwyd, Cadwch Gymru'n Daclus, Tir Gwyllt, busnesau Cofnod (Canolfan Gofnodion Amgylcheddol Gogledd Cymru) a chofnodwyr ac ymgynghorwyr annibynnol.
Nod eang y rhwydwaith yw cadw, diogelu ac gwella bioamrywiaeth ar gyfer cenedlaethau heddiw a’r dyfodol. Mae cydweithio yn bwysig i’r bartneriaeth ynghyd ag amcanion eraill sy’n cynnwys codi ymwybyddiaeth ac annog bioamrywiaeth, a nodi blaenoriaethau lleol i fodloni targedau natur lleol.
Dilynwch ni ar gyfer y newyddion a'r digwyddiadau diweddaraf ar draws gogledd ddwyrain Cymru.
Gwefan: https://www.bionetwales.co.uk/cy/adref/
Facebook: NEWBioNet
Twitter:@newbionet
Instagram: @bionetlnp
Dogfennau defnyddiol
- Cyfle i greu lloches ar gyfer bywyd gwyllt gyda'n pecyn garddio Bywyd Gwyllt.
- Plannu ar gyfer peillwyr: Dywedwch wrthym am ardal leol yr hoffech gael ei hystyried i blannu ar gyfer peillwyr drwy anfon neges e-bost at biodiversity@flintshire.gov.uk Rhowch ‘peillwyr’ fel testun i’r neges.
- Cymerwch ran yn y drafodaeth am ddraenogod gydag Ymddiriedolaeth y Bobl ar gyfer Rhywogaethau mewn Perygl a ‘hedgehog street’
- Darganfyddwch fwy am Dylluanod Gwynion a llenwch y ffurflen os hoffech gael eich ystyried am focs yn ein prosiect i osod bocsys ar draws y rhanbarth.
- Cofnodi’r natur rydych yn ei weld ar draws Gogledd Cymru gyda 'Cofnod’, canolfan cofnodi natur gogledd Cymru.
- Bydd ein llyfryn cyflwyniad i reoli perllannau yn rhoi’r hanfodion i gyd i chi er mwyn plannu a gofalu am eich perllan eich hun
- Cofrestru i wirfoddoli ar brosiectau cadwraeth gyda ni drwy anfon neges e-bost at biodiversity@flintshire.gov.uk. Rhowch ‘gwirfoddoli’ fel testun i'r neges.
- Dysgwch fwy am fioamrywiaeth yng Nghymru ar wefan Bioamrywiaeth Cymru.
Cysylltu â ni
Ffôn: 01352 703263
E-bost: bioamrywiaeth@siryfflint.gov.uk