Alert Section

Casglu eitem swmpus / dodrefn


Os oes gennych chi eitemau swmpus angen eu gwaredu fe allwch chi archebu casgliad gwastraff swmpus drwy ffonio ein Canolfan Gyswllt ar 01352 701234.

Rhoi i elusen

Mae'r elusennau lleol Refurbs Flintshire (01352 734111) yn gallu casglu dodrefn ac eitemau trydanol y gellir eu hailddefnyddio yn rhad ac am ddim o garreg eich drws.  Fel arall, hysbysebwch nhw ar wefan Freecycle / Freegle.

Canolfannau Ailgylchu Nwyddau Cartref

Os fedrwch chi gario a chludo eitemau swmpus eich hun, fe allwch chi fynd ag amrywiaeth o eitemau yn rhad ac am ddim i’ch Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref leol. Mae’r canolfannau yn derbyn gwastraff pren, rwbel, pridd, asbestos a gwastraff peryglus.

Eitemau y gallwn ni eu casglu

Rhestr o eitemau y gallwn ni eu casglu 

Symudir oergelloedd a rhewgelloedd yn rhad ac am ddim o bob cartref.

Ffurflen Casgliad Oergelloedd a Rhewgelloedd

Ni allwn gasglu eitemau oni bai eu bod nhw ar y rhestr, ond gallwch fynd â'r mwyafrif o eitemau i'r Canolfan Ailgylchu Nwyddau Cartrefleol.

Costau (yn cynnwys TAW)

Noder o Ebrill 1 2024 fe fyddwn yn cynyddu ein ffi am gasglu gwastraff swmpus o £5.

TÂL AM HYD AT 5 EITEM = £40.00
TÂL AM BOB EITEM YCHWANEGOL = £ 5.00
Uchafswm y nifer o eitemau ychwanegol yw 5 (h.y. taliad uchafswm o £65.00 am weithrediad gyda 10 eitem i gyd)

Os ydych chi’n derbyn budd-daliadau penodol e.e. Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith (Seiliedig ar Incwm), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (Cysylltiedig ag Incwm), Lwfans Byw i’r Anabl / PIP, Pensiwn y Wladwriaeth neu Gredydau Pensiwn Gwarantedig, ac yn dangos tystiolaeth o hynny, fe allwch chi dderbyn casgliadau gwastraff swmpus rhatach.   

TÂL AM HYD AT 5 EITEM = £20.00
TÂL AM BOB EITEM YCHWANEGOL = £ 5.00

Uchafswm y nifer o eitemau ychwanegol yw 5 (h.y. taliad uchafswm o £45.00 am weithrediad gyda 10 eitem i gyd)

Trefnu casgliad

Bydd angen i chi gyflwyno manylion eich budd-dal/pensiwn i ni i os ydych yn gymwys i gael gwasanaeth casglu gostyngol.

Ffoniwch 01352 701234 i dalu trwy gerdyn credyd/debyd.

Anfonwch siec trwy'r post yn daladwy i 'Gyngor Sir y Fflint' ynghyd â rhestr o'r eitemau i'w casglu, eich enw, eich cyfeiriad a chopïau o fanylion eich budd-dal/pensiwn at Gwasanaethau Streetscene, Depo Alltami, Ffordd Yr Wyddgrug, Alltami, Sir y Fflint CH7 6LG.

Galwch heibio i swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu: Bwcle / Treffynnon / Y Fflint / Cei Connah / Yr Wyddgrug. 

Rydym yn derbyn arian parod, cardiau debyd neu gardiau credyd.

Byddwn yn casglu'r eitem(au) o fewn 10 diwrnod.

Amodau a chyfyngiadau

  • Rhaid i chi osod yr eitemau y tu allan i’ch eiddo ond o fewn y terfyn (e.e. gardd ffrynt/rhodfa) o’r amser y mae’ch casgliad wedi’i bennu.
  • Ni allwn ddod i mewn i'ch cartref i helpu gyda'r paratoadau neu'r gwaredu.
  • Peidiwch â gadael yr eitemau ar lwybr troed neu ar y ffordd oherwydd gallai hynny arwain at eich erlyn am dipio anghyfreithlon.
  • Mae'n rhaid bod y cerbyd casglu yn gallu parcio ar eich ffordd, heb gael ei rwystro na'i atal gan gerbydau eraill.
  • O ran eiddo â mynediad trafferthus, e.e. fflatiau, rhaid cytuno ar fan casglu gyda ni o flaen llaw.
  • Yr eitemau rydych chi wedi eu rhag-archebu yn unig y byddwn yn eu casglu.
  • Gallwn wrthod casglu unrhyw eitem a all effeithio ar iechyd a diogelwch ein staff casglu.
  • Gofynnwn i chi orchuddio eitemau sy'n debygol o amsugno dŵr glaw.
  • Ein nod yw casglu eich eitemau o fewn 10 diwrnod gwaith.
  • Byddwn yn ceisio ailddefnyddio neu ailgylchu cymaint o'ch gwastraff ag y gallwn.