Canolfannau Ailgylchu Cartref
O ddydd Llun, 6 Mai, bydd dyddiau agor ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn newid
Rydym ni’n gwneud llawer o newidiadau i ddiwrnodau agor y pum Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Sir y Fflint.
Ein diwrnodau agor newydd fydd:
Yr Wyddgrug, Oakenholt a Sandycroft
- Dydd Llun Agor
- Dydd Mawrth Agor
- Dydd Mercher Ar gau
- Dydd Iau Ar gau
- Dydd Gwener Agor
- Dydd Sadwrn Agor
- Dydd Sul Agor
Maes Glas a Bwcle
- Dydd Llun Agor
- Dydd Mawrth Ar gau
- Dydd Mercher Ar gau
- Dydd Iau Agor
- Dydd Gwener Agor
- Dydd Sadwrn Agor
- Dydd Sul Agor
Newidiadau i ddyddiau agor Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref - Cwestiynau Cyffredin
Yn sgil yr heriau cyllidebol y mae Sir y Fflint wedi’u hwynebu eleni ac yn disgwyl eu hwynebu yn 2025/26, bu’n rhaid i ni roi mesurau sylweddol ar waith er mwyn lleihau costau a chadw swyddi. Rydym wedi ystyried amryw o ffactorau yn ofalus wrth ddiwygio’r dyddiau a’r oriau agor. Mae’r rhain yn cynnwys patrymau defnyddio, effeithlonrwydd gweithredol, a’r angen i ddarparu gwasanaethau Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref o fewn y gyllideb ostyngedig a gytunwyd.
Na fyddwn, cyflwynwyd y cynnig hwn er mwyn lleihau costau a chadw swyddi.
Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar ba safle y gallwch ei ddefnyddio, os bydd eich safle agosaf wedi cau, defnyddiwch y safle nesaf sydd ar gael. Os bydd pob safle wedi cau (dydd Mercher) dylech storio eich gwastraff yn ddiogel yn eich cartref nes bydd modd i chi eu gwaredu’n briodol yn un o’r safleoedd. Nodwch os gwelwch yn dda, nid yw hyn yn berthnasol i bobl â thrwydded cerbyd neu drelar.
- Bwcle, Globe Way, CH7 3LY
- Maes Glas, Rhif 2 Parc Busnes Maes Glas, Maes Glas CH8 7GJ
- Yr Wyddgrug, Ffordd Nercwys, Nercwys, Yr Wyddgrug CH7 4ED
- Sandycroft, Prince William Avenue, Glannau Dyfrdwy, CH5 2QZ
- Oakenholt, Chester Road Oakenholt CH6 5SF
Nag oes, bydd yn rhaid i chi fynd â’ch gwastraff i safle arall neu eu storio’n ddiogel yn eich cartref nes byddwch yn gallu eu gwaredu’n briodol. Ystyrir unrhyw wastraff a gaiff eu gadael y tu allan i giatiau’r Safle Ailgylchu Gwastraff y Cartref fel tipio anghyfreithlon ac mae’n bosibl y bydd yn rhaid cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y troseddwr. Er mwyn monitro hyn, mae camerâu teledu cylch caeëdig ym mhob un o fynedfeydd Safleoedd Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Nag oes, bydd yn rhaid i chi storio eich gwastraff yn ddiogel yn eich cartref nes bydd modd i chi waredu eich eitemau yn briodol yn y safle sydd wedi’i nodi ar eich trwydded cerbyd.
Nag oes, bydd yn rhaid i chi storio eich gwastraff yn ddiogel yn eich cartref nes bydd modd i chi waredu eich eitemau yn briodol yn y safle sydd wedi’i nodi ar eich trwydded cerbyd. Os nad ydych chi ar gael ar ddyddiau agor eich safle dynodedig, gallwch wneud cais i newid y safle ar eich trwydded cerbyd neu drelar yn barhaol lle bo angen drwy gysylltu â streetsceneadmin@siryfflint.gov.uk
Nid ydym yn rhagweld unrhyw effaith ar berfformiad ailgylchu Sir y Fflint.
System Drefnu ar gyfer Teiars, Matresi ac Asbestos
Darganfod mwy
Trwyddedau Cerbydau a Threlars
Darganfod mwy
Cofiwch ddod â phrawf o’ch man preswylio efo chi pan fyddwch chi’n ymweld â Chanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Bydd yn rhaid i chi ddangos trwydded yrru neu fil Treth y Cyngor dilys gan Gyngor Sir y Fflint.
Ni dderbynnir trwyddedau o du allan i’r DU heb fil Treth y Cyngor dilys gan Gyngor Sir y Fflint.
