Alert Section

Trwydded Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref


Newidiadau i Drwydded Cerbydau a Threlars Ebrill 2023

Mae’r trwyddedau’n caniatáu 12 ymweliad o fewn cyfnod o 12 mis.  Gweler y 
Telerau ac Amodau am ragor o wybodaeth. 

Cerbydau a threlars sydd angen trwydded

  • Holl drelars (un a dwy echel). Cyfyngiad hyd o 2 metr
  • Pic-yp (pob model)
  • Faniau sy'n deillio o geir
  • Fan fechan
  • Fan ganolig (to safonol neu isel sy’n llai na 7 troedfedd (2.14 metr)
  • Bws mini (gyda gosodiadau mewnol)
  • Faniau camper a chartrefi modur (gyda gosodiadau mewnol ac yn is na 7 troedfedd (2.14 metr)
  • Unrhyw gerbyd maint fan waeth beth yw eu categori neu ddiffiniad

Ni chaniateir trelars ar y safle os cânt eu llusgo gan gerbyd sydd angen trwydded.

Nid yw cerbyd anabledd angen trwydded serch hynny; ni chaniateir i gerbyd anabledd maint fan dynnu trelar yn unol â chyfyngiadau cerbydau Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.   

Mathau a gerbydau trelars na chaniateir

  • Faniau bocs mawr (math Luton)
  • Cerbydau nwyddau mawr (LGVs)
  • Lorïau/Cerbydau nwyddau trwm (HGVs)
  • Cerbydau tipio
  • Cerbydau gwastad
  • Faniau mawr (XLWB; LWB)
  • Faniau gyda thoeau uchel (dros 7 troedfedd (2.14 metr))
  • Trelars sy’n hirach na 2 fetr o hyd
  • RTelars bocs/trelars â phaneli ochr estynedig / trelars wedi’u haddasu
  • Trelars â rampiau mynediad/trelars cludiant
  • Cerbydau amaethyddol/tractor
  • Bocsys ceffylau/trelars ceffylau
  • Bws mini, faniau camper a chartrefi modur heb y gosodiadau mewnol.

Sylwch:- mae’r rhestr hon yn darparu enghreifftiau yn unig, fel canllaw, ac NID yw gwrthod yn gyfyngedig i fath/maint y cerbyd a restrir uchod, nad ydynt yn gymwys am drwydded. Os nad ydych yn sicr, gwiriwch.

Ni fydd trigolion sy’n cyrraedd y safle gyda threlar gwag i gasglu compost, angen eu trwyddedau.

Cerbydau gyda logo / lliwiau / arwyddion

Ni chaniateir i gerbyd gydag arwyddion neu logo arnynt ymgeisio am drwydded. Bydd ceisiadau’n cael eu penderfynu gan dystiolaeth gadarn am y math o fusnes, nid enw’r busnes, logo neu liwiau’n unig.

Nid yw’r consesiwn yma’n berthnasol i gerbyd sydd wedi’i gofrestru i fusnes neu gludwr gwastraff.  Os bydd unrhyw gerbyd yn cael ei amau o gludo nwyddau sy’n deillio o wastraff, bydd y drwydded yn cael ei diddymu ac fe wrthodir mynediad 

Cais ar-lein

I arbed amser, gwiriwch cyn gwneud cais, fod eich math o gerbyd yn dderbyniol. Gellir gweld copi o Delerau ac Amodau trwydded isod. Bydd angen y dogfennau canlynol i gefnogi eich cais. Darparwch luniau neu gopi o’ch trwydded a dogfennau gwreiddiol, gan na allwn dderbyn cyfrifoldeb am golli dogfennau gwreiddiol yn y post. Sylwch: gall brosesu a phostio trwyddedau gymryd hyd at 10-15 diwrnod gwaith. Sicrhewch eich bod wedi cynnwys yr holl ddogfennau sydd ei hangen er mwyn osgoi oedi. Ni ellir cymryd camau gyda’r ceisiadau a dderbynnir os nad yw trigolion wedi cyflwyno’r holl ddogfennau (lluniau neu gopïau) gofynnol, sy’n gyfredol ac yn dangos yr un cyfeiriad.

