Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Siarter Rhianta Corforaethol

Dewch i ddarganfod sut rydym yn addo cefnogi, amddiffyn a grymuso pob plentyn yn ein gofal.

Mae pob plentyn a pherson ifanc yn ein gofal yn haeddu’r un gefnogaeth, a chyfleoedd y byddai unrhyw riant da yn eu darparu.

Yng Nghyngor Sir y Fflint, rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb fel rhieni corfforaethol o ddifrif.  Mae hyn yn golygu cydweithio ar draws yr holl wasanaethau, i sicrhau bod plant sy’n derbyn gofal, a’r rhai sy’n gadael gofal, yn ddiogel, yn cael eu meithrin a’u grymuso i ffynnu. 

Pobl - People

Pam Siarter – Beth yw ei phwrpas?

Mae ein Siarter Rhianta Corfforaethol yn nodi’r addewidion a’r cyfrifoldebau yr ydym yn ymrwymo iddynt gyda’n gilydd.  Mae’n fwy na pholisi - mae’n addewid y byddwn yn sicrhau bod plant a phobl ifanc wrth wraidd popeth a wnawn.

Mae’r siarter yn amlinellu sut y byddwn yn:

  • Darparu sefydlogrwydd, gofal ac anogaeth
  • Cefnogi cyfleoedd addysgol, hyfforddiant a chyflogaeth
  • Hyrwyddo iechyd, lles a pherthnasoedd cadarnhaol
  • Helpu pobl ifanc i baratoi i fod yn annibynnol ac yn oedolion
  • Gwrando ar eu lleisiau a gweithredu mewn ymateb i’w safbwyntiau
Teulu - Family 2

Trwy fynd i’r afael â’r egwyddorion hyn, rydym yn ceisio creu cymuned lle bo pob plentyn yn ein gofal yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu a’u cefnogi i gyflawni eu llawn botensial.

Mae modd archwilio manylion llawn ein hymrwymiadau yn llyfrynnau’r Siarter Rhianta Corfforaethol, sydd ar gael yn y dolenni cyswllt isod.

Lawrlwythwch y Siarter Rhianta Corfforaethol 

Lawrlwythwch y Siarter Rhianta Corfforaethol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc