Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Adeiladau a mannau yn yr awyr agored

Mae cymunedau hygyrch yn galluogi pobl i gadw mewn cysylltiad, cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol a chael mynediad at wasanaethau a chyfleusterau lleol. Mae strydoedd sydd mewn cyflwr da ac â digon o olau, arwyddion clir, mannau gwyrdd a thoiledau cyhoeddus i gyd yn cefnogi pobl hŷn i barhau i fod yn egnïol ac i fyw bywydau annibynnol.

Outdoor Space and Public Buildings

Pa fath o brosiectau allai fod yn berthnasol i’r parth yma? 

  • Gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu mwynhau parciau a mannau gwyrdd (goleuadau, meinciau ac ati)
  • Gwella mynediad adeiladau cymunedol i alluogi pawb i gymryd rhan
  • Sicrhau bod toiledau ar gael mewn llefydd (e.e. canol trefi, parciau, llwybrau cerdded)
  • Mannau croesi sy’n hawdd eu defnyddio gan bobl gyda nam ar y synhwyrau neu broblemau symudedd