Gwneud cais ar-lein

Dogfennau sy’n ofynnol ar gyfer Cais Trwydded Cerbyd

  1. Llyfr Cofnodion Llawn y Cerbyd (V5)
  2. Trwydded Yrru
  3. Bil Treth y Cyngor neu 2 fil cyfleustod
  4. Lluniau o’r cerbyd sydd angen y drwydded:
    1. Cefn y cerbyd yn dangos y rhif cofrestru (drysau wedi cau)
    2. Golwg mewnol o’r cefn o’r drysau cefn (nid yw hyn ei angen ar gyfer pic-yp)
    3. Golwg o’r blaen
    4. Golwg o’r ochr yn llawn (ni dderbynnir golwg rhannol)

Dogfennau sy’n ofynnol ar gyfer Cais Trwydded Trelar

  1. Llyfr Cofnodion Llawn y Cerbyd (V5)
  2. Trwydded Yrru
  3. Bil Treth y Cyngor neu 2 fil cyfleustod
  4. Dimensiynau’r trelar (Hyd/Uchder/Lled)
  5. Lluniau o’r trelar sydd angen y drwydded:
    1. Cefn y trelar yn dangos y rhif cofrestru penodol
    2. Golwg o’r ochr gan ddangos hyd ac uchder yn llawn.

Neu E-bost:  Anfonwch eich cais trwydded i streetsceneadmin@flintshire.gov.uk gan atodi eich lluniau neu gopïau o’r holl ddogfennau uchod a thrwydded yrru. Os ydych yn profi anawsterau gydag unrhyw beth uchod, cysylltwch â’r llinell gymorth i gael cyngor ar 01352 701234

Telerau ac Amodau Trwydded 2021

Cyfyngiadau Covid-19 Dros DroYn sgil y mesurau cadw pellter cymdeithasol a diogelwch sydd ar waith ar ein safleoedd ar hyn o bryd, mae’n bosibl y byddwch yn profi ychydig o oedi wrth gyrraedd ein canolfannau oherwydd y cyfyngiadau ar nifer y cerbydau ar y safle. Mae’n rhaid cydymffurfio â’r rheolau safle, gan gynnwys golchi dwylo a chadw pellter o 2 fetr. 

