Alert Section

Asesiad poblogaeth Gogledd Cymru


“MAE'N BWYSIG EIN BOD YN GWYBOD BETH SY'N DIGWYDD, LLE MAE PETHAU YN MYND, A BETH SYDD ANGEN NEWID”

ASESIAD ANGHENION POBLOGAETH 2022

Mae’n bleser gennym ddatgan y bydd Asesiad Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru wedi’w gyhoeddi ac ar gael i’w weld ar Wefan Gydweithredol Gogledd Cymru neu ei lawrlwytho er mwyn ichi ei ddarllen o heddiw, ddydd Gwener 1af o Ebrill, 2022. Mae fersiwn EasyRead hefyd wedi'i chynhyrchu ac mae pob fersiwn ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg. 

Asesiad 2022

Cynhyrchwyd Asesiad Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru gan y chwe chyngor Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddangos i ni sut y gallwn gefnogi pobl yn well a gwella canlyniadau, ynghyd â'r hyn y gallai fod angen i ni ei wneud ar gyfer y dyfodol.

Cawn gipolwg ar bethau megis faint o gartrefi gofal y gall fod eu hangen arnom neu a oes angen mwy o wasanaethau arnom i helpu pobl ifanc. Mae'r Asesiad hefyd yn rhoi arweiniad i ni ar ba ymyriadau sy'n gweithio'n dda a beth sydd angen i ni ei wella.

Er mwyn paratoi'r adroddiad casglwyd gwybodaeth a data, edrychwyd ar ystadegau, siarad â'n cymunedau a defnyddio ystod eang o wybodaeth a gasglwyd gan gynghorau lleol, gwasanaethau iechyd, elusennau a sefydliadau eraill sy'n darparu gwasanaethau. Hyd yn oed gyda Covid-19, roedd pobl Gogledd Cymru yn dal yn rhan annatod o gynhyrchu’r Asesiad drwy roi gwybod i ni beth oedd ac sy’n bwysig iddyn nhw.

Yn gyffredinol, mae'r Asesiad Anghenion Poblogaeth yn ein galluogi i weld ein cryfderau a'n gwendidau ynghyd â pha adnoddau sydd yn eu lle. Mae hefyd yn dweud wrthym sut mae cymunedau, yn ogystal â sut y gallant newid yn y dyfodol a’n galluogi i gynllunio gwasanaethau gofal a chymorth sy’n diwallu eu hanghenion.

Mae cynnal yr Asesiad Anghenion Poblogaeth yn rhoi cipolwg i ni ar Ogledd Cymru gyfan. Amcangyfrifir bod cynnydd o 8,500 o bobl ers Asesiad Anghenion Poblogaeth 2017 ac mae’r tueddiad parhaus o niferoedd cynyddol o bobl hŷn fel y bydd angen gofal a chymorth arnynt i fyw’n dda wrth iddynt heneiddio. Mae’n ein helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol, ac wrth i newidiadau ddigwydd, byddwn yn gwirio ac yn diweddaru ein Hasesiad yn barhaus. Credwn y bydd hyn hefyd yn rhoi mwy o gyfle i bobl ddweud eu dweud a chymryd rhan mewn cynllunio a siapio gwasanaethau am flynyddoedd lawer i ddod.

Am ragor o wybodaeth neu gymryd rhan, cysylltwch â: northwalescollaborative@denbighshire.gov.uk neu cliciwch isod i weld yr Asesiad Anghenion Poblogaeth sydd newydd ei gyhoeddi:

Asesiad 2022