Gallwch gwneud cais am gopi o’ch Bil Treth y Cyngor ar https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Council-Tax/Council-Tax.aspx
MESURAU DIOGELWCH Y SAFLE - GWYBODAETH PWYSIG
- Pan fyddwch chi’n cyrraedd, gofynnir i chi ddangos prawf eich bod yn byw yn Sir y Fflint – bydd hen fil Dreth y Cyngor sy’n llai na 12 mis yn ddigon.
- Bydd angen i chi aros wrth fynedfa’r safle tan y cewch ganiatâd gan y tîm. Byddwn yn gweithredu system lle caiff unigolyn ei adael i mewn wedi i un arall ddod allan. Mae’n RHAID i chi aros yn eich car tra byddwch chi’n ciwio.
- Lle bo hynny’n bosibl, dim ond y gyrrwr ddylai ymweld â’r safle ei ph/ben ei hun. Dim ond un person a ganiateir allan o’r cerbyd, oni bai eich bod angen cymorth i godi eitem trwm, bryd hynny, gall y teithiwr arall adael y cerbyd i’ch helpu i godi YN UNIG, yna rhaid iddynt ddychwelyd i’r cerbyd.
- Fe fydd y safleoedd yn brysur iawn ac fe ddylech ddisgwyl ciwio i gael mynediad i’r safle.
- Gofynnir i chi wahanu eich gwastraff cyn dod i’r safle i sicrhau fod eich ymweliad yn un cyflymach.
- Dim ond gwastraff na ellir ei ailgylchu y dylid eu rhoi mewn bagiau gwastraff du. Rydym ni’n casglu gwastraff gwyrdd, bwyd, caniau, deunydd plastig, papur, cerdyn a gwydr ymyl palmant, felly dylai preswylwyr ddefnyddio’r casgliadau yma ar gyfer y deunyddiau hyn. Ni fyddwn yn derbyn bagiau du sy'n cynnwys bwyd a/neu ddeunyddiau sy’n ailgylchu.
- Dylech drin ein timau, a chyd-gwsmeriaid gyda pharch ac ystyriaeth. Ni fyddwn yn goddef unrhyw gamdriniaeth, ac ni fyddwn yn goddef unrhyw un sy’n gwrthod dilyn y mesurau diogelwch yma.
Rydym ni’n darparu rhwydwaith o 5 o Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref sy’n galluogi trigolion i ailgylchu gwastraff o’u cartrefi.
09:00hrs tan 17:00hrs* yn ddyddiol.
*Mae’r safleoedd yn cau am 17:00 ond derbynnir y cerbyd olaf am 16:50 er mwyn caniatáu i ddadlwytho’r cerbyd.
Cwestiynau Cyffredin
Yn sgil cyfyngiadau o ran gofod a galw uchel, mae’r cyflenwad compost ar safleoedd ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn brin. Rydym yn ailgyflenwi lefelau stoc yn y safleoedd hyn yn rheolaidd; fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd y cyflenwadau yn brin neu ddim ar gael ar adegau. Bydd argaeledd deunydd compost ar sail y cyntaf i’r felin.
Bydd y mesurau diogelwch canlynol yn parhau i fod mewn ym mhob canolfan:
- systemau rheoli traffig a chiwio gyda nifer cyfyngedig o gerbydau fydd yn cael dod i mewn ar yr un pryd.
Mae gweithwyr ar y safle wrth law i sicrhau bod llif y traffig yn symud a byddant yn gadael i chi wybod pryd gewch chi fynd i mewn ac allan o’r safle. Dilynwch eu cyfarwyddiadau drwy’r amser.
Cewch, mae ein canolfannau ailgylchu yn derbyn tecstilau a dillad.
Cewch, rydym ni’n derbyn gwastraff gardd a DIY.
Dylech wahanu eich gwastraff cyn dod i’r safle er mwyn cyflymu eich ymweliad drwy’r safle.
Os oes gennych eitemau swmpus i gael gwared arnynt, naill ai arhoswch hyd nes ein bod yn cael derbyn y rhain, neu fel arall gallwch drefnu casgliad gwastraff swmpus drwy ein Canolfan Gyswllt 01352 701234.
- Peidiwch â gadael eich gwastraff tu allan i’r canolfannau ailgylchu neu fanciau ailgylchu. Gellir eich erlyn am dipio anghyfreithlon.
- Rhaid eich bod yn byw yn Sir y Fflint i ddefnyddio’r canolfannau ailgylchu. Yn yr un modd, ni fydd awdurdodau cyfagos yn derbyn gwastraff gan drigolion Sir y Fflint.
- Ni dderbynnir gwastraff masnachol.
Mae’r elusennau lleol Refurbs Flintshire (01352 734111) yn gallu casglu dodrefn ac eitemau trydanol y gellir eu hailddefnyddio yn rhad ac am ddim o garreg eich drws. Fel arall, hysbysebwch nhw ar wefan Freecycle / Freegle.