Croeso i Gefn Gwlad a'r Arfordir
Mewn lleoliad unigryw mae Sir y Fflint yn borth i Gymru - ond peidiwch â rhuthro, beth am aros ennyd a gadael i ni eich helpu chi i ddarganfod y sir hardd hon. Os ydych chi’n chwilio am wyliau ar lan y môr, penwythnos hamddenol, ychydig o therapi siopa neu ddiwrnod allan efo’r teulu, dechreuwch ddarganfod Sir y Fflint yma. Ewch i ymweld â pharciau gwledig a mannau gwyrdd, lawrlwythwch ein llyfryn teithiau gwledig neu archwiliwch arfordir a thraethau Sir y Fflint.