Alert Section

Eiriolaeth

Os oes arnoch angen help gyda rhannu eich meddyliau a theimladau neu wneud penderfyniadau am ofal a chymorth, fe allai gwasanaeth eiriolaeth annibynnol eich helpu.

Tra bo nifer yn dibynnu ar deuluoedd neu ffrindiau ar gyfer hyn, gall ein gwasanaethau eiriolaeth a gomisiynir eich helpu gydag unrhyw heriau sydd gennych ynghylch rhannu eich meddyliau a theimladau neu wneud penderfyniadau am ofal a chefnogaeth. Gallant eich helpu i siarad â gweithwyr cymdeithasol, mynd i gyfarfodydd, gwneud cwynion, a dewis opsiynau gofal.

Gallwch gael cefnogaeth gan Wasanaethau Eiriolaeth Gogledd-ddwyrain Cymru trwy ddefnyddio’r ffurflen ar-lein.

Ffurflen atgyfeirio ar-lein

Neu,

  • Ffoniwch: 01352 759332
  • E-bost: advocacy@asnew.org.uk
  • Neges destun - 07506 207 394 (nid oes modd anfon neges destun yn ôl ar hyn o bryd ond bydd aelod o staff yn eich ffonio neu’n anfon e-bost atoch chi)

Os penderfynir mai nad eiriolaeth yw’r gwasanaeth sydd ei angen arnoch chi, fe allai Gwasanaethau Eiriolaeth Gogledd-ddwyrain Cymru (GEGDdC) eich helpu i ddod o hyd i’r bobl y mae angen i chi siarad â nhw.

GEGDdC - Gwasanaethau Eiriolaeth Gogledd Ddwyrain Cymru