  1. Caiff trwyddedau Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref eu cyflwyno yn ôl disgresiwn ac fe allant newid i gydymffurfio â deddfwriaeth safleoedd, gweithredoedd, gwiriadau cerbydau manwl neu addasiadau i’r amodau trwydded.  I osgoi unrhyw anghyfleustra, ymwelwch ag www.siryfflint.gov.uk/ailgylchu i weld y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun cyn eich ymweliad.   
  2. Mae’r trwyddedau’n caniatáu 12 ymweliad o fewn cyfnod o 12 mis.  Ni ellir ymestyn y dyddiad terfyn.  Ni fyddwn yn ystyried cyflwyno trwydded arall nes y bydd y drwydded gyfredol wedi dod i ben.
  3. Mae’n rhaid cyflwyno trwydded ddilys i aelod o staff y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref wrth gyrraedd y safle.  Mae’n rhaid i’r drwydded gael ei gwirio cyn dadlwytho unrhyw ddeunyddiau.  Dylid cyflwyno’r drwydded yn ystod pob ymweliad, nid yw hynny’n golygu bob dydd. 
  4. Caniateir un drwydded fesul aelwyd, a bydd y drwydded yn ddilys ar gyfer cerbyd arbennig sydd wedi'i gofrestru i gyfeiriad yn Sir y Fflint. Ni ellir trosglwyddo’r drwydded.
  5. Os yw ymgeisydd wedi derbyn trwydded yn y gorffennol, nid yw hynny’n golygu eu bod yn gymwys yn awtomatig i dderbyn rhagor o drwyddedau.  Bydd gwiriadau safonol yn cael eu cwblhau ar bob ymgeisydd, gan gynnwys sicrhau eu bod yn bodloni pob un o’r amodau trwydded.
  6. Mae'r trwyddedau hyn ar gyfer ‘gwastraff cartref’ o gartrefi preswylwyr Sir y Fflint yn unig.
  7. Ni dderbynnir unrhyw wastraff a ystyrir fel gwastraff Masnachol, Diwydiannol neu Fusnes yng Nghanolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Sir y Fflint.  Mae’r math hwn o wastraff yn cynnwys gwastraff a gynhyrchir gan fasnachwyr, contractwyr neu labrwyr sy’n gweithio ar safleoedd preswyl neu fusnes.  Mae hyn yn cynnwys landlordiaid yn gwaredu gwastraff o eiddo rhent, neu wastraff y mae'n rhaid talu i gael gwared ohonynt.  Mae’r math hwn o wastraff yn ymofyn ‘trwydded cludo gwastraff’ ac yn destun “Dyletswydd Gofal” ac ni fydd unrhyw un o'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn eu derbyn dan ein hamodau trwydded amgylcheddol.
  8. Ni fydd unrhyw un sydd â “thrwydded cludo gwastraff" yn gymwys am drwydded.
  9. Bydd yn rhaid i ddeiliaid trwydded sy’n ymgymryd ag addasiadau sylweddol i'w safle, gan gynnwys tai allan, dreifiau ac ati, sy’n cynnwys nifer fawr o ddeunyddiau adeiladu, gwaith tir neu dorri coed, archebu sgip at y diben hwn.
  10. Caiff trwyddedau eu cyflwyno ar gyfer y cerbyd y mae’r drwydded yn ymwneud ag o yn unig.  Ni chaniateir trelars os ydynt yn cael eu tynnu gan gerbyd heb drwydded. 
  11. Bydd newid cerbyd o fewn cyfnod 12 mis y drwydded yn annilysu’r drwydded. Byddwn yn ystyried ail-gyflwyno trwydded yn seiliedig ar:-a). P’un a yw’r drwydded wreiddiol gyfredol yn cael ei hildio i: Gweinyddu Trwyddedau Cerbydau, Depo Alltami, Ffordd yr Wyddgrug, Alltami, CH7 6LG.
    b). P’un a yw’r cerbyd yn fath a gymeradwyir. 
    c). P’un a yw pob amod yn y telerau ac amodau yn cael eu bodloni ac wedi’u bodloni yn y gorffennol. 
  12. Dylid rhoi gwybod am unrhyw addasiadau i gerbyd sydd eisoes wedi cofrestru am drwydded ac mae’n bosibl y bydd hyn yn annilysu’r cerbyd ar gyfer trwyddedau yn y dyfodol.  Mae’n bosibl y bydd addasiadau heb eu datgan ond sy’n cael eu nodi gan weithwyr y safle yn annilysu’r drwydded.
  13. Bydd trwyddedau wedi’u hagru, addasu neu sy’n cynnwys manylion aneglur yn annilys ac ni fyddant yn cael eu derbyn gan y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
  14. Achosion o golli trwydded neu ddifrod damweiniol i drwydded o fewn y cyfnod 12 mis :- Mae’n bosibl y bydd deiliad y drwydded yn gymwys i dderbyn trwydded rannol arall, a bydd eu cais yn cael ei ystyried yn seiliedig ar:
    a). Y dyddiad terfyn a nifer yr ymweliadau â’r safle.
    b). Unrhyw gofnod o golli neu ddifwyno trwyddedau yn y gorffennol.   Ni fydd trwyddedau llawn yn cael eu cyflwyno nes y bydd 12 mis wedi mynd heibio ers y dyddiad cyflwyno gwreiddiol.
  15. Mae gan Gyngor Sir y Fflint yr hawl i wirio’r manylion sydd ar gael am gerbydau a thystiolaeth o fasnachu gydag unrhyw gyrff Rheoleiddio perthnasol, neu unrhyw wybodaeth gyhoeddus, lle bo angen.
  16. Bydd unrhyw wastraff a gyflwynir i’r safle yn destun archwiliadau rheolaidd gan weithwyr y safle a/neu unrhyw swyddog awdurdodedig o’r Awdurdod neu Gorff Rheoleiddio.  Mae’n bosibl y bydd gofyn i bobl sy’n ymweld â’r safle agor sachau neu gynwysyddion i wirio’r cynnwys.  Gall methiant i gydymffurfio â hyn arwain at ddirymu eich trwydded.
  17. Am resymau diogelwch, mae’n rhaid i ddeiliad y drwydded ddatgan unrhyw Wastraff a allai fod yn beryglus  yn y llwyth a cheisio cyngor os ydynt yn ansicr.
  18. Mae’n rhaid gwahanu a gosod deunyddiau a gyflwynir i’r safle yn y sgip neu’r cynhwysydd cywir.  Os yn ansicr, gofynnwch am gyngor gan aelod o staff.
  19. Mae gan Gyngor Sir y Fflint yr hawl i ddod ag unrhyw gonsesiynau o dan y cynllun trwyddedau i ben os yw deiliad y drwydded yn mynd yn groes i unrhyw un o’r amodau trwydded.  Gellir gweld yr amodau trwydded ar-lein neu gellir gwneud cais am gopi caled drwy’r post. Sicrhewch eich bod wedi darllen a’ch bod yn deall yr amodau trwydded cyn ymweld â Chanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Sir y Fflint.  

