Alert Section

Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref - Gwybodaeth Archebu Lle ar gyfer Teiars, Matresi ac Asbestos


O fis Ebrill 2023, bydd angen archebu lle yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref ar gyfer Teiars 

System Archebu Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref

I gael gwared â theiars, matresi neu asbestos yn unrhyw un o Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref y Cyngor, bydd rhaid i chi archebu lle o flaen llaw

Teiars

Cyflwynir system archebu teiars mewn canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref i sicrhau bod digon o le ym mhob safle ac er mwyn atal cwmnïau masnachol a phreswylwyr nad ydynt yn byw yn Sir y Fflint rhag eu camddefnyddio.

Ni fyddwn yn derbyn teiars Masnachol, Amaethyddol na Pheiriannau. 

Pam fod rhaid i mi archebu slot i gael gwared â theiars?

Rydym yn cyflwyno system archebu slot er mwyn atal masnachwyr a busnesau rhag defnyddio Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref, sydd yno i wasanaethu trigolion Sir y Fflint yn unig. Mae archebu slot hefyd yn sicrhau bod digon o le yn y cynwysyddion yn y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref, fel nad yw’r trigolion yn cael siwrnai seithug. 

Pam eich bod chi’n rhoi cyfyngiadau ar yr eitem hon?

Mae nifer y teiars y cewch chi eu hailgylchu yn cael ei gyfyngu er mwyn rheoli nifer a mathau’r teiars sy’n cael eu cludo i’r safleoedd. Bydd y rhan fwyaf o drigolion yn defnyddio garej i newid eu teiars; cyfrifoldeb y garej yw cael gwared â’r teiars sydd wedi gwisgo yn briodol wedyn. 

Pa deiars ydych chi’n eu derbyn?

Rydym yn derbyn teiars cerbydau domestig, teiars beiciau modur a theiars beiciau. Nid ydym yn derbyn teiars cerbydau nad ydyn nhw’n rhai domestig, e.e. teiars Masnachol, Amaethyddol neu Beiriannau.

Beth alla’ i ei wneud os oes gen i fwy o deiars na’r swm a ganiateir?

Os oes gennych chi fwy na’r lwfans blynyddol o 4 teiar, fe allwch chi naill ai fynd at garej a allai eu derbyn, aros nes bydd 12 mis wedi pasio ac archebu slot arall ar lein neu ddefnyddio contractwr gwastraff lleol i gael gwared â nhw’n unol â’r gyfraith. Mae pob archeb ar e-ffurflen yn cael ei chofnodi yn erbyn eich cyfeiriad a’ch cerbyd.

Alla’ i archebu slot ar gyfer fy nheiars yn unrhyw un o’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref?

Gallwch, oni bai eich bod yn defnyddio fan, trelar neu dryc pic-yp i gludo’r teiars - os felly, bydd angen trwydded arnoch chi ar gyfer safle penodol.

Os oes gen i drwydded fan neu drelar, alla’ i ddefnyddio unrhyw Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref?

Na allwch - bydd angen i chi archebu slot ar gyfer y safle penodol sydd wedi’i nodi ar eich trwydded.

Alla’ i drefnu casgliad swmpus ar gyfer teiars?

NNa allwch. Nid yw gwasanaethu casgliadau swmpus Sir y Fflint yn cynnwys teiars.

Beth fydd yn digwydd os bydda i’n hwyr neu’n methu fy niwrnod/amser penodol?

Byddwch yn cael slot amser sy’n awr o hyd. Os na fyddwch chi’n cyrraedd o fewn yr awr hon, byddwch yn colli eich slot. Bydd angen i chi gysylltu â’r Gwasanaethau Stryd ar 01352 701234 os ydych chi am aildrefnu.


Teiars

  • Rydym yn derbyn teiars cerbydau domestig, teiars beiciau modur a theiars beiciau yn unig.
  • Mae’n rhaid archebu lle 48 awr cyn y dyddiad ymweld.
  • Bydd rhaid i chi ddangos cyfeirnod yr archeb i staff y safle er mwyn cael eu gwaredu yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref.
  • Cyfyngir y nifer o deiars y gellir eu cludo i’r safleoedd. Derbynnir pedwar teiar yn unig ar gyfer un archeb.
  • Caniateir un archeb yn unig mewn cyfnod o 12 mis.
  • Os bydd teiars yn cael eu cludo i’r safle mewn fan/trelar neu dryc pic-yp, bydd angen trwydded ddilys ar gyfer archebu lle; mae’n rhaid i’r safle a ddewisir gyd-fynd â’r safle sydd wedi’i nodi ar eich trwydded.
  • Gellir archebu lle ar gyfer unrhyw ddiwrnod o’r wythnos.

