Alert Section

Mân Ddyledwyr

Yn aml, cyfeirir at Ddyledion Amrywiol fel anfonebau amrywiol ac fe'u rhoddir am wahanol resymau, ac yn ymwneud ag ystod eang ac amrywiol o wasanaethau.

Mae anfonebau'n daladwy o fewn 30 diwrnod i dderbyn yr anfoneb a bydd y dyddiad dyledus i'w weld yn glir ar yr anfoneb fel arfer. Mae manylion ynglŷn â sut a ble i dalu wedi eu hargraffu ar gefn pob anfoneb a cheir manylion o dan "Sut alla i dalu?"

Pam ydw i wedi derbyn Anfoneb?

Os ydych chi wedi derbyn anfoneb, efallai ei fod yn ymwneud â gwasanaethau y gwnaethoch gais amdanynt gan y Cyngor. Mae’n rhaid i’r Cyngor godi tâl am y gwasanaeth a ddarparwyd ac mae’n gwneud hyn yn bennaf drwy anfoneb. Rhai enghreifftiau o wasanaethau y gallech wneud cais amdanynt ac y codir tâl yw:

  • Llogi cyfleusterau Hamdden e.e. Neuaddau neu feysydd pêl droed
  • Atgyweirio Tai
  • Tâl llety a gofal am yr henoed

Fel arall, efallai y byddwch yn derbyn anfoneb i adfer arian/budd-daliadau nad oedd gennych hawl i’w derbyn, neu o ganlyniad i ofyniad deddfwriaethol neu gytundeb dan gontract. Dyma rai enghreifftiau pam y codir anfoneb:

  • Casglu Sbwriel busnes a llogi biniau
  • Gordalu cyflog
  • Gordalu dyfarniadau grant
  • Taliadau rhent masnachol
  • Cerbydau wedi eu Gadael
  • Taliadau archwiliad cynllunio
  • Lesoedd a Thrwyddedau
  • Aildaliadau eiddo tai

Sut a Ble i Dalu

Ar-lein

Gallwch dalu ar-lein gyda'r rhan fwyaf o gardiau credyd a debyd, 24 awr y diwrnod

Cliciwch yma i dalu

Bancio dros y Rhyngrwyd / Ffôn

Gallwch dalu drwy fancio dros y ffôn neu’r rhyngrwyd. Dylech ddyfynnu manylion banc y Cyngor – Rhif Didoli 541010, Rhif Cyfrif 72521775 a dyfynnu eich Rhif Cwsmer a Rhif yr Anfoneb fel y’i gwelir ar eich anfoneb.

Archebion Sefydlog

Er mwyn trefnu i dalu eich anfoneb/cyfrif drwy archeb sefydlog mae angen i chi gysylltu gyda’r tîm Dyledwyr ar 01352 703607, fydd yn trefnu cynllun talu ar eich cyfer ac yn postio ffurflen atoch fydd angen ei llofnodi a’i dychwelyd.

Banc

Gallwch dalu ag arian parod neu siec mewn unrhyw fanc, ond efallai y codir tâl arnoch am y gwasanaeth hwn. Dylech ddyfynnu manylion banc y Cyngor – Rhif Didoli 541010, Rhif Cyfrif 72521775 yn ogystal â’ch Rhif Cwsmer a Rhif yr Anfoneb fel y dangosir ar eich anfoneb.

Drwy'r Post

Gallwch dderbyn sieciau drwy’r post. Rhowch rif cwsmer a rhif anfoneb ar gefn y siec a'i hanfon at Cashiers, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NA.

Nodwch os gwelwch yn dda:

Os ydych yn talu mwy nag un anfoneb gydag un siec, nodwch yn glir y swm sydd i’w dalu gyda’r rhifau cyfeirio perthnasol oddi ar yr anfonebau.

Swyddfeydd Sir y Fflint yn Cysylltu

Gall Swyddfeydd Sir y Fflint yn Cysylltu brosesu taliadau arian parod neu gerdyn

Cliciwch am leoliadau ac amseroedd agor

Pam ydych chi wedi anfon nodyn atgoffa ataf fi?

Os nad yw anfoneb wedi ei thalu fel yr amlinellir ar yr anfoneb, neu nad yw trefniant wedi ei ddilyn, anfonir llythyrau adferiad. Bydd parau i fethu â gwneud taliad yn arwain at gymryd camau pellach yn eich erbyn, a gall hyn gynnwys:

  • Cyfeirio at asiant casglu dyledion
  • Achos Llys Sirol, allai arwain at:
    • Wneud Dyfarniad Llys Sirol yn eich erbyn;
    • Atafaeliad i’ch enillion;
    • gorchymyn arwystlo yn erbyn eich eiddo;
    • Gorchymyn dyled 3ydd parti.

Trafferthion Talu eich Anfoneb

Mae Sir y Fflint yn annog talu yn llawn, ond pe baech chi’n cael problemau talu eich anfoneb, dywedwch wrthym ar unwaith er mwyn i ni roi cymorth a chyngor i chi ynglŷn â threfniadau rhandaliadau addas a dewisiadau talu eraill.

Gallai hyn gynnwys cwblhau ffurflen incwm a gwariant, gaiff ei hanfon unwaith y bydd eich amgylchiadau personol wedi eu hystyried. Cysylltwch â’r Tîm Dyledwyr ar 01352 703607.

Mae gen i anghydfod ynglŷn â’m hanfoneb

Os ydych yn teimlo fod yr anfoneb a gawsoch yn anghywir, cysylltwch â ni ar unwaith. Mae manylion ble dylech gysylltu i’w gweld ar eich anfoneb ar yr ochr dde i’ch cyfeiriad. Gellir ymchwilio i anghydfod a datrys problemau gwirioneddol.

Alla i gael copi o’r anfoneb?

Gellir gwneud cais am gopïau o’r anfonebau dros y ffôn ac fe’u darperir mewn ychydig ddyddiau. Cysylltwch â’r Tîm Dyledwyr ar 01352 703607 neu drwy e-bostio

debtmanagement@flintshire.gov.uk

Rydw i wedi gordalu fy anfoneb

Os credwch eich bod wedi gordalu anfoneb cysylltwch â’r Tîm Dyledwyr ar 01352 703607 neu drwy e-bostio

debtmanagement@flintshire.gov.uk

Gwnewch yn siŵr fod manylion llawn taliadau gennych a bydd angen gwirio hyn yn erbyn ein cofnodion. Rhoddir ad-daliad yn enw’r unigolyn sydd wedi ei nodi ar yr anfoneb oni bai ein bod yn cael awdurdodiad drwy lofnod ganddyn nhw neu eu cynrychiolydd cyfreithiol.