Dirymu trwyddedau 

  1. Ni fyddwn yn goddef unrhyw achosion o fygwth neu gam-drin staff neu breswylwyr eraill, bydd hyn yn arwain at ddirymu’r drwydded ar unwaith, ac fe allai hefyd arwain at wahardd y deiliad rhag defnyddio Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Cyngor Sir y Fflint.
  2. Caniateir i aelodau staff Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref atafaelu trwydded lle bo angen, er enghraifft, mewn unrhyw achosion o:-
    a). Gam-drin neu fygwth staff y safle neu breswylwyr eraill.
    b) Peidio â chydymffurfio â rheolau safleoedd gan gynnwys cyfyngiadau cyflymder, cyfarwyddebau staff.
    c) Trwyddedau sydd wedi’u hagru, addasu neu sy’n cynnwys manylion aneglur ac felly’n annilys.
    d) Methiant i ddatgan gwastraff peryglus mewn llwythe) Cyflwyno gwastraff annerbyniol i’r safle.
  3. Os byddwn yn nodi cerbydau heb dreth neu yswiriant yn ystod gwiriadau rheolaidd, byddwn yn dirymu'r drwydded ar unwaith ac yn gwahardd y deiliad rhag defnyddio unrhyw un o'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Sir y Fflint p'un a oes ganddynt drwydded neu beidio.  Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn rhoi gwybod i'r heddlu a'r DVLA.
  4. Bydd unrhyw drwydded a gyflwynir yn sgil gwall gweinyddol, unrhyw wybodaeth ffals a dderbynnir, neu sy’n mynd yn groes i unrhyw un o delerau ac amodau'r drwydded, yn cael ei dirymu ar unwaith.
  5. Mae telerau ac amodau'r drwydded ar gael ar-lein; a gellir gwneud cais am gopi caled drwy'r post.  Sicrhewch eich bod wedi darllen a’ch bod yn deall yr amodau trwydded cyn ymweld â Chanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Sir y Fflint. 

Nid oes unrhyw eithriadau i'r telerau ac amodau hyn. 

Cwestiynau Cyffredin  

Os bydd y 12 ymweliad wedi eu defnyddio cyn dyddiad terfyn yr hawlen, ydw i’n gallu ymgeisio am un arall?
Nac ydych.  Mae hawlen ar gyfer 12 ymweliad yn unig o fewn cyfnod o 12 mis. Ni ellir ystyried hawlen arall nes bydd dyddiad terfyn yr hawlen wedi mynd heibio.