Cliciwch i gadw lle


Matresi

  • Rhaid cadw lle ar-lein 48 awr cyn y dyddiad tipio angenrheidiol
  • Mae cyfyngiadau yn eu lle ar faint o wastraff a ddaw i mewn. Dim ond un fatres a dderbynnir mewn un archeb.
  • Dim ond dwy archeb a ganiateir bob blwyddyn.
  • Gellir gwaredu yn unrhyw un o Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref er mwyn sicrhau bod cynhwysydd ar gael
  • Os bydd yn cael ei danfon mewn fan/trelar, rhaid i’r gyrrwr gael trwydded ddilys er mwyn cadw lle
  • Gellir gwneud apwyntiad ar gyfer unrhyw ddiwrnod o’r wythnos
  • Bydd rhaid dangos cyfeirnod yr archeb i staff y safle er mwyn cael mynediad i’r safle

Cliciwch i gadw lle


Asbestos

  • Rhaid cadw lle ar-lein 48 awr cyn y dyddiad tipio angenrheidiol.
  • Bydd cyfyngiad ar faint y gwastraff a ddaw i mewn. Derbynnir asbestos dim ond os bydd y gwastraff yn ffitio i’r bag coch a ddarperir. Gellir casglu’r bagiau o flaen llaw o Ganolfan Gyswllt.
  • Mae cyfyngiadau yn eu lle ar faint o wastraff a ddaw i mewn. Dim ond pum bag coch llawn a dderbynnir mewn un archeb.
  • Dim ond un archeb a ganiateir bob blwyddyn.
  • Gellir defnyddio sgipiau asbestos yng Nghanolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Maes Glas a Bwcle.
  • Os bydd yn cael ei ddanfon mewn fan/trelar, rhaid i’r gyrrwr gael trwydded ddilys er mwyn cadw lle.
  • Rhoddir gwybodaeth ar wefan Cyngor Sir y Fflint am y ffordd gywir i gael gwared ag asbestos.
  • Dim ond ar ddyddiau’r wythnos y gellir cael gwared ag asbestos.
  • Bydd rhaid dangos cyfeirnod yr archeb i staff y safle er mwyn cael mynediad i’r safle.

Cliciwch i gadw lle

Mae Cyngor Sir y Fflint yn argymell yn gryf bod trigolion yn defnyddio contractwr arbenigol i dynnu, casglu a gwaredu asbestos yn ddiogel os caiff ei ddarganfod yn eu heiddo. 

Gellir derbyn symiau cyfyngedig yng Nghanolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Bwcle neu Maes Glas, os ydynt wedi’u selio mewn bag asbestos coch cryf a bag allanol clir.  Mae’r sachau asbestos i’w cael gan Sir y Fflint yn Cysylltu. Byddwch angen eich cyfeirnod gan Sir Fflint yn Cysylltu er mwyn gallu cyflwyno eich e-ffurflen archebu.

Sylwch dim ond un slot y cewch chi archebu mewn 12 mis, sy’n cael ei gofnodi pan fyddwch chi’n archebu. 

NI FYDDWN YN DERBYN asbestos mewn unrhyw ddeunydd lapio arall na mwy na’r swm a nodwyd wrth archebu. Chewch chi ddim bagio’r asbestos yn y Ganolfan Ailgylchu. 

RHYBUDD:

Peidiwch â thorri, malu, sandio na drilio asbestos gan fod hynny’n rhyddhau ffibrau llidus i’r aer sy’n berygl os ydych chi’n eu hanadlu.

Ni fydd mygydau llwch safonol yn eich diogelu rhag ffibrau asbestos.

Am fwy o wybodaeth am y peryglon sy’n gysylltiedig ag asbestos, ewch i https://www.hse.gov.uk/asbestos/faq.htm

* Ymwadiad *

Nid yw’r ffaith ein bod ni’n darparu bagiau cryf i ddal asbestos yn golygu y cewch chi dorri dalennau mawr er mwyn iddynt ffitio yn y bag, a roddir ar gyfer symiau bychain.

Caiff asbestos ei drin a’i gludo a’i ddadlwytho ar eich cyfrifoldeb eich hun.