Alert Section

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant a Theuluoedd

Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Plant a Theuluoedd yn darparu cefnogaeth i sicrhau diogelwch, lles a datblygiad plant - gan ddelio â meysydd megis diogelu, gofal maeth, mabwysiadu, cefnogaeth i deuluoedd, ac ymyrraeth gynnar i'r rhai sydd mewn perygl o niwed neu esgeulustod.

Mabwysiadu

Mae mabwysiadu yn ymrwymiad gydol oes ac mae ein plant angen teuluoedd parhaol, sefydlog a gofalgar.

Awtistiaeth

Gobeithir y bydd y tudalennau hyn yn dod ag ystod o wybodaeth ynghyd i un lle i gyfeirio pobl at y wybodaeth gywir a chymorth.

Amddiffyn Plant

Sut i roi gwybod am bryder am les plentyn a chysylltiadau defnyddiol

Siarter Rhianta Corforaethol

Dewch i ddarganfod sut rydym yn addo cefnogi, amddiffyn a grymuso pob plentyn yn ein gofal.

Taliadau Uniongyrchol

Croeso i Hafan Taliadau Uniongyrchol Sir y Fflint.

Teuluoedd yn Gyntaf

Mae magu teulu yn un o'r pethau mwyaf heriol fydd unrhyw un ohonom yn ei wneud fyth. Mae plant angen llawer o gariad, arweiniad a chefnogaeth, ac fel rhieni rydym i gyd angen ychydig mwy o gefnogaeth ein hunain weithiau hefyd. Mae gennym ein brwydrau ein hunain fel rhieni, sy'n gallu gwneud gofalu am deulu yn fwy o her, hyd yn oed. Mae Teuluoedd yn Gyntaf yma i helpu pan fyddwch yn teimlo eich bod yn ei chael hi'n anodd ymdopi.

Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd

Cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir y Fflint neu edrychwch ar eu gwefan

Maethu

Gwasanaeth Maethu Sir y Fflint.

Help i Ofalwyr

Os ydych yn gofalu am rywun sy'n methu gofalu amdanyn nhw eu hunain oherwydd salwch, anabledd, neu effeithiau heneiddio a'ch bod yn rhoi gofal sylweddol, di-dâl i'r person hwnnw, felly rydych yn Ofalwr.

Meicro-Ofal

Mae'r Prosiect Meicro-Ofal yng Nghyngor Sir y Fflint yn ffordd wahanol o feddwl am Ofal Cymdeithasol, ac yn ychwanegiad gwerthfawr at sector sydd eisoes ag enw da.

MST Therapi Aml-Systemig

Mae MST yn targedu'r teuluoedd o unigolion 11 i 17 oed sy'n dangos ymddygiad gwrthgymdeithasol, sydd o bosibl â'r Heddlu a'r Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid yn ymwneud â nhw, digwyddiadau treisgar, camddefnyddio sylweddau, rhedeg i ffwrdd ac yn creu bywyd teulu anodd iawn ac allan o reolaeth yn gyffredinol.

Therapi Galwedigaethol

Mae'r gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn Sir y Fflint ar gael i unrhyw un sydd â chyflyrau iechyd parhaus sylweddol sy'n effeithio arnyn nhw eu hunain a'u teuluoedd wrth gyflawni eu bywydau bob dydd yn eu cartrefi a'u cymunedau.

Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig

Dysgwch fwy am Orchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig yma.