Alert Section

Cwestiynau cyffredin – rheoli adeiladu


Sut ydw i’n rhoi gwybod am strwythur peryglus?

Mae Gwasanaeth Rheoli Adeiladu Sir y Fflint yn delio â strwythurau peryglus y gellir rhoi gwybod amdano drwy ffonio 01352 703417 / 01352 703637 neu e-bostio bcadmin@flintshire.gov.uk.

Ffôn:  (01352) 703418 yn ystod oriau swyddfa, 0300 123 3086 y tu allan i oriau swyddfa.

Oes yna gosb am dorri Rheoliadau Adeiladu?

Os byddwch yn torri’r rheoliadau drwy adeiladu heb roi gwybod i’r Awdurdod Rheoli Adeiladu Lleol neu drwy wneud gwaith nad yw’n cydymffurfio, gallwch gael eich cosbi. Os penderfynir eich bod yn euog, mae’n bosibl i chi wynebu dirwy o hyd at £5,000 ynghyd â £50 am bob diwrnod nad yw pob diffyg unigol yn cael ei gywiro ar ôl eich cael yn euog. Os nad ydych yn cywiro’r diffyg pan ofynnir i chi wneud hynny, mae gan yr Awdurdod y pŵer i wneud hynny ei hun ac adennill y costau gennych chi.

Oes gan fy nghymdogion yr hawl i wrthwynebu’r hyn rwy’n ei gynnig yn fy Nghais Rheoliadau Adeiladu?

Nac oes, ond er nad oes rhaid ymgynghori â chymdogion, byddai’n syniad da gwneud hynny.

Mae modd gwrthwynebu’r cais o dan ddeddfwriaeth arall, yn enwedig os oes angen caniatâd cynllunio arnoch. Mae’n bosibl hefyd y bydd yn rhaid i chi roi gwybod i’ch cymdogion, o dan Ddeddf Waliau Cydrannol 1996 am y gwaith sydd ar y gweill.

Beth yw’r Ddeddf Waliau Cydrannol?

Mae’r Ddeddf Seneddol hon yn berthnasol i unrhyw un sydd am ymgymryd â gwaith adeiladu, neu unrhyw un sy’n byw drws nesaf i rywun sydd am ymgymryd â gwaith adeiladu. Mae’n rhoi fframwaith i atal neu i ddatrys problemau’n ymwneud â waliau cydrannol, waliau terfyn a gwaith cloddio.

Os ydych ar fin ymgymryd â gwaith adeiladu sy’n cynnwys:

  • Gwaith ar wal bresennol rhwng dau eiddo
  • Adeiladu ar y ffin ag eiddo cymydog
  • Cloddio ger adeilad cymydog
  • Symud neu newid ffens, naill ai dros dro neu’n barhaol

Rhaid i chi holi a yw’r gwaith wedi’i gynnwys yng nghwmpas y Ddeddf Waliau Cydrannol 1996; os felly, mae’n rhaid i chi ddweud wrth berchennog yr eiddo cyffiniol beth rydych yn bwriadu ei wneud.

A fedraf weld cynlluniau gwaith a wnaed ar fy eiddo?

Mae gennym gofnodion hanesyddol sy’n mynd yn ôl o leiaf 15 mlynedd. Os chi yw perchennog gwreiddiol yr eiddo neu’r perchennog dilynol, mae gennych hawl i weld unrhyw gynlluniau ar gyfer y gwaith a wnaed.

Os hoffech gael copi o’r cynlluniau hyn, rhaid i chi gael caniatâd ysgrifenedig y person a baratôdd y cynlluniau (e.e. yr asiant, y pensaer, y syrfëwr neu’r drafftsmon). Bydd yn rhaid talu tâl am y copïau.