Alert Section

Problemau talu eich Anfoneb


Mae Sir y Fflint yn eich annog i dalu symiau’n llawn, ond os ydych yn cael anhawster talu’ch anfoneb dywedwch wrthym ar unwaith fel y gallwn roi cymorth a chyngor i chi am drefniadau rhandaliadau addas ac opsiynau talu eraill.

Efallai y bydd hyn yn golygu llenwi ffurflen incwm a gwariant, a anfonir atoch ar ôl i’ch amgylchiadau personol gael eu hystyried. 

Cysylltwch â’r Tîm Dyledwyr ar 01352 703607.

A allaf wneud rhandaliadau?

Os ydych mewn tlodi go iawn ac yn cael anhawster talu, mae’n bosibl y bydd modd trefnu i chi dalu mewn rhandaliadau. 

Cysylltwch â’r Tîm Dyledwyr ar 01352 703607.

Hoffwn gwestiynu’r anfoneb a dderbyniais. Beth ddylwn ei wneud?

Os teimlwch fod yr anfoneb yr ydych wedi’i derbyn yn anghywir, cysylltwch â ni ar unwaith. Gwelir y manylion cyswllt ar eich anfoneb ar ochr dde eich cyfeiriad. Gellir ymchwilio i anghydfodau a datrys problemau go iawn.

Pam ydych wedi anfon nodyn atgoffa ataf?

Os nad yw’r anfoneb wedi’i thalu fel yr amlinellir ar yr anfoneb, neu os nad oes trefniant wedi’i wneud, byddwn yn anfon llythyrau adfer. Os byddwch yn parhau i fethu â thalu bydd camau pellach yn cael eu cymryd yn eich herbyn, gan gynnwys:

  • Atgyfeirio at asiant casglu dyledion
  • Achos Llys Sirol, a allai arwain at:
    • Dyfarniad Llys Sirol yn eich erbyn;
    • Atodiad i’ch enillion;
    • Gorchymyn arwystlo yn erbyn eich eiddo;
    • Gorchymyn dyled trydydd parti.

A allaf gael copi o’r anfoneb?

Gallwch wneud cais am gopi o anfoneb dros y ffôn a bydd yn cael ei darparu cyn pen ychydig ddyddiau. Cysylltwch â’r Tîm Dyledwyr ar 01352 703607 neu trwy anfon e-bost at debtmanagement@flintshire.gov.uk

Rwyf wedi gordalu fy anfoneb. Sut allaf gael fy arian yn ôl?

Os credwch eich bod wedi gordalu anfoneb cysylltwch â’r Tîm Dyledwyr ar 01352 703607 neu trwy anfon e-bost at debtmanagement@flintshire.gov.uk

Gofalwch fod gennych fanylion llawn y taliadau yr ydych wedi’u gwneud gan y bydd angen gwirio hyn yn erbyn ein cofnodion. Rhoddir ad-daliadau yn enw’r sawl a nodir ar yr anfoneb oni bai ein bod yn cael caniatâd wedi’i arwyddo ganddyn nhw neu eu cynrychiolydd cyfreithiol