Mae fy mhartner a’i fab/merch wedi cael faniau wedi eu cofrestru ar gyfer yr un cyfeiriad; a oes ganddynt hawl i gael hawlen ar gyfer y ddau gerbyd? 
Nac oes.  Caniateir un hawlen yn unig fesul aelwyd ac mae’n ddilys ar gyfer cerbyd a nodwyd neu drelar a gofrestrwyd ar gyfer cyfeiriad yn Sir y Fflint.  Ni ellir trosglwyddo’r hawlen. 

A fydd fy hawlen yn cael ei adnewyddu yn awtomatig ar ôl i’r 12 mis fynd heibio? 
Na fydd.  Nid yw hawlen a gyhoeddwyd yn flaenorol yn gwneud ymgeisydd yn gymwys ar gyfer hawlen arall yn awtomatig.  Bydd gwiriadau safonol yn cael eu gwneud ar gyfer pob cais gan gynnwys bodloni holl amodau hawlen yn flaenorol.

Mae gennym hawlen ar gyfer ein fan ond rydym angen defnyddio trelar; allwn ni wneud cais am hawlen trelar? 
Na. Caniateir un hawlen fesul aelwyd ar gyfer cerbyd neu drelar, nid y ddau. Nid oes modd i fan neu unrhyw gerbyd arall sydd angen hawlen ddod â threlar ar y safle. 

Mae gennym hawlen cerbyd ar hyn o bryd ond rydym yn cael gwneud gwaith yn yr eiddo a byddwn angen mwy o ymweliadau.  Allwn ni wneud cais am hawlen estynedig?
Na.  Nid oes unrhyw eithriadau i 12 ymweliad o fewn cyfnod o 12 mis.  Bydd preswylwyr sy’n ymgymryd ag addasiadau sylweddol ar eu heiddo, gan gynnwys estyniad, tai allan, llwybrau ac ati sy'n cynnwys llawer iawn o ddeunydd adeiladu, gwaith tir neu dorri coed i lawr, angen defnyddio sgip at y diben hwnnw.

Mae fy hawlen hen arddull yn dal i fod mewn dyddiad. A allaf barhau i'w defnyddio a gwneud cais am yr hawlen arddull newydd pan fydd wedi dod i ben?

Na chewch. O 4 Ebrill 2022 bydd angen ildio'ch hawlen gyfredol yn ystod eich ymweliad nesaf â Chanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref (HRC). Nid oes angen i breswylydd wneud taith arbennig i ildio ei hawlen.  Bydd staff y safle yn casglu hawlenni hen arddull preswylwyr wrth ddod i mewn. Gellir gwneud cais am hawlen newydd ar-lein yn https://siryfflint.gov.uk/en/Resident/Bins-Recycling-and-Waste/Household-Recycling-Centre-Vehicle-Permit.aspx.

A fydd fy nhrwydded newydd yr un fath â’r hawlenni blaenorol?

Na fydd. Bydd yr hawlen newydd yn siâp hecsagon a chaiff ei chyhoeddi yn benodol ar gyfer y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref sydd agosaf at eich cyfeiriad.

A fydd hawlen arddull newydd yn cael ei rhoi ar gyfer yr ymweliadau sy'n weddill ar fy nhrwydded?

Na fydd. Bydd yr hawlen newydd yn para 12 mis llawn (12 ymweliad mewn 12 mis)

Pam bod angen hawlen ar fy nhrelar echel sengl?

Yn hanesyddol, dim ond trelars echel ddwbl oedd angen hawlen a’u hyd yn cael ei gyfyngu i 6 troedfeddFodd bynnag, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y trelars echel sengl mawr, wedi'u gorlwytho, yn dod i safleoedd yn rheolaidd. Gall y rhain achosi problemau diogelwch drwy rwystro allanfeydd safle ac atal defnyddwyr gwasanaeth eraill rhag cael mynediad i sgipiau a chynwysyddion.